Mae cadw’n ddiogel ar-lein yn 2022 yn bwysicach nag erioed. Camfanteisiodd seiber-droseddwyr ar fusnesau yn sgil y pandemig, ac er bod pethau’n ailddechrau'n raddol, fe fyddan nhw’n dal i geisio ymosod ar gwmnïau a fydd yn canolbwyntio ar werthu gan eu bod nhw wedi gallu ailagor yn ddiogel.
Felly, beth all eich busnes ei wneud i ddiogelu eich hun rhag seiberdroseddwyr?
Sawl seibr-drosedd a ddigwyddodd y llynedd?
Dioddefodd 4 o bob 10 busnes ymosodiad neu anhawster seiberddiogelwch y llynedd, yn ôl Arolwg diweddaraf Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar Doriadau Seiberddiogelwch. Fel y dywed adroddiad yr arolwg, mae’r pandemig wedi arwain at newidiadau sylweddol mewn ffyrdd o weithio. Mae hyn wedi gwneud seiberddiogelwch yn anoddach i lawer o sefydliadau.
Wrth i’r ffyrdd o weithio newid, felly hefyd y risgiau, a gallant gynnwys risgiau nad ydych chi wedi eu hystyried o’r blaen, o bosibl. Mae gweithio o bell wedi arwain at lawer o fanteision o ran hygyrchedd a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, ond mae llwybryddion cartref yn anoddach i’w rheoli na’r rhai yn y swyddfa. Felly, beth allwch chi ei wneud?
Pa gymorth sydd ar gael?
Yn ffodus i fusnesau Cymru, mae digon o gymorth ar gael i helpu i ddiogelu eich busnes.
Mae Canolfan Seibergadernid Cymru
Mae Canolfan Seibergadernid Cymru yn darparu hyfforddiant a chyngor am ddim i fusnesau, gan weithio mewn partneriaeth â Phrifysgolion Cymru. Gall busnesau hefyd elwa o aelodaeth well neu am ddim, sy’n cynnwys mynediad at ragor o ganllawiau ac adnoddau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'w gwefan.
Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol
Mae Canolfan Seiberddiogelwch Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn darparu cyngor defnyddiol i wneud y Deyrnas Unedig yn lle mwy diogel i weithio a chynnal busnes ar-lein, yn ogystal ag i unigolion gartref. Gyda llwyth o awgrymiadau, canllawiau a’r newyddion diweddaraf am fygythiadau, mae eu gwefan yn lle gwych i ddechrau arni.
Yn ddiweddar, mae’r Ganolfan wedi lansio cyfres o ganllawiau ar gyfer busnesau bach a chanolig ledled y Deyrnas Unedig, sydd wedi eu dylunio i’ch helpu i gadw’n ddiogel ar-lein. Gallwch lwytho'r canllaw i lawr yma neu fynd i wefan y Ganolfan i gael gwybod mwy.
Uned Troseddu Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian
Mae Tarian, yr Uned Troseddu Cyfundrefnol Ranbarthol, yn cynnwys heddluoedd Dyfed-Powys, Gwent a De Cymru. Gan weithio gyda sefydliadau eraill, mae Tarian yn ymchwilio i seiberdroseddau ledled de Cymru, yn ogystal â darparu cymorth a hyfforddiant i sefydliadau sy’n awyddus i fod yn fwy cadarn o ran materion seiber.
I gael gwybod mwy am Tarian a’u gwaith, ewch i’w gwefan.