Mae Alyson Eyval, cynghorydd digidol yn rhannu’i hawgrymiadau gwych er mwyn eich helpu chi i dargedu cwsmeriaid ar-lein i annog gwerthiant a chael arian yn y banc

laptop showing a website

1. Adeiladu gwefan

Os nad oes gennych chi wefan – dylech chi gael un! Mae defnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol yn ffordd wych o hyrwyddo eich busnes, ond ni ddylai mewn unrhyw ffordd ddisodli safle go iawn. Nid yn unig y mae gwefan yn darparu eich busnes gyda hygrededd, ond gall ddod â busnes i’ch rhan ar unrhyw adeg, ddydd neu nos, gan gwsmeriaid newydd a hen gwsmeriaid.

2. Optimeiddio Peiriannau Chwilio

Google search box


Nid yw cael gwefan ynddo’i hun yn ddigon, mae angen iddi gael ei hoptimeiddio! Mae OPCh yn eich helpu chi i gael eich gosod yn uwch mewn peiriannau chwilio ac mae’n gwneud eich gwefan yn weladwy i ddarpar gwsmeriaid. Mae llawer i’w ystyried wrth gynllunio eich strategaeth OPCh, ond pan mae’n cael ei wneud yn gywir, gall wneud y gwahaniaeth rhwng cael eich darganfod ar dudalen 1 neu weld eich hun i lawr ar dudalen 4, 5, 6 neu’n is mewn canlyniadau peiriannau chwilio!

Cewch ragor o wybodaeth yn ein gweminar rhad ac am ddim ynglŷn ag OPCh

3. OPCh lleol

Mae’n hanfodol i fusnesau cael eu gosod yn uwch ar gyfer termau chwilio lleol. Os nad ydych chi ar frig eich OPCh lleol, bydd eich cystadleuwyr ar ei frig a byddan nhw bob amser yn dod o’ch blaen chi. Mae pethau fel hawlio lle mewn cyfarwyddiaduron fel Google My Busnes a Bing Places for Business yn gallu helpu gyda hyn.

4. Tracio perfformiad y wefan

Website analytics


Defnyddiwch Google Analytics! Nod Google Analytics yw eich helpu chi i gyflwyno gwefan o ansawdd uchel ar gyfer eich cwsmeriaid. Dysgwch i’w garu a darganfod beth mae eich cwsmeriaid yn ei wneud ar eich gwefan, pa dudalennau sy’n perfformio yn dda a pha rai sydd ddim yn llwyddo i wneud hynny. Bydd deall hyn i gyd yn eich helpu chi i ddatblygu safle sy’n perfformio yn wych.

5. Dadansoddwch eich cystadleuwyr

Wrth adeiladu presenoldeb ar-lein, cofiwch fod yn gystadleuol. Bydd gwneud ymchwil am eich cystadleuwyr yn cynnig syniadau i chi am gynnwys a strategaethau newydd. Datblygwch eich gwefan a’ch presenoldeb ar-lein gan gofio am eich cystadleuwyr bob amser. Edrychwch ar sut mae eu cwsmeriaid nhw’n ymgysylltu â nhw, a ydyn nhw’n gwneud unrhyw beth nad ydych chi’n ei wneud?

Cewch ragor o wybodaeth yn ein gweminar rhad ac am ddim ynglŷn â Gwefannau

6. Dylech chi farchnata trwy e-bost

Email marketing


Un o’r ffyrdd gorau i adeiladu presenoldeb ar-lein yw llunio a datblygu rhestr e-bost. Mae marchnata trwy e-bost yn parhau i fod yn un o’r ffyrdd marchnata rhataf a mwyaf effeithiol sydd yna. Bydd rhestr e-bost yn eich galluogi chi i ymgysylltu â chwsmeriaid cyfredol a darpar gwsmeriaid yn ddyddiol, yn wythnosol neu’n fisol.

7. Crëwch Broffiliau ar y Cyfyngau Cymdeithasol

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn galluogi’r busnes lleiaf hyd yn oed i ryngweithio â’r byd ehangach. Gyda mwy a mwy o bobl yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i wneud ymchwil ynglŷn â’u pryniant nesaf, mae angen i’ch busnes chi gael presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol. Nid ydych chi angen creu proffil ar bob platfform, dim ond y rhai hynny y mae eich cynulleidfa yn ymgysylltu â nhw fwyaf.

8. Cynlluniwch eich postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol

mobile and laptop


Mae cynllunio eich postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn cael gwared â’r straen a’r pryder o ruthro i lunio cynnwys i rannu gyda’ch cynulleidfa. Mae’n golygu hefyd y gallwch chi awtomeiddio ymatebion, gan arbed gorfod ateb i ddarpar gwsmeriaid ar adegau anghyfleus.

9. Dadansoddwch effeithiolrwydd eich postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol

Gall archwilio postiadau eich helpu chi i ddeall eich cynulleidfa yn well ac optimeiddio eich cynnwys. Mae deall gwahanol fetrigau’r cyfryngau cymdeithasol yn bwysig i ddeall pa mor llwyddiannus yw eich ymgyrchoedd. Yn union fel dadansoddeg gwefannau, bydd deall eich mewnwelediadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn eich helpu chi i ddatblygu proffil ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n perfformio yn wych.

Cewch ragor o wybodaeth yn ein gweminarau rhad ac am ddim ynglŷn â’r Cyfryngau Cymdeithasol

10. Hysbysebion yr ydych chi’n talu amdanyn nhw

Gallwch chi greu hysbysebion yr ydych chi’n talu amdanyn nhw ar nifer o blatfformau. Gallan nhw roi canlyniadau cyflym, yn aml maen nhw’n fforddiadwy ac yn fesuradwy (os ydyn nhw’n cael eu rheoli yn gywir), a gallwch chi fod yn benodol iawn wrth dargedu. Yn bendant, nid ydyn nhw’n “gweithio yn gyflym” ac yn ennill cwsmeriaid newydd a gwerthiant yn syth, ond maen nhw’n rhoi llawer o reolaeth i chi ac yn eich galluogi chi i gyrraedd cynulleidfa na fyddech chi fel arall yn gallu’i hennill o bersbectif organig.


A ydych chi angen mwy o help gyda’ch busnes a chystadlu ar-lein? Mae gan Cyflymu Cymru i Fusnesau amrediad o weminarau rhad ac am ddim i’ch helpu chi i gychwyn. Archebwch eich lle rhad ac am ddim heddiw a dechreuwch adeiladu eich hyder digidol.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen