Mae Enjovia o Gasnewydd yn dyst i feddwl arloesol yn y sector e-fasnach. Gan ddechrau yn gyfranogwr yn rhaglen Entrepreneuriaeth Ymddiriedolaeth Alacrity, mae'n arwain y gad o ran symleiddio'r broses o reoli cardiau a thalebau rhodd ar gyfer busnesau ledled y byd.
Cenhadaeth graidd y cwmni yw grymuso busnesau, yn enwedig yn y diwydiant lletygarwch a gwasanaeth byd-eang, trwy gynnig llwyfan rheoli cardiau a thalebau rhodd effeithlon sy'n hawdd ei ddefnyddio. Nod y platfform hwn yw gwella profiad y cwsmer, symleiddio gweithrediadau, a hybu refeniw.
Mae taith Enjovia, gafodd gefnogaeth werthfawr gan y Rhaglen Twf Carlam, yn dangos pŵer cynllunio strategol, aliniad tîm, a chroesawu newid. Fe wnaeth hynny eu gyrru o fod yn fusnes newydd lleol i fod yn fusnes sy’n arloesi’n fyd-eang yn y maes e-fasnach.
Yma, mae'r Rheolwr Gyfarwyddwr Sam Gibson yn rhannu ei daith fusnes ac yn esbonio sut mae cefnogaeth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu ar hyd y ffordd.
Dywedwch wrthym am Enjovia.
Rwy'n cofio ein dyddiau cynnar yn 2014, y sbardun oedd grymuso'r diwydiant lletygarwch a gwasanaethau byd-eang. Ein nod clir oedd darparu platfform hawdd ei ddefnyddio i fusnesau reoli cardiau a thalebau rhodd, gan wella eu refeniw a phrofiad cwsmeriaid.
Mae ein platfform yn ddeublyg: siop ar-lein i gwsmeriaid brynu profiadau a thalebau rhodd a dangosfwrdd gweinyddol i fusnesau reoli'r prosesau hyn. Mae ein system yn llawn nodweddion - y system fwyaf cynhwysfawr yn y farchnad - ac mae ein model busnes yn golygu ein bod yn sefyll allan. Rydym yn gweithredu ar sail comisiwn heb ffioedd sefydlog na ffioedd misol, sy'n golygu felly bod ein platfform yn hygyrch i fusnesau o bob maint.
Rydym ar fin rhyddhau trydydd iteriad ein system, sy'n cynnwys API agored a nodweddion gwell. Bydd yr uwchraddio hwn yn ein galluogi i weithredu ar raddfa lawer mwy ac ehangu i farchnadoedd byd-eang newydd.
Mae rhedeg tîm darbodus yn ein galluogi i fod yn hyblyg ac ymatebol. Mae pob aelod o'r tîm yn berchennog, sy'n alinio ein nodau a'n cymhellion. Mae'r strwythur hwn wedi bod yn hanfodol wrth addasu ein busnes yn gyflym i gwrdd â heriau sy'n dod i'r amlwg.
Rydym hefyd yn cael ein harwain gan fwrdd profiadol, sydd wedi bod yn allweddol wrth lywio ein strategaeth a'n twf.
Pa heriau y mae eich busnes wedi'u hwynebu ers dechrau? Sut rydych chi wedi addasu i'r heriau hyn?
Cafodd ein diwydiant ei daro'n galed gan COVID-19, ond bu ein presenoldeb byd-eang a'n ffocws ar farchnata yn allweddol bwysig. Fe wnaethom oroesi - a hyd yn oed dyblu ein sylfaen gwsmeriaid - trwy symleiddio costau, defnyddio grantiau, a dibynnu ar gronfeydd arian parod wrth gefn o elw blaenorol. Bu ein goruchafiaeth o safbwynt chwilio organig yn hanfodol wrth inni gyflawni hyn – mwy am hyn yn ddiweddarach!
Erbyn hyn mae gennym dros 180 o gwsmeriaid ar draws 35 o wledydd. Gellir mesur ein twf o safbwynt niferoedd, ac o safbwynt ein gwytnwch a'n gallu i addasu yn ystod cyfnod mor heriol.
Beth ydych chi fwyaf balch ohono o safbwynt y busnes hyd yma?
Rwy'n arbennig o falch o sut rydym wedi helpu cleientiaid fel y Celtic Manor Resort i gynyddu eu gwerthiant talebau rhodd blynyddol yn ddramatig o £700,000 i £2.5 miliwn gan ddefnyddio ein system. Rydym hefyd yn ymfalchïo yn ein harferion sy'n gymdeithasol gyfrifol. Mae cefnogi busnesau lleol, yn enwedig elusennau a busnesau newydd, yn rhan greiddiol o'n hethos ni. Rydym yn cynnig cyfraddau comisiwn gwerthu dewisol i gynorthwyo eu twf a'u llwyddiant. Rydyn ni'n llwyddo pan fyddan nhw'n llwyddo, ac rydym wrth ein boddau’n gweld busnesau bach yn tyfu trwy eu partneriaeth â ni.
Sut mae cymorth gan Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Rydym wedi bod yn ffodus i dderbyn cefnogaeth drwy amrywiol grantiau COVID-19, cyllid buddsoddi gan Lywodraeth Cymru, Wesley Clover, Sefydliad Waterloo, a buddsoddwyr preifat. Mae'r gefnogaeth hon wedi bod yn allweddol o safbwynt ein twf a'n datblygiad.
Mae ein partneriaeth â'r Rhaglen Cyflymu Twf wedi bod yn ganolog yn ein trawsnewidiad, yn enwedig o ran optimeiddio peiriannau chwilio, (SEO) a chanllawiau marchnata drwy ddenu i mewn. Mae'r gefnogaeth gan y Rhaglen Cyflymu Twf wedi bod yn allweddol wrth yrru ein twf, gan ein helpu i gyflawni presenoldeb cryf iawn ar-lein.
Diolch i becynnau gwaith arbenigol AGP, rydym wedi gweithio'n agos gyda Lee Woodman yn Visit Digital, a helpodd i sefydlu ein gwaith SEO a'n taith o ran marchnata drwy ddenu i mewn.
Dysgodd Lee ni sut i optimeiddio ein gwefan a'n system a phwysigrwydd ysgrifennu cynnwys i gipio traffig ar y we. Diolch i'r gwaith hwn, rydym bellach yn y tri uchaf ar gyfer 50 o'r geiriau allweddol yn ein diwydiant ac rydym ar ben y tabl ar gyfer tua 20 ohonynt. Roedd hyn yn eithriadol o bwysig i'n busnes. Mae wedi arwain at ymgorffori arbenigedd o ran SEO a chwilio organig o fewn y tîm. Mae cefnogaeth y Rhaglen Cyflymu Twf i fireinio ein strategaethau marchnata a SEO wedi bod yn hollol drawsnewidiol, ac wedi sefydlu ein goruchafiaeth yn ein diwydiant o ran chwilio organig.
Mae'r gwaith hwn wedi ein trawsnewid o fod yn gwmni gwerthu sy’n estyn allan, i gwmni sy’n gwerthu drwy ddenu i mewn, sydd wedi gyrru 90% o'n twf byth ers hynny.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i ddarpar entrepreneuriaid?
- Meddyliwch yn gynnar am gaffael cwsmeriaid.
- Canolbwyntiwch ar farchnata sy’n denu i mewn.
- Arbrofwch yn aml.
- Anelwch at broffidioldeb cyn ehangu.
- Adeiladwch dîm sy'n ategu eich sgiliau ac yn rhannu eich gweledigaeth.
Dysgwch fwy am Enjovia.
Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.