Darganfyddwch sut wnaeth Brynglas Equine ddefnyddio cyngor ar y cyfryngau cymdeithasol oddi wrth Cyflymu Cymru i Fusnesau er mwyn ennill mwy o gleientiaid, cyrraedd marchnadoedd newydd a thyfu’r busnes 20%.

 

 

Mae Ann-Marie Marek yn hyfforddwr ceffylau, athrawes marchogaeth ac yn ymarferydd shiatsu ceffylau cymwys, sy’n rhedeg Brynglas Equine yn Llanilar, ger Aberystwyth.

 

Gyda’r cwsmeriaid yn amrywio o blant i oedolion, ei nod yw hyfforddi ceffylau a phobl i’w helpu i weithio gyda’i gilydd yn well. Mae’n arbenigo mewn ceffylau â phroblemau, yn ogystal â defnyddio ceffylau mewn ffordd therapiwtig i helpu unigolion â phroblemau iechyd fel gorbryder neu iselder.

 

Mae Ann-Marie yn dweud ei bod hi’n arfer marchnata’r busnes trwy gynnal tudalen Facebook a gosod hysbysebion o bryd i’w gilydd – ond mae’n dweud nad oedd hyn yn gweithio mewn gwirionedd.

 

Yna, aeth ar gwrs Cyflymu Cymru i Fusnesau, a edrychodd ar yr holl fathau o gyfryngau cymdeithasol, a dangosodd iddi sut i ddod â’r rhain ynghyd i greu strategaeth farchnata gydlynus ar gyfer y busnes.

 

Ers gwneud y cwrs, mae hi wedi ehangu ei defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol i Instagram a Twitter, ac mae’n ystyried datblygu rhai eraill hefyd. Mae hi wedi dechrau defnyddio Hootsuite i ddod â’r holl ffrydiau ynghyd mewn ffordd sy’n ei galluogi i farchnata’r busnes yn fwy effeithiol ar y cyfan.

 

Mae’n dweud bod cynnydd amlwg wedi bod yn y traffig sy’n ymweld â’i thudalen Facebook, gyda rhai postiadau’n cynhyrchu gwaith newydd yn uniongyrchol a chleientiaid tymor hir newydd. Ar y cyfan, mae hi wedi gweld cynnydd o 20% yn ei busnes, a sylfaen cleientiaid ehangach o lawer.

 

O ran y dyfodol, mae Ann-Marie’n dweud yr hoffai gynyddu faint o waith mae’n ei wneud ar yr ochr therapi, gan ddefnyddio ceffylau i weithio gyda chyn-filwyr, yn enwedig rhai sydd ag anhwylder straen wedi trawma a phroblemau iechyd meddwl, ac mae’n gweld bod Facebook yn arbennig o ddefnyddiol wrth gyrraedd y farchnad gul hon.

 

Mae Ann-Marie yn dweud bod cwrs Cyflymu Cymru i Fusnesau yn “rhyfeddol o dda” – roedd hi wedi bod ar sawl cwrs arall ers sefydlu Brynglas Equine, ond dyma oedd yr unig un a edrychodd ar ddefnyddio amrywiaeth o fathau o gyfryngau cymdeithasol fel cyfanwaith cydlynus.

 

“Dyma’r cwrs mwyaf buddiol i fi ei ddilyn hyd yma,” dywed, “ac rwy’n ei argymell yn bendant.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen