Mae entrepreneur o Wynedd sy’n fam i dri o blant wedi manteisio ar dechnoleg ddigidol ac wedi gweld twf mewn gwerthiant bagiau ac ategolion lledr i ddynion yn fyd-eang, yn ogystal a gallu gweithio’n fwy effeithlon a chael gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

 

Mae Awel Lewis, a sefydlodd Lledar gyda’i thad, Robert, yn 2013, wedi gweld twf mewn archebion rhyngwladol, a bellach yn cyfrif am 20 y cant o werthiannau, trwy wefan e-fasnach a dull strategol at farchnata e-bost.

 

Mae agwedd y cwmni teuluol tuag at dechnoleg ddigidol hefyd yn golygu bod Awel yn treulio mwy o amser gyda’i thri phlentyn, efeilliad naw oed a bachgen pedwar oed. Ac mae hyn yn bwysig iawn, meddai hi, oherwydd bod “cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith yn bwysig i mi. Rydw i’n mwynhau gweithio, mae’n fy ysgogi ac rydw i am sicrhau bod gan fy mhlant moeseg gwaith cryf, ond mae’n bwysig hefyd fy mod i’n mwynhau amser gwerthfawr gyda fy nheulu.

 

Gwelodd Awel fwlch yn y farchnad ar gyfer bagiau lledr i ddynion gan fod defnydd o liniaduron, tabledi, a dyfeisiau symudol eraill gan ddynion ar gynnydd. Ychwanegwyd rhagor o gynhyrchion at y casgliad eleni, gan gynnwys gwregysau, bagiau ymolchi ac esgidiau.

 

Ers ei lansio, mae’r wefan symudol-gyfeillgar sy’n hollol ddwyieithog ar gael mewn nifer o ieithoedd eraill i gynorthwyo gwerthiant byd-eang. A bellach, mae Awel, sy’n 38 oed, yn bwriadu defnyddio marchnata cyfryngau cymdeithasol a fideo yn ogystal ag ehangu'r casgliad er mwyn cynyddu trosiant 50 y cant a chyflogi gweithiwr yn ystod y flwyddyn nesaf.

 

Mae hi'n nodi bod ei chymhwyster marchnata a dosbarth meistr digidol rhad ac am ddim, a gynhaliwyd gan Gyflymu Cymru i Fusnesau, yn elfen hanfodol o’i llwyddiant.

 

“Mae technoleg ddigidol wedi fy ngalluogi i gychwyn a thyfu busnes, ac mae’n cael gwared ar rwystrau, megis daearyddiaeth a chyfyngiadau amser,” meddai Awel.

 

“Gall bobl siopa ar-lein ledled y byd ar unrhyw amser penodol.  Mae ein siop ar-lein ar agor 24/7. Â chyfartaledd gwario ar-lein y DU yn £1biliwn yr wythnos, mae'n hanfodol ein bod yn deall ac yn gweithredu arferion gorau i dyfu’r busnes.

 

“Ar ôl derbyn ymgynghoriad gan Cyflymu Cymru i Fusnesau, roeddwn i’n awyddus i wella ein marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

“Caiff adolygiadau eu rhannu ar draws Facebook a Twitter yn awtomatig, ac rydym wedi lansio ymgyrch hysbysebu ar Facebook i ehangu ein cynulleidfa. Hefyd, byddwn yn gwneud mwy o ddefnydd o Instagram i annog ein cwsmeriaid i gyhoeddi lluniau o’r cynhyrchion ar waith.”

 

Cwblhaodd Awel ddiploma mewn marchnata digidol gan y Sefydliad Siartredig Marchnata (CIM) yn 2015 ac meddai: Mae cyfuno hysbysebion digidol ar-lein, megis y Telegraph ar-lein, gyda hysbysebion traddodiadol yn y London Evening Standard Newspaper a’r Private Eye Magazine, wedi gwella effeithlonrwydd ac ar yr un pryd fy ngwneud yn berson llawer mwy cynhyrchiol. Mae pawb ar eu hennill, oherwydd bod ychydig o baratoi o flaen llaw yn rhoi llawer mwy o amser hamdden i mi.

 

“Er enghraifft, wrth adolygu ein dadansoddeg, mi wn fod nosweithiau Llun a Mawrth yn nosweithiau da o ran siopa ar-lein. Rydw i’n trefnu ymgyrch e-bost yn awtomatig ar gyfer yr amserau prysur hyn, fel y gallaf dreulio amser gyda fy mhlant.

 

“Mae hyn yn hanfodol gan fod e-farchnata’n cyfrif am 20 y cant o werthiant, ac mae’r nifer hwn yn parhau i dyfu. Yn ddiweddar, rydw i hefyd wedi darganfod manteision negeseuon atgoffa basgedi wedi’u gadael. Mae anfon e-byst awtomatig i gwsmeriaid sy’n gadael eu basgedi siopa yn arwain at 30 y cant ohonynt gwblhau eu pryniant.

 

“Byddwn yn dal ati i archwilio cyfleoedd ar gyfer awtomeiddio i roi hwb i effeithlonrwydd, a dylai hyn hefyd hyrwyddo llwyddiant y busnes.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen