Gall frandiau gyrraedd cwsmeriaid drwy wasgu botwm, gall werthiannau cael eu cwblhau mewn eiliadau ac un neges ei rannu’n fyd-eang mewn chwinciad. Ni ellir gwadu pŵer digidol, ond beth mae hyn yn ei olygu os yw’ch busnes ‘all-lein’?

 

Os yw’ch busnes yn gweithredu’n bennaf fel siop frics a morter, gallwch dal i gynyddu nifer fawr o ymwelwyr i’ch siop o’ch presenoldeb ar-lein.

 

Dyma 6 ffordd allweddol i drosi’ch cynulleidfa ar-lein i gwsmeriaid go iawn:

 

Dechreuwch ddatblygu eich Optimeiddio Peiriannau Chwilio lleol

 

Dechreuwch ddatblygu eich proffil lleol ar-lein. Os yw darpar gwsmeriaid yn chwilio am eich cynhyrchion neu wasanaethau o fewn maes penodol byddwch eisiau sgorio mor uchel ag y gallwch yng nghanlyniadau’r peiriannau chwilio. Darparwch gymaint o wybodaeth ag y gallwch i helpu’r peiriant chwilio deall eich busnes. Sicrhewch fod eich pwyntiau cyffwrdd ar-lein yn cynnig gwybodaeth glir am eich lleoliad, oriau agor a manylion cyswllt. Ffordd wych arall i ddatblygu’ch proffil lleol yw cofrestru â Google My Business. Bydd hyn yn rhoi mwy o hygrededd i’ch busnes, ar-lein ac all-lein ill dau, a helpu cynhyrchu gwell ymwybyddiaeth yn eich ardal. 

 

Defnyddiwch adolygiadau ar-lein

 

Mae adolygiadau ar-lein ac adborth gan gwsmeriaid yn ffordd ardderchog i yrru darpar gwsmeriaid i’ch siop drwy ddarparu math o ‘brawf cymdeithasol’. Mae dangos adolygiadau ar-lein yn cadarnhau eich bod chi’n fusnes dilys a dibynadwy i gwsmeriaid chwilfrydig. Mae adolygiadau’n arf rhithwir gwych i ledaenu gair da a allai helpu darpar ymwelwyr benderfynu ymweld â’ch safle a hyd yn oed dewis eich busnes dros gystadleuwr lleol.  

 

Rhannwch eich busnes ar y cyfryngau cymdeithasol

 

Nid yw'r ffaith bod gan eich busnes safle go iawn yn golygu dylech chi osgoi datblygu cymuned ar-lein. Mae datblygu eich proffiliau cyfryngau cymdeithasol eich hun yn ffordd wych i godi ymwybyddiaeth a datblygu cysylltiadau tymor hir gyda’ch cwsmeriaid.  Mae llwyfannau megis Twitter, Facebook ac Instagram yn eich galluogi i rannu amryw o gynnwys sydd nid yn unig o ddiddordeb i ddarpar gwsmeriaid ond yn sicrhau eu bod nhw’n parhau i ddod yn ôl. Defnyddiwch eich llwyfannau i rannu diweddariadau am eich siop, postio lluniau, rhannu adborth gan gwsmeriaid ac ymateb i ymholiadau gwasanaeth cwsmeriaid. Rhowch wybod i’ch cwsmeriaid am y rhesymau pam y dylent ymweld â chi yn y siop drwy amlygu’r profiad cadarnhaol o ymweld â’r siop a’r gwerth gall cwsmeriaid eu hennill o’i gymharu â siopa ar-lein. 

 

Denu cwsmeriaid gyda marchnata e-bost

 

Mae cylchlythyr e-bost yn darparu arf gyfathrebu gwych i yrru cwsmeriaid i’ch safle gyda chynigion a bargeinion penodol yn y siop. Gall e-gylchlythyr cyson cadw’ch brand ym meddyliau’r cwsmeriaid a sicrhau eu bod nhw’n cael gwybod am eich cynhyrchion/gwasanaethau newydd, gwerthiannau, digwyddiadau neu ymgyrchoedd diweddaraf. Anfonwch ddiweddariadau i’ch tanysgrifwyr am yr arian y gallent ei arbed yn y siop neu daleb sy’n para am gyfnod penodol o amser i roi rheswm iddynt ddod i’r siop.

 

Trefnwch ymgyrchoedd ar-lein ac all-lein

 

Os ydych chi’n gwneud ymgyrch penodol yn y siop, peidiwch â cholli’r cyfle ar-lein! Rhannwch fanylion yr ymgyrch ar draws eich holl bwyntiau cyffwrdd ar-lein i godi ymwybyddiaeth ac ennyn mwy o ddiddordeb. Yn hytrach na dibynnu’n gyfan gwbl ar bobl sy’n cerdded heibio i ymateb i arddangosfeydd mewn ffenestri a phosteri, gallwch gyrraedd mwy o’ch cynulleidfa darged drwy roi eich ymgyrch ar-lein. Anfonwch e-byst, rhannwch fostiau ar y cyfryngau cymdeithasol a gallech hyd yn oed ystyried wneud ymgyrch hysbysebu ar-lein.  Gallai ymgyrch amserol a dengar roi rheswm clir i ddarpar gwsmeriaid ymweld â’ch siop.

 

Defnyddiwch eich ased gorau!

 

Perswadiwch eich cwsmeriaid i gyfrannu ar-lein ac all-lein! Anogwch eich cwsmeriaid i rannu lluniau, adolygiadau, blogiau, fideos a chyfeiriadau o’ch cwmni ar eu proffiliau cyfryngau cymdeithasol ei hun.  Rhowch wybodaeth am broffiliau eich cyfryngau cymdeithasol, eich hashnodau neu flog yn eich siop go iawn i annog cwsmeriaid i ryngweithio a siarad am eich busnes ar-lein. Os yw’ch busnes yn canolbwyntio ar ardal leol, gallai un diweddariad ar Facebook gan gwsmer ddenu 5 o’u cysylltiadau.  Peidiwch ag anghofio pŵer eich hyrwyddwyr ar-lein – hyd yn oed os yw’ch busnes all-lein!

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen