Geirfa Band Eang

  • Lled band  – Gallu’ch cysylltiad rhyngrwyd i drawsyrru neu dderbyn data h.y. pa mor sydyn y byddwch yn medru llwytho data i fyny neu i lawr.
  • Band Eang Cebl – math o fand eang sy’n defnyddio’r un dechnoleg ffeibr optig â theledu cebl. Mae’n cynnig gwasanaeth da ond nid yw ar gael mewn ardaloedd heb wasanaeth cebl.
  • Cwmwl – Cadw a chael mynediad at ddata a rhaglenni dros y rhyngrwyd yn hytrach nag ar yriant caled eich cyfrifiadur.
  • CRM – (Customer Relationship Management) Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid. Dyma system ar gyfer rheoli cysylltiadau cwmni â chwsmeriaid presennol ac arfaethedig. Mae’n defnyddio technoleg i drefnu, awtomeiddio a chysoni gwerthiant, marchnata, gwasanaeth cwsmer, a chymorth technegol. Mae band eang cyflymach yn eich galluogi i redeg meddalwedd CRM o’r rhyngrwyd gan roi mynediad i staff at wybodaeth hanfodol ar gwsmeriaid, cyflenwyr a chynnyrch, o bell ac o flaen eich teclyn gartref.
  • Cyflymder llwytho i lawr – Pa mor gyflym allwch chi drosglwyddo data o rwydwaith neu o’r rhyngrwyd i’ch cyfrifiadur.
  • Terfynau llwytho i lawr – Mae hyn yn gosod terfyn ar faint o ddata a ganiateir i chi ei lwytho i lawr o’r rhyngrwyd am gyfnod penodol o amser, a elwir hefyd yn gap lled band.
  • DSL – (Digital Subscriber Line) Llinell Danysgrifio Ddigidol. Dyma’r dechnoleg a ddefnyddir i gynnig mynediad at y rhyngrwyd drwy drawsyrru data digidol drwy linellau ffôn copr yn gyflym iawn.
  • Cyfnewidfa  – Mae llinellau ffôn yn mynd drwy gyfnewidfa leol er mwyn medru cyrraedd gweddill y rhwydwaith ffôn. Mae’r gyfnewidfa’n gwahanu cyfathrebiadau lleisio a data a’u hanfon ymlaen i rannau cywir a phriodol o’r rhwydwaith ffôn.
  • Band Eang Ffeibr Optig – Cysylltiad rhyngrwyd band eang sy’n defnyddio ceblau ffeibr optig i drosglwyddo data.
  • FTTC – (Fibre to the Cabinet) Cysylltiad Ffeibr i’r cabinet. Mae’n cyflenwi llinellau ffeibr optig i’r cabinet yn y stryd ac yna drwy linellau ffôn copr presennol i’ch eiddo.Gall hyn gyflawni cyflymder hyd at 80Mbps (yn hytrach na 5-6Mbps ar gyfer band eang ADSL safonol).
  • FTTP – (Fibre to the Premises) Cysylltiad Ffeibr i’r Adeilad. Mae’n cyflenwi llinellau ffeibr optig yn uniongyrchol i’r adeilad, sydd yn gyflymach fyth. Gall hyn gynnig cyflymder llwytho i lawr hyd at 330Mbps.
  • IaaS – (Infrastructure as a Service) Seilwaith fel Gwasanaeth. Dyma fath o gyfrifiadura cwmwl sy’n cynnig adnoddau cyfrifiadura rhithwir dros y rhyngrwyd. Gellir rhyddhau costau caledwedd, meddalwedd, gweinyddion a chadw drwy roi eich seilwaith TG ar y cwmwl.
  • Cyfeiriad IP – (Internet Protocol address) Cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd. Dyma rif unigryw sy’n nodi lleoliad eich cyfrifiadur ar y rhyngrwyd, sy’n galluogi i’r cyfrifiadur hwnnw gyfathrebu â chyfrifiaduron eraill.
