P’un ai eich bod chi’n ystyried dechrau blog busnes neu’n adolygu sut rydych yn rheoli blog presennol, os ydych yn buddsoddi amser ac ymdrech mewn cynhyrchu cynnwys, yna byddwch eisiau sicrhau eich bod chi’n defnyddio’r llwyfan yn effeithiol.

Dyma 5 awgrym defnyddiol i’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch blog:

 

Llunio cynllun cynnwys

 

Pan fyddwch yn ymrwymo i flog busnes, mae’n werth chweil llunio cynllun i’ch helpu i weithredu’r cynnwys mewn ffordd amserol a chyson. Rydych chi eisiau i’ch darllenwyr wybod pa fath o gynnwys a pha wybodaeth y gallant ei disgwyl oddi wrthych. Yn yr un modd, dylai fod gennych amserlen gweithgarwch, fel bod yn eich darllenwyr yn gwybod pa mor aml y gallant ddisgwyl cynnwys newydd. Trwy gael cynllun, gallwch wneud yn siŵr eich bod chi’n bodloni disgwyliadau eich darllenwyr ac yn eu hannog i barhau i ddychwelyd at eich blog.  

 

Cael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am bynciau yn eich diwydiant

 

Ffordd wych o greu syniadau cynnwys newydd yw dilyn newyddion, trafodaethau a themâu allweddol yn eich diwydiant.  Mae blog yn cynnig cyfle perffaith i’ch busnes fod yn berthnasol a chysylltu darllenwyr â diddordeb â’r materion a phroblemau pwysig yn eich maes. Trwy alinio eich cynnwys a phrif bynciau neu faterion cyfresol, gallwch amlygu eich hun fel llais awdurdodol gwybodus.

 

Rhannu eich blogiau 

 

Mae pawb wedi clywed y cydweddiad, “os yw coeden yn syrthio yn y goedwig ac nid oes neb yno, a yw’n gwneud sŵn?”. Dylech ystyried eich blog busnes yn yr un modd. Os ydych wedi cynhyrchu blog gwych ond nad oes neb yn gwybod amdano, a oes diben iddo mewn gwirionedd? Mae’n bwysig, ar ôl i chi greu’r cynnwys hwn, eich bod chi’n gwneud y mwyaf ohono trwy, er enghraifft, amlygu ei leoliad ar eich gwefan, ei rannu yn eich deunyddiau marchnata trwy e-bost, neu ei hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol.

 

Ystyriol nid hyrwyddol 

 

Gobeithio y bydd eich blog yn bwysig i ddenu cwsmeriaid a gwerthiannau at eich busnes - fodd bynnag - mae’n hanfodol nad yw’ch blog yn cael ei ddefnyddio fel offeryn hyrwyddo’n unig. Dylai eich blog gynnig i’ch darllenwyr gyngor, mewnwelediad, barn neu fynd i’r afael â phroblem a all fod ganddynt. Hynny yw, dylai eich blogiau ddarparu cynnwys sy’n dal sylw ac sy’n procio’r meddwl, y bydd eich cwsmeriaid, neu ddarpar gwsmeriaid, eisiau ei ddarllen yn hytrach na cheisio gwerthu’n unionyrchol iddyn nhw. Sy’n ein harwain at bwynt 5…

 

Creu ar gyfer eich busnes

 

Dylech greu a rheoli eich blog busnes gyda’ch cwsmeriaid ym mhen blaen eich meddwl. Pa bynciau sydd ganddynt ddiddordeb ynddynt? Ar gyfer beth y mae angen help arnynt? Pa wybodaeth fyddai o fudd iddyn nhw? Trwy feddwl fel hyn, gallwch annog eich cwsmeriaid a darpar gwsmeriaid i feddwl amdanoch chi pan fydd angen gwasanaeth neu gynnyrch penodol arnynt.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen