Unwaith y byddwch wedi denu ymwelwyr at eich gwefan, mae’n dipyn o grefft i gynnal eu diddordeb a'u hannog i aros ar y llwyfan. Er yn oddrychol o ran natur, mae profiad y defnyddiwr yn blaenoriaethu emosiynau ac agweddau eich ymwelwyr ynghyd â’r rhyngweithio ymarferol, ystyrlon a gwerthfawr a wneir ar eich gwefan. 

 

Mae 'Profiad Defnyddwyr' yn canolbwyntio ar sut mae person yn gweld pa mor ddefnyddiol ac effeithlon yw eich gwefan. Fodd bynnag, mae'n bwysig cydnabod bod profiad y defnyddiwr yn newid o hyd a bydd yn addasu’n barhaus dros amser, wrth i batrymau defnyddio newid, arddulliau dylunio ddatblygu a thechnoleg symud ymlaen.

 

Os ydych yn pendroni a yw eich profiad y defnyddiwr yn ddigon da, dyma 6 chwestiwn allweddol y dylech eu holi: 

 

  • A yw’n hawdd dod o hyd i’ch gwefan ar-lein?

  • A yw eich gwefan yn ymddangos yn gredadwy

  • A yw eich gwefan yn hygyrch ar gyfer eich holl ymwelwyr?

  • A yw eich gwefan yn hylaw ac yn syml i’w llywio?

  • A yw dyluniad a chynnwys eich gwefan yn apelgar?

  • A yw eich gwefan yn ddefnyddiol i ymwelwyr neu a yw’n cynnig gwybodaeth werthfawr?

 

Ar ôl ateb y cwestiynau hyn, rydych yn debygol o gael rhestr o bwyntiau y byddech yn hoffi gweithio arnynt.

 

Dyma 7 cam pwysig i'w hystyried er mwyn gwneud yn siŵr bod eich gwefan yn cael ei chynllunio drwy roi’r brif flaenoriaeth i brofiad y defnyddwyr:

 

Ymchwil a dadansoddi

 

Dechreuwch drwy adolygu eich gwefan bresennol a gofyn i gydweithwyr, ffrindiau neu deulu i roi eu hadborth ar y dyluniad cyfredol, y cynllun a pha mor hylaw ydyw. Y cam nesaf yw siarad â'ch cwsmeriaid. Gofynnwch gwestiynau iddynt am eich gwefan a gwrandewch ar eu hatebion. Dylai adborth eich cwsmeriaid roi syniad gweddol o'r hyn sy’n gweithio ac nad sy’n gweithio ar eich safle. Gofynnwch am adborth ar yr hyn allai symleiddio eu taith, pa nodweddion maent yn eu mwynhau a’r hyn y byddent yn ei newid ar y llwyfan. Gallwch hefyd gymryd amser i adolygu'r hyn y mae eich cystadleuwyr yn ei wneud yn dda a'r hyn y gallech wella arno.

 

Adnabod gwahanol fathau o ddefnyddiwr

 

Ceisiwch ddeall y rhesymau craidd pam bod defnyddwyr yn ymweld â'ch gwefan a sut y maent yn llywio drwy'r llwyfan. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys: pori, siopa cymhariaeth, addysg, mwynhad neu chwilio am gynnwys penodol.  Bydd deall sut mae segmentau allweddol o ymwelwyr yn defnyddio eich gwefan yn eich galluogi i symleiddio’r daith a gwella hygyrchedd yn benodol ar gyfer eich safle a defnyddwyr. 

 

Gorau po leiaf

 

Gorau po leiaf o ran dylunio gwefan. Ni ddylai fod angen i'r ymwelydd gwblhau nifer o dasgau neu glicio drwy dudalennau diddiwedd i ddarganfod yr hyn y maent yn ei chwilio amdano. Bydd tudalennau ychwanegol, cynllun anniben a botymau cudd yn debygol o dynnu sylw'r defnyddiwr ac efallai y byddwch yn eu colli ar hyd y ffordd. Dylai llywio drwy eich gwefan olygu cyn lleied o gamau â phosibl. 

 

Mae symlrwydd yn allweddol

 

Ystyriwch fotymau mawr, blychau ticio, testun hawdd i’w ddarllen, dolenni lleoladwy a llywio clir. Ni ddylai'r defnyddiwr gael trafferth wrth ddarllen, dod o hyd i neu gael mynediad i unrhyw ran o'ch gwefan. Sicrhewch fod pob elfen a phob cam mor syml a chlir â phosibl. Yn dâl am hyn, bydd y diffyg blerwch yn gwneud eich gwefan yn llawer symlach a bydd y dyluniad syml yn fwy deniadol.

 

Peidiwch ag anghofio’r elfen symudol

 

A fyddai dyluniad ac ymarferoldeb eich gwefan yn gweithio ar ddyfais symudol? Mae’n  hanfodol bod eich gwefan yn cael ei chynllunio ar gyfer ffôn symudol y dyddiau hyn ac mae hi hefyd yn ganllaw da ar gyfer sut y byddwch yn datblygu'r dyluniad a chynllun ar safle eich bwrdd gwaith.  Wrth i chi gael llai o le ar dabled neu ffôn clyfar, mae angen i chi ystyried yn ofalus sut caiff y testun ei ddefnyddio, lle mae botymau yn cael eu gosod a sut all y defnyddiwr lywio rhwng y tudalennau. Defnyddiwch y dull hwn ar eich llwyfan gwefan safonol gan y bydd yn eich helpu i ddatblygu cynllun a dyluniad symlach. 

 

Arbrofwch eich dyluniad newydd 

 

Peidiwch â dibynnu’n llwyr ar eich adborth personol ar ddyluniad eich gwefan newydd. Bydd yn hawdd i chi ddeall patrymau a llywio drwy safle a ddyluniwyd ac a ddefnyddiwyd bob dydd. Mae'n bwysig eich bod yn deall sut mae eich gwefan newydd yn trosglwyddo i’ch defnyddwyr presennol a rhai newydd. Mynnwch adborth gan ffrindiau, teulu, cydweithwyr a chwsmeriaid presennol cyn mynd yn fyw gydag unrhyw newidiadau mawr.

 

Cynllunio ar gyfer y dyfodol

 

Mae profiad y defnyddiwr yn ddynamig ac ni fydd byth yn dod i ben yn llwyr. Dylai unrhyw gynlluniau neu strwythurau newydd i lwyfan eich gwefan fod yn rhan o strategaeth barhaus. Sicrhewch y gallwch barhau i ddatblygu eich gwefan a brand o gwmpas y dyluniad hwn yn y dyfodol. Gadewch le i’ch hun i wneud newidiadau, addasiadau ac uwchraddio fel bo angen.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen