2023: Llwybrau.
Yn 2023 rydym yn gwahodd ymwelwyr a thrigolion Cymru i grwydro llwybrau epig Cymru wrth i ni ddangos yr hyn sydd ar gael - gan ddefnyddio llwybrau fel sbardun i brofiadau cyffrous a chyfleoedd newydd.
Mae'r flwyddyn yn ymwneud â
- dod o hyd i drysorau anghofiedig,
- croesawu teithiau o'r synhwyrau
- gwneud atgofion ar hyd llwybrau o amgylch atyniadau, gweithgareddau, tirweddau ac arfordiroedd.
O Monet (Amgueddfa Cymru) i'r mynydd, o'r arfordir i'r cestyll, mae llwybrau i bob busnes eu dilyn, a llawer i ymwelwyr ei fwynhau.
Gan godi o lwyddiant ein pum thema flaenorol, mae "Llwybrau, Cymru, trwy Lwybrau" yn anelu at ysbrydoli ein rhanddeiliaid, partneriaid a'r cyfryngau, i ddefnyddio'r thema fel ffordd o arddangos yr ystod lawn o gynnyrch sydd gan Gymru i'w gynnig.
Bydd thema y flwyddyn hon hefyd yn digwydd yn dilyn Hydref hynod o broffil uchel a chyffrous i Gymru gyda Chwpan y Byd FIFA a misoedd lawer o weithgaredd (gan gynnwys teledu a fideo ar alw) gydag ymgyrch gwyliau'r Hydref a'r Gaeaf.
Gobeithio bydd y thema eleni yn cael ei chroesawu gan y diwydiant ac yn annog ymwelwyr i gilfachau o'r wlad drwy'r flwyddyn.
Am ysbrydoliaeth ac Adnoddau
Mae canllawiau “Llwybrau”, logo, canllawiau logo a delweddau o ansawdd uchel ar gael i bartneriaid yn y diwydiant eu lawrlwytho a’i defnyddio ar gyfer marchnata Llwybrau. Cymerwch olwg a'u lawrlwytho ar Assets: Llwybrau | Visit Wales.