  • ISP – (Internet Service Provider) Darparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd. Cwmni sy’n cynnig mynediad i’r rhyngrwyd i chi e.e. BT, Virgin, Sky neu Talk Talk ac ati.
  • Mbps – (Megabits per second) Megabit yr Eiliad. Y cyfanswm o ddata a drosglwyddir fesul eiliad mewn perthynas â chyflymder eich cysylltiad rhyngrwyd.
  • Modem – Dyfais o galedwedd sy’n galluogi cyfrifiaduron i gysylltu â’r rhyngrwyd ar linell ffôn.
  • Llwybrydd – Dyfais o galedwedd a ddefnyddir i reoli llif data yn gyflym rhwng y gyfnewidfa a’r rhwydweithiau cyfrifiadurol. Bydd eich cysylltiad band eang yn mynd trwy’r llwybrydd er mwyn iddo gael ei sianelu i’r rhyngrwyd yn gywir.
  • SaaS – (Software as a Service) Meddalwedd fel Gwasanaeth. Dyma ffordd i drwyddedu meddalwedd ac mae’n fodel dosbarthu hefyd lle cedwir rhaglenni gan brynwr neu ddarparwr gwasanaeth a’i gynnig i gwsmeriaid dros y cwmwl, gan felly leihau’r angen am seilwaith TG ac arbenigedd technegol.
  • SFBB – (Superfast Business Broadband) Band Eang Busnes Cyflym Iawn. Mae’n cynnig cyflymder rhyngrwyd hyd at 330Mbps drwy rwydweithiau band eang ffeibr optig soffistigedig iawn.
  • Cyflymder – Cyflymder eich cysylltiad rhyngrwyd a pha mor gyflym allwch chi anfon / derbyn data e.e. 100Mbps.
  • Ffrydio – Pan fyddwch chi ar-lein, yn aml gallwch wylio neu wrando ar sain neu fideo digidol heb ei gadw ar eich cyfrifiadur – pan wnewch hyn, rydych yn ffrydio’r wybodaeth.
  • Band Eang Cyflym Iawn – Darperir band eang traddodiadol (ADSL) drwy linellau ffôn copr, tra bod band eang cyflym iawn yn defnyddio ceblau ffeibr optig (a gwifrau ffôn copr ambell waith), sydd yn llawer cyflymach a dibynadwy. Ar hyn o bryd mae dwy brif ffordd o gyflenwi’r dechnoleg hon, FTTC a FFTP (gweler uchod).
  • TCP/IP – (Transmission Control Protocol / Internet Protocol) Protocol Rheoli Trawsyriant / Protocol Rhyngrwyd. Iaith gyfathrebu sylfaenol y rhyngrwyd. Mae TCP / IP yn rhaglen dwy haen. Mae Protocol Rheoli Trawsyriant yn gosod y neges / ffeil mewn pecynnau llai a drosglwyddir dros y rhyngrwyd ac yna’u had-drefnu fel y neges wreiddiol. Mae Protocol Rhyngrwyd yn sicrhau bod pob pecyn yn cyrraedd y gyrchfan gywir.
  • Llwytho i Fyny – I gopïo ffeil o gyfrifiadur lleol i’r Rhyngrwyd.
  • VoIP – (Voice over Internet Protocol) Protocol Llais dros y Rhyngrwyd. Dyma gategori o galedwedd a meddalwedd sy’n galluogi pobl i ddefnyddio’r rhyngrwyd ar gyfer galwadau ffôn drwy anfon data lleisiol mewn pecynnau wrth ddefnyddio protocolau rhyngrwyd yn hytrach na’r dull traddodiadol o PSTN (Public Switched Telephone Network). Un fantais o VoIP yw nad yw’r galwadau ffôn dros y rhyngrwyd yn codi gordal uwchben yr hyn a delir gan y defnhyddiwr am fynediad i’r Rhyngrwyd, yn debyg iawn i’r ffordd nad yw’r defnyddiwr yn talu am anfon negeseuon e-bost dros y Rhyngrwyd.