Efallai nad yw marchnata fideo yn flaenoriaeth i lawer o fusnesau bach a chanolig (SME) ond wrth i’r dull marchnata creadigol hwn gynyddu mewn hyblygrwydd a phoblogrwydd ymysg busnesau a defnyddwyr fel ei gilydd, dylai busnesau bach a chanolig ystyried y cyfleoedd y gall marchnata fideo eu cynnig i’r busnes.

 

Nid rhywbeth ar gyfer y ‘feirysol’ 'a'r ‘flogwyr' yn unig yw fideo ar-lein ac nid yw wedi’i neilltuo ar gyfer busnesau gyda chyllidebau mawr chwaith. Yr hyn sy'n wych am fideo ar-lein yw ei fod yn hawdd i'w ddefnyddio ac yn gallu bod yn isel ei gost. Mae'r hygyrchedd hwn ynghyd â'r amrywiaeth o lwyfannau fideo ar-lein sydd ar gael yn golygu y gall busnesau o bob maint fynd ati i’w ddefnyddio.

 

Mae busnesau ar gyllideb yn gallu elwa o natur hylaw fideo ar-lein ond nid dyma’r unig fantais chwaith. Amlygodd astudiaeth gan Wyzowl bod 72% o fusnesau a gafodd eu cyfweld yn credu bod defnyddio fideo wedi gwella cyfradd trosi eu gwefan a 64% yn credu ei fod wedi arwain yn uniongyrchol at gynnydd mewn gwerthiant.

 

Mae marchnata fideo eisoes wedi ennill ei blwyf yn y cymysgedd marchnata digidol - ac mae hyn yn debygol o gynyddu. Nododd astudiaeth Wyzowl fod 61% o'r busnesau a holwyd yn defnyddio fideo fel dull marchnata ar hyn o bryd, fodd bynnag, nid oedd canran enfawr o'r rhain, 66%, yn defnyddio fideo cwta 12 mis yn ôl. Gan edrych ymlaen:

 

Mae Mynegai Rhwydweithio Gweledol Cisco yn awgrymu y bydd 80% o holl draffig y rhyngrwyd yn fideo erbyn 2019

Wrth i hollbresenoldeb fideo barhau i aeddfedu, gall busnesau sy'n methu ag integreiddio fideo yn eu strategaeth farchnata brofi ymgysylltiad llai ystyrlon gyda'u cwsmeriaid.

 

Ydych chi'n barod i fynd yn weledol?

 

Dyma 4 awgrym i'ch helpu i ddechrau ar eich marchnata fideo eich hunain!

 

Eglurwch eich hun


Mae fideos ar-lein yn gyfle gwych i rannu cynnwys defnyddiol sy’n ymgysylltu o gwmpas eich cynnyrch neu wasanaeth megis sesiynau tiwtorial, fideos arddangos ac "esboniadol". Gellir cynhyrchu’r fideos hyn yn hawdd ac maen nhw’n eich galluogi i ddangos i ddefnyddwyr sut y gallent elwa o ddefnyddio'r cynnyrch neu'r gwasanaeth ac yn eich gosod fel arbenigwr yn y maes. Yn ôl Wyzowl, mae 93% o fusnesau sy'n defnyddio fideo yn credu ei fod wedi cynyddu dealltwriaeth y defnyddwyr o’u cynnyrch neu wasanaeth. Gall rhoi gwybodaeth a chyngor defnyddiol yn rhad ac am ddim annog defnyddwyr i ddychwelyd at y busnes fel canolbwynt ar gyfer cynnwys defnyddiol a chynyddu ymgysylltu â chwsmeriaid trwy gydol eu taith.
 

Creu cynnwys grymus


Mae fideo yn cynnig y cyfle i fod mor greadigol ag y mynnwch! Yn ogystal â chreu cynnwys defnyddiol, dylech feddwl am gysylltu â'ch cynulleidfa a hyrwyddo'r busnes drwy gyfleoedd eraill. Dyma rai syniadau gwych ar gyfer cynnwys : fideos Holi ac Ateb, adolygiadau cynnyrch, astudiaethau achos, "cwrdd â'r tîm", cip tu ôl i'r llenni, adrodd straeon a diweddariadau wythnosol. Cofiwch eich bod yn creu fideos i ymgysylltu cwsmeriaid posibl a phresennol, felly dylech ystyried beth fyddent yn hoffi ei weld a sut i roi eich 'stamp' eich hunain ar y cynnwys. Beth bynnag a wnewch, gwnewch yn siŵr fod ganddo bersonoliaeth ac yn rhoi rheswm i’r gwylwyr i wylio.
 

Byddwch yn rhannwr cymdeithasol


Gwnewch y gorau o'r cyfleoedd cymdeithasol gan rannu eich cynnwys fideo ar eich llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a rhoi cynnig ar fideos brodorol. Yn syml, mae fideos brodorol yn cyfeirio at fideos sydd wedi eu llwytho yn uniongyrchol neu sydd wedi’u creu ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn cael eu chwarae yn y ffrwd yn hytrach na thrwy ddolenni i fideos ar safleoedd eraill. Yn ôl socialbakers, roedd 75% o ymgysylltu â chynnwys prif frandiau ar Twitter yn digwydd gyda'u fideos brodorol ac mae gan fideos brodorol a lwythwyd ar Facebook 10 gwaith y cyrhaeddiad o gymharu â rhannu dolenni ar YouTube. Defnyddiwch fideo brodorol i rannu pytiau o gynnwys diddorol a chlipiau o gynghorion cryno i ymgysylltu gwylwyr mewn ffordd fachog ac uniongyrchol, ond defnyddiwch eich llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o'r fideos hwy hynny sydd ar eich gwefan neu lwyfan fideo arall.
 

Cofiwch gynnwys galwad i weithredu bob amser


Er dylid rhoi blaenoriaeth i greu fideos sy’n cynnig cyngor a deunydd diddorol yn hytrach na bod yn rhy barod i hyrwyddo neu werthu, mae unrhyw gynnwys a rennir yn gyfle i ymgysylltu ymhellach felly cofiwch gynnwys dolen i’ch gwefan a galwad clir i weithredu. Os bydd eich fideos yn ennyn brwdfrydedd a chwilfrydedd eich gwylwyr, bydd yr alwad yn golygu y gallant ddod o hyd i fwy o gynnwys neu ddefnyddio eich busnes. Lle bo modd, rhowch rywfaint o frandio gweledol ar ddechrau a diwedd eich fideos, ychwanegwch ddolenni ac anogwch y gwylwyr i gymryd camau penodol megis tanysgrifio i gylchlythyr, lawrlwytho canllaw neu brynu cynnyrch / gwasanaeth.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen