Mae mileniaid yn cael eu gweld yn aml fel y genhedlaeth narsisaidd sy’n gaeth i hunluniau a’r cyfryngau cymdeithasol, ac maent yn cael eu diystyru yn y byd marchnata modern yn aml fel creaduriaid chwit-chwat y mae ffasiynau byrhoedlog yn tynnu eu sylw. Fodd bynnag, mae’r grŵp hwn o ddefnyddwyr rhwng 18 a 34 oed yn bwysig dros ben wrth ystyried pŵer prynu’r dyfodol – a’r presennol.

Beth mae angen i chi ei wybod am fileniaid?  

Nid yw’n syndod bod y genhedlaeth hon o ddefnyddwyr yn fwy galluog o ran technoleg na chenedlaethau hŷn o ddefnyddwyr. Maent wedi cael eu magu ochr yn ochr â thechnoleg a’r cyfryngau cymdeithasol, ac wedi profi newid aruthrol yn y ffordd y caiff gwybodaeth ei gweld a’i rhannu. Maent wedi’u cysylltu ym mhob man, gyda 67% o fileniaid yn defnyddio eu ffonau clyfar i fynd ar y rhyngrwyd. Maent yn ymgysylltu â brandiau yn ddyfnach nag erioed, gyda 52% yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ‘hoffi’ brandiau a 39% yn rhannu eu hadolygiadau o gynnyrch. Yn ddiddorol iawn, y ddau beth pwysicaf y gall brand eu gwneud i “ymgysylltu a dal sylw” mileniaid yw gwobrwyo eu teyrngarwch â gostyngiadau a chynigion arbennig a “bod yn gredadwy”.

Mae gwaith ymchwil gan Global Consumer Sentiment Survey bcg perspectives yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i’r cyfle gwych sydd gan frandiau i gyrraedd y genhedlaeth hon, yn ogystal â gwneud cysylltiadau go iawn sy’n para â nhw. Ei hanfod yw trosglwyddo’r negeseuon a’r sianeli cywir er mwyn dal eu sylw – gan aros yn driw i’ch gwerthoedd a’ch uniondeb. 

Dyma 7 peth allweddol y dylai eich busnes eu gwneud er mwyn cysylltu â mileniaid:  

Mae bod yn gredadwy yn hollbwysig

Mae mileniaid eisiau credu yn eich brand. Mae’r grŵp hwn yn arbennig o dda yn gweld trwy’r brandiau sy’n neidio ar y ffasiynau diweddaraf neu sy’n gwneud unrhyw beth i werthu eu cynnyrch. Mae dros hanner y genhedlaeth hon (59%) yn dweud bod eu ffrindiau’n dylanwadu ar eu penderfyniadau prynu, felly mae’n gwneud synnwyr eu bod eisiau cysylltu’r profiad hwn o ymddiriedaeth a dibynadwyedd â’r brandiau maent yn dewis ymwneud â nhw. Yr hyn a ddylai lywio eich holl weithgareddau marchnata yw hunaniaeth eich brand, felly gofynnwch: a yw hyn yn adlewyrchu’r brand mewn gwirionedd, ac a fydd cwsmeriaid yn credu’r hyn rydym yn ei ddweud? 

Tryloywder a bod yn berthnasol

Yn hytrach na defnyddio hysbysebu a marchnata er mwyn perswadio cwsmeriaid i wario arian, mae mileniaid eisiau teimlo bod eich cynnwys yn eu cyrraedd mewn ffordd fwy personol o lawer

Dylech osgoi tactegau marchnata camarweiniol neu ymwthiol, ac yn hytrach, canolbwyntio ar rannu cynnwys sy’n addysgol, yn tynnu sylw ac yn ddiddorol. Trwy helpu’r farchnad hon i gysylltu â’ch neges, gallwch adeiladu perthnasoedd organig yn seiliedig ar fod yn dryloyw ac yn berthnasol.

Targedu grwpiau cymdeithasol – yn hytrach na statws bywyd

Nid yw mileniaid yn debyg i’r cenedlaethau traddodiadol a ddaeth o’u blaenau. Mae gan y grŵp targed hwn lawer mwy o ddiddordeb yn eu credoau cymdeithasol a’u gwerthoedd craidd – yn hytrach na ‘chamau bywyd’ traddodiadol. Er enghraifft, mae’r grŵp hwn yn dehongli “teulu” a “chymuned” mewn ffyrdd tra gwahanol. Mae mileniaid yn llawer llai tebygol o ddilyn ffordd o fyw unllin, felly mae’n bwysig bod eich marchnata’n adlewyrchu eu profiadau. Byddai’n llawer mwy arwyddocaol petai eich brand yn cefnogi achosion cymdeithasol pwysig neu ffyrdd ‘amgen’ o fyw, a phwysleisio eich cyfrifoldebau fel busnes. 

Cyfathrebu eich gwerthoedd

Ni waeth pa mor bwysig yw cefnogi achosion cymdeithasol neu faterion pwysig i chi, mae’n hanfodol bod y rhain yn gredoau go iawn, ac nid negeseuon a ddefnyddir fel tacteg hysbysebu. Os byddwch yn ymrwymo i gefnogi grwpiau, ymgyrchoedd neu syniadau penodol, rhaid i chi wneud hyn yn un o gredoau craidd eich brand. Meddyliwch am sut gallwch arddangos y rhain – trwy flogiau, cyfweliadau, y cyfryngau cymdeithasol, ymgyrchu, cydweithio neu roddion. 

Mae taith y prynwr yn newid

Gyda chymaint o wybodaeth ar flaenau eu bysedd, gallwch fod yn siŵr bod mileniaid wedi ymchwilio cyn prynu. Dylech ystyried o ble mae eich cynulleidfa darged yn cael eu gwybodaeth, a gadewch i hyn siapio eich gweithgareddau marchnata a’r sianeli rydych yn eu defnyddio. A ydynt yn dilyn ffigyrau dylanwadol ar Instagram, a ydynt yn darllen blogiau adolygiadau, neu a ydynt yn gwylio arddangosiadau ar YouTube? Beth bynnag maent yn ei wneud, dyna ble mae angen i chi fod.

Mae gwasanaeth cwsmeriaid yn hanfodol  

Thema allweddol wrth farchnata i fileniaid yw cyfathrebu – ac mae hyn yn arbennig o bwysig wrth ystyried y ffyrdd rydych yn rhyngweithio â’ch cwsmeriaid. Gallant droi at eich cystadleuwyr gydag un clic, felly bydd ansawdd eich gwasanaeth a safon eich rhyngweithio â’ch cwsmeriaid yn dweud llawer. Bydd y gwasanaeth rydych yn ei ddarparu yn ffactor mawr wrth benderfynu a fydd eich cwsmeriaid yn aros gyda chi am amser hir. Dylech ganolbwyntio ar fod yn broffesiynol, yn bryderus, yn ofalgar ac yn ymatebol bob amser.  

Ychydig o hwyl

A dweud y gwir, gall bywyd fod yn anodd i’r genhedlaeth hon. O farchnadoedd swyddi gorlawn a dyledion myfyrwyr, i brisiau tai yn codi, mae mileniaid yn byw drwy oes ddigidol â chyfleoedd diddiwedd, ond sydd hefyd â rhwystrau ariannol niferus. Mae gan frandiau gyfle perffaith i gynnig rhyddhad i’w cwsmeriaid. Meddyliwch am eich cynulleidfa fel ffrindiau: cysylltwch â nhw gan ddefnyddio negeseuon cadarnhaol, sgwrsio ynghylch diddordebau cyffredin a chynnig profiad ar-lein hwyliog iddynt.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen