Er na fyddai Glyn Davidson yn argymell cymryd naid o ffydd i gwsmeriaid Climb Wales, mae’n falch iawn ei fod wedi cymryd ei naid ei hun, sydd wedi newid ei fywyd.

Ar ôl blynyddoedd o jyglo swydd amser llawn gyda'i angerdd am yr awyr agored, ym mis Ionawr 2022, penderfynodd Glyn ymroi i'r hyn sy’n ei wneud yn hapus.

Ychydig dros 12 mis yn ddiweddarach, mae'r cwmni, sy'n arbenigo mewn cyrsiau dringo creigiau a mynydda yn Eryri, yn ffynnu ar ôl i Glyn gyfuno ei awydd ei hun am newid gyda chymorth digidol am ddim gan Cyflymu Cymru i Fusnesau.

owner of climb wales Glyn sat on hillside

 

Cadarnhaodd y cyfan i Glyn yr hyn roedd yn ei wybod eisoes – sef ei fod, drwy gymysgedd o sesiynau dringo wedi'u trefnu, treciau mynydd tywys, a diwrnodau herio i unigolion neu grwpiau, wedi dod o hyd i'r alwedigaeth berffaith.

Dywedodd: "Wrth weithio ym myd addysg, cefais gyfle arwain y gwersi hamdden awyr agored, a oedd yn cynnwys amrywiaeth o deithiau a gweithgareddau fel abseilio a cherdded ceunentydd.

"Nid oedd yn teimlo fel gwaith gan fod y disgyblion wrth eu boddau, fel yr oeddwn i. Cefais fy magu ym Miwmares ac yn fy mlynyddoedd cynnar roeddwn i bob amser yn archwilio clogwyni'r môr ac roedd ymdeimlad gwirioneddol o gyflawniad bob tro roeddwn i’n dringo neu’n neidio.

"Dwi'n hoffi bod yn yr awyr agored ac roeddwn i'n gwybod ei fod yn rhywbeth roeddwn i eisiau mynd ar ei drywydd yn yr hirdymor."

Roedd Climb Wales wedi mwynhau dechrau graddol, ond cafodd y busnes ei sbarduno gan yr hyn a ddysgodd Glyn ar weminarau Cyflymu Cymru i Fusnesau. Roedd y rhain yn cynnwys tri ar farchnata - a oedd yn cynnwys digidol ac e-bost, dau ar y cyfryngau cymdeithasol - sylfaenol ac uwch, a rhedeg eich busnes ar-lein.

Dywedodd Glyn: "O'r blaen, roedd unrhyw farchnata ar-lein y gwnes i, p’un a oedd hynny drwy'r wefan neu'r cyfryngau cymdeithasol, ar hap ac yn ymgais aflwyddiannus. Ar ôl gwylio'r gweminarau, sylweddolais i’n gyflym fod angen i mi ddatblygu strategaeth i wella ymgysylltu a chynyddu gwerthiant."

Ar y cychwyn, canolbwyntiodd y cynllun marchnata newydd ar negeseuon rheolaidd a thargedig ar y cyfryngau cymdeithasol, ac optimeiddio peiriannau chwilio (SEO). Er enghraifft, trwy ddefnyddio tueddiadau Google ac Answer The Public, sylwodd Glyn beth roedd pobl yn chwilio amdano, gan gynnwys cynnydd mawr mewn heicio ar Ddydd San Steffan.

Hefyd, cyflwynwyd ffurflen gofrestru newydd ar gyfer rhestr bostio i'r wefan, gan ddarparu mynediad at gylchlythyr sy'n canolbwyntio ar gyrsiau a heriau yn y dyfodol, fel y Welsh 3000s, lle mae’r rheiny sy'n cymryd rhan yn mynd i'r afael â'r 15 mynydd uchaf yng Ngogledd Cymru mewn ychydig llai na 24 awr.

Esboniodd Glyn: "Roeddwn i wir yn cael trafferth ag Instagram cyn y gweminarau, ond bellach mae strategaeth ar waith sy'n effeithiol.

"Yn hytrach na dim ond postio llun ar hap gyda’r pennawd 'diwrnod da ar y bryn', mae yna broses sy'n cynnwys lanlwytho cynnwys penodol ar adegau penodol o'r dydd, fel boreau Llun pan nad yw pobl eisiau bod yn ôl yn y gwaith, a defnyddio riliau a straeon i helpu'r algorithm.

"Yn yr un modd, gyda Facebook, rwy'n postio cynnwys deniadol yn amlach, a dwi wedi ymuno â grwpiau sy'n cyd-fynd â'n cynigion busnes. Hefyd, dwi wedi treulio amser yn deall algorithm y llwyfan i helpu i arwain beth i'w gyhoeddi.

"Mae hysbysebion Facebook hefyd wedi helpu i gynyddu ein cyrhaeddiad, sydd wedi arwain at fwy o ymholiadau busnes. Yn hytrach na rhoi hwb i neges, dwi wedi ei theilwra i'r gynulleidfa darged ac mae'r canlyniadau wedi talu ar eu canfed."

Gydag arweiniad ymgynghorydd Cyflymu Cymru i Fusnesau, Leon Ingham, mae gwelliannau i wefan Climb Wales hefyd wedi chwarae rhan yn y cynnydd mewn gwerthiant, gan wneud  rhai newidiadau cynnil ond effeithiol.

owner of climb wales Glyn holding laptop on mountainside

 

Yn dilyn help Cyflymu Cymru i Fusnesau, mae'r gwelliannau’n cynnwys:

  • Bron i 5,000 o ymwelwyr â'r wefan ym mis Ionawr 2023 - i fyny o 679 yn ystod y mis cyfatebol yn 2022.
  • Cynnydd o 1,700 y cant o ran cyrhaeddiad Instagram gyda hoffterau a sylwadau i fyny 692 y cant dros 30 diwrnod.
  • Mae cyrhaeddiad negeseuon Facebook wedi cynyddu dros 30,000 o 11,000 i 46,000 dros 30 diwrnod.
  • Cofrestrodd 319 o bobl ar gyfer y rhestr bostio, gyda thua phum dilynwr Facebook newydd a dau ddilynwr Instagram ffres y dydd.
  • Mae'r gwerthiant wedi cynyddu 314 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Aeth Glyn ymlaen i ddweud: "Roedd cyflymder ein gwefan cyn yr adroddiad a’r gweminarau wedi cael ei nodi fel 30 allan o 100, sy'n cael ei ystyried yn wael, ond ar ôl ychydig o waith, mae bellach yn 90.

"Roedd yn hawdd meddwl y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn edrych ar y wefan o gyfrifiaduron bwrdd gwaith yn eu cartrefi, ond ar ôl cymryd cam yn ôl, mae peiriannau chwilio yn ffafrio safleoedd sy'n gyfeillgar i ffonau symudol.

"Gwnaethom hefyd gynnwys neges naid i ychwanegu eich manylion at y rhestr bostio cyn i chi adael y safle, tra bod newid allweddol wedi bod yn y ffurflen archebu i ganiatáu i bobl roi eu manylion cyn symud ymlaen i ddewis dyddiad.

owner of climb wales Glyn climbing

 

"Mae hyn yn golygu ein bod yn casglu gwybodaeth yn gyson ar gyfer cronfa ddata o bobl sydd wedi dangos diddordeb yn y cwmni, gan gynnwys y rheiny na wnaeth gwblhau'r broses."

Dydy taith Climb Wales a Glyn ddim wedi cyrraedd ei hanterth eto, fodd bynnag, ac mae’r  perchennog yn ymdrechu i gyrraedd y copa o hyd.

Ychwanegodd: "Ar ôl rhoi newidiadau ar waith yn seiliedig ar yr hyn ddysgais i yn y gweminarau, dwi wedi gweld gwelliannau sylweddol, ac mae gen i awgrymiadau Leon i edrych ymlaen atynt o hyd."
 


Gweld rhagor o hanesion llwyddiant busnes


 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen