Ydych chi wedi diystyru’r syniad o fabwysiadu meddalwedd newydd yn eich busnes chi oherwydd eich bod chi’n meddwl y byddai’r rhy ddrud ac yn cymryd gormod o amser? Mewn gwirionedd, gall offerynnau digidol ei gwneud hi’n haws i chi gynnal eich busnes drwy arbed amser i chi ar wneud tasgau swyddfa arferol, megis rheoli eich archebion a threfnu’r llyfrau. Gallant hefyd arbed arian i chi yn yr hir dymor oherwydd y byddwch chi dim ond yn talu am yr hyn mae ei angen arnoch yn hytrach na thalu llawer yn cadw a chynnal hen systemau nad ydynt yn addas at y diben mwyach! 

A mwy na hynny, mae llawer o opsiynau meddalwedd sy’n cynnig fersiynau am ddim i’w treialu er mwyn i chi allu rhoi cynnig arnynt cyn prynu.  

A woman sat at a desk with a calculator and  2 computer screens

 

Dyma 7 ffordd y gall meddalwedd gymryd y straen allan o reoli eich busnes a’ch arian: 

Cyfrifyddu a chadw cyfrifon  

Mae llawer o ddatrysiadau ar gael i’ch helpu chi i reoli eich anfonebau, eich llif arian, eich gwariannau a chyflwyno datganiadau treth. Nid yn unig y gall hyn arbed amser ac ymdrech i chi, mae hefyd yn helpu i leddfu llawer o’r pryder sy’n gysylltiedig â rheoli eich materion ariannol!   

Ym mis Ebrill 2022, daeth Gwneud Treth yn Ddigidol i rym. Bellach, rhaid i’r holl fusnesau sy’n gofrestredig o ran TAW yn y DU gadw cofnodion digidol a chyflwyno datganiadau TAW i CThEF drwy ddefnyddio’r meddalwedd gydnaws.  

Cliciwch yma i adolygu rhai o’r mathau o feddalwedd cyfrifyddu/cadw cyfrifon sydd ar gael i BBaChau.  

Cyflogres  

Mae meddalwedd cyflogres yn rhoi’r swyddogaeth mae ei hangen arnoch chi i ddiwallu eich anghenion prosesu ac adrodd am gyflogres penodol chi. Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau yn cydymffurfio ag anghenion CThEF.  

Gall y rhain gael eu teilwra i ddiwallu anghenion megis ysbeidiau talu penodol ac integreiddio â systemau busnes eraill, megis cydymffurfio â chynlluniau diwydiannol gwahanol.  

Cliciwch yma i adolygu systemau cyflogres amrywiol a gynlluniwyd ar gyfer BBaChau.  

Systemau CRM  

Er y cynlluniwyd system Rheoli Perthnasoedd â Chwsmeriaid (CRM) i’ch helpu i ddeall eich cwsmeriaid yn well yn y bôn, mae’n offeryn gwych i’ch helpu i ddeall y gwerth y gallant ei gynnig i’ch busnes a gwneud penderfyniadau gwybodus am sut i gyfathrebu â nhw.  

Meddyliwch am eich system CRM fel offeryn i’ch helpu i gynyddu cyfleoedd, gwerthiannau a phroffidioldeb oherwydd y byddwch chi’n gallu targedu eich cwsmeriaid yn well, ar yr amser iawn gyda’r neges iawn.  

Cliciwch yma i edrych ar y systemau CRM a allai fod yn addas i’ch busnes chi.  

CRM icons coming out of a tablet with hands browsing on screen

 

EPOS

Mae systemau Pwynt Gwerthu Electronig (EOPS) yn hanfodol i fusnesau sy’n gweithio yn y sectorau manwerthu neu letygarwch. Mae’r feddalwedd hon yn rheoli gweithrediadau prynu a’r hyn mae’r cwsmer yn ei weld pan fyddant yn cwblhau trafodyn. Gellir hefyd ddefnyddio EPOS ar draws eich busnes fel rhan o system TG, gan gysylltu eich rheolaeth stoc swyddfa gefn, eich archebion a’ch ceisiadau CRM.  

Mae systemau EPOS yn offeryn gwych arall ar gyfer awtomeiddio a deall yr hyn rydych chi’n ei werthu’n well, yr hyn mae angen ei ail-archebu a bydd yn sicrhau eich bod chi’n lleihau gwastraffu cynnyrch ac arian, sy’n golygu mwy o elw o werthiannau wedi’u targedu.  

Cliciwch yma i weld systemau EPOS y gallech chi ystyried eu defnyddio.  

Taliadau â cherdyn/electronig   

Os ydych chi’n dymuno cynyddu gwerthiannau, efallai y byddai’n werth ystyried yr opsiynau talu rydych chi’n eu cynnig i gwsmeriaid. Drwy gynyddu’r dulliau talu rydych chi’n ei gynnig a chynnig amrywiaeth o derfynellau cerdyn gwahanol, byddwch chi mewn sefyllfa well i gymryd taliadau wyneb yn wyneb, ar-lein, dros y ffôn neu drwy ffôn clyfar.  

Gallai hyn helpu i gynyddu gwerthiannau drwy ei gwneud hi’n bosib i gwsmeriaid dalu gan ddefnyddio’r dull mwyaf cyfleus iddyn nhw, yn hytrach na gwrthod darpar gwsmeriaid oherwydd nad oes gennych chi’r gallu.  

Cliciwch yma ar gyfer rhai o’r opsiynau talu â cherdyn a allai fod o ddiddordeb i chi.  

Datrysiadau archebu  

Mae system archebu neu neilltuo yn offeryn gwych ar gyfer busnesau sy’n dymuno symleiddio ac awtomeiddio’r ffordd maent yn cadw gwybodaeth cwsmeriaid a chymryd taliadau. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol i fusnesau ym maes teithio, gwestai, rhentu ceir, llety gwely a brecwast, digwyddiadau a gweithgareddau eraill.  

Gallwch chi wella hygyrchedd i gwsmeriaid drwy ei gwneud hi’n bosib iddynt archebu a rheoli eu harchebion ar gyfrifiadur, llechen neu ffôn clyfar. Mae hyn yn sicrhau y caiff y trafodion eu prosesu a’u cadarnhau ar-lein yn syth ac yn ddiogel. Mae’n well gan rai cwsmeriaid gael archebion yn syth a byddai’n well iddynt beidio â gorfod ffonio busnes prysur, felly mae hyn yn arbed amser ac ymdrech i chi – mae pawb yn ennill.  

Cliciwch yma i weld rhai o’r datrysiadau archebu a allai fod yn addas i’ch busnes chi.   

Smartphone on table with online booking on screen and a notepad and cup of coffee alongside on table

 

Meddalwedd rheoli AD 

Os ydych chi’n cyflogi staff, gall rheoli pethau fel gwyliau, oriau gweithio, rotâu a salwch gymryd llawer o amser os ydych chi’n gwneud hynny â llaw. Gall meddalwedd AD eich helpu i gadw hyn oll mewn un lle diogel ar-lein. Felly, os ydych chi am wybod pwy sydd yn y gwaith, ar wyliau neu bant yn sâl ar unrhyw ddiwrnod penodol, mae gennych chi fynediad hwylus ar flaen eich bysedd.   

Mae amrywiaeth eang ar gael ac mae’r un sydd orau i’ch busnes penodol chi’n dibynnu ar yr hyn rydych chi am i’ch offeryn AD ei wneud. Er enghraifft, a oes angen system arnoch chi sy’n ei gwneud hi’n haws clocio i mewn ac allan, un sy’n galluogi eich cyflogeion i fewngofnodi a threfnu amser i ffwrdd neu dim ond rywle i gadw cofnodion cyflogai ar-lein?    

Cliciwch yma i weld offerynnau rheoli AD  

Ydych chi’n dal i bendroni am yr offerynnau a allai fod yn fuddiol i’ch busnes chi?  

  

Lawrlwythwch eich Pecyn Adnoddau Digidol i Fusnesau