Does dim pwynt cael gwefan os nad oes unrhyw un yn ymweld â hi. Dyma 9 syniad i’ch helpu i wirio a yw eich gwefan yn gweithio fel y dylai!


Dechreuwch ddefnyddio Google Analytics

Bydd angen i’ch datblygwr gwefan ychwanegu cod syml at eich gwefan. Os ydych yn dechrau gyda gwefan newydd, gellir gwneud hwn yn hawdd o’r dechrau. Bydd hefyd angen i chi fod yn berchen ar eich cyfrif Google eich hunan. Wedi i chi sefydlu hyn, y cwbl sydd rhaid i chi ei wneud yw cael mynediad i Google Analytics ar lein a dod i ddeall y dangosfwrdd.

 

Buddsoddwch amser i ddod i ddeall Google Analytics

Gallai Google Analytics ymddangos yn hynod anodd i ddechrau ond mae digon o ganllawiau a thiwtorialau ar gael ar lein i’ch helpu chi i archwilio beth allwch chi ei adolygu. Cymerwch yr amser i ddeall beth rydych yn gallu ei olrhain a beth sy’n bwysig ar gyfer eich busnes.

Ewch i’r arfer o wirio

Os nad ydych yn gwirio bob dydd, dylech fod yn gwirio eich dadansoddeg o leiaf unwaith yr wythnos. Bydd hyn yn eich helpu i gael dealltwriaeth go iawn o’r gweithgarwch sylfaenol ar y wefan ac unrhyw uchafbwyntiau ac isafbwyntiau.

 

Penderfynwch ar eich dadansoddeg allweddol

Gallai faint o wybodaeth y mae modd i chi ei olrhain a’i adolygu gyda dadansoddeg fynd â’ch holl ddiwrnod. Dechreuwch trwy benderfynu beth sydd bwysicaf ac yna gwnewch yn siŵr mai’r ffigurau hyn yw sail eich adroddiad bob wythnos. Dylai hyn gynnwys nifer yr ymwelwyr, cyfradd bownsio, pa mor hir y bydd pobl yn aros ar eich safle a pha dudalennau y maent yn ymweld â nhw.

 

Gweithredwch ar sail y wybodaeth hon

Mae’r data yr ydych yn ei gasglu yn ddiwerth oni bai eich bod yn gweithredu o’i herwydd. Ystyriwch beth allwch chi ei wneud o ran gwelliannau a denu mwy o bobl at eich gwefan. Drwy adnewyddu dadansoddeg eich safle yn gyson, gallwch ddeall beth sy’n llwyddo a beth nad yw’n llwyddo.

 

Beth yw gwefan ‘dda’?

Gwnewch yn siŵr fod gennych amcanion clir, realistig mewn golwg ar gyfer eich gwefan.

Yr amcanion hyn fydd yn gosod y nod ar gyfer mesur eich perfformiad a’ch llwyddiant.

Defnyddiwch declynnau eraill

Er bod Google Analytics yn un o’r teclynnau mwyaf adnabyddus, nid dyma’r unig un sydd ar gael. Gallwch hefyd ddefnyddio teclynnau ar lein eraill sy’n darparu metrigau gwahanol. Er enghraifft, mae hotjar yn dangos map gwres o sut yn union mae ymwelwyr yn defnyddio eich safle a gall nibbler roi gwerthusiad i chi o’ch safle o ddolenni tudalennau wedi torri i gydymffurfio â SEO.

 

Gwrandewch ar eich cwsmeriaid

Er y gall teclynnau ddarparu mewnwelediadau mawr, does dim byd yn well na gwrando ar eich cwsmeriaid. P’un ai drwy ymchwil y farchnad, cyfryngau cymdeithasol ac adolygiadau, gofynnwch am adborth eich cwsmeriaid ar eich gwefan. Byddwch yn agored eich meddwl a chofiwch mai ar gyfer eich cwsmeriaid mai eich gwefan felly dylai ddiwallu eu hanghenion nhw!

 

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen