Wrth i chi ddechrau cynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf, efallai eich bod chi’n ystyried sut gallwch chi ddechrau tyfu eich busnes. Mae’n syniad da dechrau gyda chynllun cadarn a chamau clir i’w cymryd cyn i chi symud ymlaen tuag at eich nod.

 

Bydd datblygu eich cynllun eich hun yn sicrhau bod eich nodau’n realistig ac yn gyflawnadwy, bydd yn mynd i’r afael â’r camau fydd angen i chi fynd trwyddynt, ac yn helpu i gadw eich ffocws ar y daith hon.

 

Mae’n annhebygol iawn y bydd eich twf yn digwydd dros nos - ac mae cynllun twf yn offeryn gwych i gyfeirio’n ôl ato, i wneud yn siŵr eich bod chi ar y llwybr cywir.

 

Amlygu cyfleoedd ar gyfer twf

Os yw’ch cyfleoedd ar gyfer twf yn dangos eu hunain neu eu bod nhw eisoes yn amlwg i chi, gwych! Os na, mae’n syniad da meddwl am feysydd y busnes sy’n llwyddiannus neu bethau newydd y gallech chi eu gwneud.

Galli hyn gynnwys ychwanegu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, gwerthu mwy o’ch cynhyrchion, agor lleoliad newydd, neu dargedu marchnad wahanol neu ychwanegol.

 

Adolygu eich staff a’ch prosesau

Wrth i’ch busnes ddechrau tyfu, byddwch yn debygol o angen mwy o staff. Mae hyn yn rhywbeth y bydd angen i chi ei ystyried yn eich costau. Gallwch hefyd ystyried sgiliau eich gweithwyr presennol a ph’un ai a all y staff eich helpu gyda’ch cynlluniau twf – efallai y gallwch lenwi swydd newydd gyda rhywun o’ch tîm presennol.

 

Beth yw’ch cyllideb?

Gallai gostio arian i ddechrau gwneud mwy o arian. Er efallai bod eich cynllun yn cynnwys trosiant ac elw cynyddol yn y pen draw, i ddechrau, efallai y bydd angen i chi rentu mwy o le manwerthu, datblygu gwefan newydd, cyflogi staff newydd, a chostau eraill a fydd yn eich helpu i gyflawni eich nod.

 

Dechreuwch trwy edrych ar eich cyllideb a bod yn realistig o ran beth allwch chi ei fforddio – a pha lwybrau posibl eraill efallai y bydd angen i chi eu defnyddio i ariannu’r elfennau ychwanegol y bydd eu hangen ar eich busnes.

 

Cael cymorth busnes

Mae cymaint o gymorth busnes rhad ac am ddim ar gael, ar-lein ac all-lein, gan ddibynnu ar eich ffafriaeth. P’un ai a yw hynny’n weithdai, mentora un i un, neu’n ganllawiau cyngor. Mae’r arweiniad a gynigir ar flaen eich bysedd, felly gwnewch yn siwr eich bod chi’n manteisio arno!

 

Ystyriwch eich anghenion technoleg

Wrth i chi ddechrau tyfu, gallai rheoli elfennau amrywiol ar eich busnes fod yn llethol os nad oes gennych chi’r offer cywir ar waith i’ch cynorthwyo chi. Meddyliwch am ba elfennau o’ch busnes y gallai fod yn awtomatig neu gael eu trosglwyddo i lwyfannau digidol i ryddhau eich amser, arbed arian neu symleiddio prosesau.

 

Gallai hyn fod yn rhywbeth fel system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid, offer i’ch helpu rheoli eich cyllid, neu rywbeth mor syml â llwyfan rheoli cyfryngau cymdeithasol. Gallai cael gwared ar un dasg o’ch baich gwaith roi’r amser amhrisiadwy i chi ganolbwyntio ar dwf eich prosiect.

 

Cyflawni dadansoddiad SWOT

Mae hwn yn bwysig, gan y byddwch chi’n mynd i’r afael â’ch cryfderau, eich gwendidau, eich cyfleoedd a’ch bygythiadau.

 

Mae’n gyfle gwych i feddwl am fanylion y cyfleoedd y mae eich busnes yn eu hwynebu, sut gallwch chi wneud y mwyaf o’ch cryfderau, sut i ddiogelu yn erbyn bygythiadau posibl, a sut gallwch chi wella eich gwendidau.

 

Nid yn unig y bydd cyflawni’r cam hwn yn helpu i gadw eich cynlluniau twf yn realistig ac yn gyflawnadwy, bydd hefyd yn gwneud yn siwr eich bod chi’n cymryd camau i ddiogelu’r busnes rydych chi eisoes wedi’i greu. Dylai eich twf fod yn hydrin ac yn ymarferol i’w gadw’n gynaliadwy.

 

Nawr yw’r amser i asesu a meddwl yn feirniadol am eich busnes, eich staff, a’r holl ffactorau gwahanol a allai fod yn rhan o’ch twf, cyn i chi ymroi i newidiadau mawr.

 

Gosod cynllun amser

Wrth gwrs, gall hyn fod yn hyblyg, ond dylai fod gennych chi ganllaw neu amlinelliad bras o ran a yw’r cynllun twf hwn ar gyfer y tymor byr neu’r hirdymor. Wrth fod yn realistig, nodwch erbyn pryd yr hoffech chi gymryd camau allweddol tuag at eich nod twf, p’un ai a yw hynny dros 6 mis, blwyddyn neu 5 mlynedd.

 

Dylai’r awgrymiadau hyn eich helpu chi ar eich camau cyntaf tuag at ddatblygu eich cynllun twf busnes!

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen