Fel busnes, mae eich gwefan yn elfen allweddol o hunaniaeth ddigidol eich brand. Nid dyluniad a defnyddioldeb eich gwefan yn unig sy’n bwysig, ond mae eich enw parth hefyd yn chwarae rhan hollbwysig yn y ffordd mae chwilotwyr yn graddio eich busnes a’r ffordd mae defnyddwyr yn adnabod eich busnes. 

 

Yn hanfodol, mae enw parth yn adnabod awdurdod eich brand a’r gofod mae’n hawlio ar y rhyngrwyd, a chaiff ei ddynodi gan gyfeiriad eich gwefan. Mae’n hollbwysig eich bod yn cael hyn yn iawn cyn eich bod yn dechrau ar y gwaith o ddatblygu gwefan ardderchog oherwydd, heb gyfeiriad gwe eglur, gofiadwy ac addas i’ch brand, nid ydych yn debygol o ddenu eich cynulleidfa darged yn effeithiol. Nid llwybr byr technegol yn unig yw eich enw parth, dylai eich helpu chi i ddiffinio eich presenoldeb yn ofalus yng ngofod seiber a rheoli eich amlygrwydd ar-lein.

 

Os yw eich busnes yn datblygu cynulleidfa leol yng Nghymru neu os hoffech chi fynegi eich hunaniaeth fel rhan o gymuned ar-lein Gymreig, byddai enw parth rhanbarthol yn ddull ardderchog o greu mwy o draffig, gwella eich safle ar gyfer chwilotwyr a datblygu brand ar-lein unigryw.

 

Yn ôl gwaith ymchwil gan Nominet, nid oes gan 34% o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru bresenoldeb ar-lein. O ganlyniad, mae un o bob tri busnes bach mewn perygl o golli allan ar filoedd o bunnoedd mewn refeniw. I fusnesau adeiladu, mae hynny gyfwerth ag 16 o gyfleoedd busnes bob blwyddyn, a allai fod gwerth hyd at £40,950. Mae’n bosibl bod busnesau twristiaeth nad ydynt wedi sefydlu gwefan yn colli allan ar 16 o gyfleoedd busnes bob blwyddyn o gymharu â’r rheiny sydd ar-lein. Yn ogystal, darganfu’r arolwg nad yw 35% o fusnesau manwerthu, 25% o fusnesau ariannol a 3% o fusnesau bwyd ac arlwyo wedi sefydlu gwefan eto. Nid yn unig yw’r busnesau hyn yn colli allan ar gyfleoedd posibl, ond miloedd o bunnoedd bob blwyddyn ar ben hynny.

 

Pam dewis enw parth rhanbarthol?

 

Gall estyniad parth lleol megis .wales neu .cymru roi mwy o sylw i’ch busnes ar chwilotwyr o gymharu â chanlyniadau .co.uk neu .com. Trwy gynnwys gwybodaeth gyswllt bwysig am eich busnes, er enghraifft, cyfeiriad a rhifau ffôn lleol, gallwch helpu chwilotwyr i leoli eich busnes yn fwy llwyddiannus a sicrhau credadwyedd ymhlith eich cynulleidfa darged leol. 

 

Mae busnesau ledled Cymru, gan gynnwys Undeb Rygbi Cymru, Trenau Arriva Cymru, S4C a’r Theatr Genedlaethol eisoes yn llwyddo o ganlyniad i ddefnyddio enwau pyrth rhanbarthol. Yn wir, mae enwau pyrth .cymru a .wales bellach ymysg deg uchaf enwau pyrth rhanbarthol mwyaf poblogaidd Ewrop ymhlith busnesau ar-lein, ochr yn ochr ag enwau pyrth ar gyfer Llundain, Berlin a Pharis.

 

Felly sut gallwch chi ddechrau defnyddio enw parth effeithiol?

 

Sicrhau’r enw parth gorau ar gyfer eich gwefan

 

Cofrestrwch enw parth sy’n cynrychioli eich brand. Dylai fod yn gofiadwy i gwsmeriaid presennol ac yn hawdd dod o hyd iddo ar gyfer darpar gwsmeriaid. Meddyliwch am ddetholiad o opsiynau (a gwiriwch a ydynt ar gael i’w cofrestru!) a gofynnwch am ail farn. Ydych chi’n gallu ei sillafu a’i ynganu’n hawdd? A fydd yr enw’n gwneud synnwyr i ddarpar gwsmeriaid? Mae’n bwysig gofyn y cwestiynau hyn mewn perthynas â’ch enw parth cyn eich bod yn dechrau datblygu eich presenoldeb ar-lein o amgylch iddo.

 

Gwarchod eich brand

 

Dylech ystyried gofrestru nifer o enwau pyrth, gan gynnwys .wales, .cymru a .co.uk, er mwyn gwarchod eich enw brand ac atal unrhyw un arall rhag defnyddio’ch enw yn hwyrach er mwyn manteisio ar eich llwyddiant.

 

Gwiriwch eich sillafu

 

Gwnewch yn siŵr nad ydych yn defnyddio geiriau sy’n rhy anodd eu sillafu neu sy’n rhy anodd eu cofio. Dylech hyd yn oed ystyried gofrestru eich enw parth gyda chamsillafiad cyffredin o’ch enw brand a’i gysylltu yn ôl at eich gwefan er mwyn sicrhau nad ydych yn methu allan ar draffig.

 

Cadwch e’n fyr!

 

Mae’n bwysig nad ydych yn gor-gymhlethu cyfeiriad eich gwefan. Cadwch e’n fyr a cheisiwch ei gadw at uchafswm o dri gair. Bydd hynny’n sicrhau bod darpar gwsmeriaid yn fwy tebygol o chwilio’n gywir am eich busnes ac yn eich cynorthwyo chi wrth rannu cyfeiriad eich gwefan ar lafar.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen