Rhaid i unrhyw fusnes sy’n gweithredu yn yr oes ddigidol ddatblygu strategaeth marchnata digidol. P’un ai eich bod chi’n fusnes mawr, bach neu ganolig, mae eich cwsmeriaid yn debygol o ddefnyddio sianeli ar-lein i ymchwilio, cysylltu â’ch busnes neu siarad amdano. Os nad ydych yn gwneud y mwyaf o’r cyfle digidol a’ch cyswllt fannau ar-lein, gallech fod yn methu â chreu ymwybyddiaeth o’ch busnes a’i hyrwyddo’n effeithlon, gyda chynulleidfa ‘ar-lein’ gynyddol.

 

Mae strategaeth marchnata digidol yn hanfodol i greu cynllun gweithredu clir, diffiniedig. Bydd hyn yn eich helpu i ganolbwyntio eich gweithgarwch ar-lein, targedu ac ymgysylltu â’ch cynulleidfa’n effeithiol, integreiddio eich holl sianeli ac amlygu eich hun yn erbyn cystadleuwyr.

 

Bydd strategaeth effeithiol, sy’n cael ei hadolygu a’i diweddaru’n rheolaidd, yn eich galluogi i ddenu cwsmeriaid newydd, cynyddu elw a chyflymu twf

 

Amlygu eich persona cwsmeriaid

 

Dylai eich cwsmeriaid fod ym mhen blaen eich meddwl wrth i chi ddechrau datblygu eich strategaeth marchnata digidol. Ni allwch dargedu’n llwyddiannus eich gweithgareddau marchnata digidol a churadu eich cynnwys heb wybod demograffeg allweddol eich cwsmeriaid.  Pan fydd gennych ddealltwriaeth dda o’ch cwsmeriaid, gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hon i ffurfio’r math o gynnwys y byddwch yn ei gynhyrchu, y llwyfannau y byddwch yn eu defnyddio a sut byddwch yn blaenoriaethu eich gweithgareddau yn seiliedig ar beth sy’n fwyaf tebygol o ennyn diddordeb a dylanwadu ar eich cwsmeriaid. 

 

Dewiswch eich llwyfannau’n ddoeth

 

Nid oes angen i chi fod yn bresennol ar bob llwyfan - dim ond y rhai a fydd o fudd i’ch busnes. Ymchwiliwch i’r llwyfannau y mae eich cynulleidfa’n eu defnyddio a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n weithredol trwy rannu cynnwys ac ymgysylltu â chwsmeriaid yn rheolaidd. P’un ai y byddwch yn dewis defnyddio Twitter, Facebook, YouTube, LinkedIn, Instagram, Snapchat, Google+ neu unrhyw un o’r nifer gynyddol o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol sydd ar gael, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwneud y mwyaf o’r llwyfan hwnnw. Dylai fod gennych broffil busnes brand cyflawn, tôn gyson, a chanolbwyntio ar rannu cynnwys diddorol a pherthnasol.

 

Gosod nodau

 

Os na fyddwch yn gosod nodau, sut gallwch fesur pa mor llwyddiannus y mae eich gweithgarwch marchnata digidol wedi bod mewn perthynas â nodau eich busnes? Gallai eich nodau gynnwys cynyddu tanysgrifiadau i e-gylchlythyr, hybu nifer eich dilynwyr ar Twitter neu gynyddu gwerthiannau. Pa bynnag beth fydd eich nodau, gwnewch yn siwr eu bod nhw’n benodol, mesuradwy, cyraeddadwy, realistig ac amserol (specific, measurable, attainable, realistic and timely) - neu SMART! 

 

Creu cynnwys

 

Mae’n bwysig nad yw eich allbynnau digidol yn canolbwyntio ar werthiannau’n unig. Mae defnyddwyr yn defnyddio’r rhyngrwyd i gyrchu gwybodaeth, cael eu hadlonni a chysylltu â phobl - nid i brynu’n unig. Mae’n bwysig cynnig rhywbeth o werth i ddefnyddwyr er mwyn iddyn nhw gael rheswm i gysylltu â’ch busnes. Gallai hyn fod yn flogiau cyngor, fideos addysgol neu ddifyr, neu ddeunyddiau gweledol diddorol, fel ffeithluniau. Peidiwch ag anghofio y dylai eich holl gynnwys gynnwys galwadau i weithredu i annog cyfnewidiadau. Darllenwch ein blog ar ddatblygu galwadau i weithredu effeithiol!

 

Gwerthuso

 

Rydych chi wedi gosod eich nodau, cynllunio eich gweithgaredd marchnata digidol ac mae’r cyfan ar waith - beth sydd angen i chi ei wneud nawr? Gwerthuso! Mae’n bwysig eich bod chi’n adolygu pa mor dda mae eich gweithgareddau a’ch llwyfannau marchnata digidol yn perfformio mewn perthynas â’ch nodau penodol. Trwy ystyried y gwelliannau unigol y gallech eu gwneud i’ch gweithgarwch marchnata digidol, gallwch sicrhau eich bod chi’n gyfredol o ran unrhyw ddatblygiadau i’r cylch marchnata digidol a gwneud y defnydd gorau o’ch amser, ymdrech ac arian i dyfu eich busnes.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen