Mae cwmni amgylcheddol arbenigol, a wnaeth dechnoleg ddigidol yn ganolog i’w fusnes, wedi tyfu 20% dros y ddwy flynedd diwethaf. Defnyddiodd GPT Environmental dechnoleg ddigidol i farchnata ei frand newydd, ac yn sgil hynny llwyddodd i ennill contractau newydd mawr ynghyd â’r cyfle i agor ail swyddfa.

Cafodd buddsoddiad GPT Environmental mewn technoleg ddigidol effaith aruthrol: mae’r nifer sy’n clicio drwodd i’w gwefan o Google wedi cynyddu 85% yn ystod y flwyddyn diwethaf, a chynyddodd eu hamlygrwydd o ran argraffiadau gryn 161% dros yr un amser. Mae’r llwyddiant ar-lein hwn hefyd wedi esgor ar fwy o ymholiadau gan brynwyr, gyda’r niferoedd wedi dyblu rhwng 2017 a 2018. Mae’r cwmni wrthi’n recriwtio rhagor o staff, a hefyd yn paratoi i agor ail swyddfa yng Nghaerwysg yn y chwe mis nesaf.

 

GPT Environmental team collecting samples from a river.
“Un rheswm pwysig am yr ail-frandio oedd yr angen i adlewyrchu uchelgais gynyddol y cwmni”

“Gwelsom lawer iawn o fanteision positif yn sgil ail-lansio dan y brand GPT, ond un o’r prif heriau oedd y cwymp yn y traffig i’r wefan o ganlyniad i newid URL y wefan,” esboniodd y rheolwr marchnata Sam Chick. “Mae’r wefan newydd wedi llwyddo i newid amgyffredion, ond fe wnaethom ddioddef i ddechrau o ran amlygrwydd a faint o ddarpar brynwyr a gâi eu cynhyrchu ar-lein.

 

Roedd y tîm y tu ôl i GPT Environmental wedi ennill enw da iddo’i hun am ddarparu amrywiol wasanaethau amgylcheddol arbenigol, gan gynnwys gwasanaethau rheoli llygredd, rheoli tir llygredig, ac atal llifogydd. Un o’r prif resymau am yr ail-frandio oedd yr angen i adlewyrchu uchelgais gynyddol y cwmni ac ennill lle iddo fel busnes a oedd â’r gallu i ddelio â phrosiectau mawr - strategaeth a oedd yn golygu ailwampio ei strategaeth farchnata ddigidol yn llwyr.

 

Wrth edrych am atebion digidol newydd, cofrestrodd y cwmni ar raglen Llywodraeth Cymru, Cyflymu Cymru i Fusnesau, gan fynd i weithdy ar Sut i gael y sylw gorau drwy beiriannau chwilio (SEO) a chael cyngor busnes digidol 1 wrth 1 gan ymgynghorydd arbenigol. Roedd GPT Environmental hefyd yn cymhwyso i gael adolygiad llawn o’i wefan a bu mewn sesiwn wybodaeth i fusnesau ar sut i gydymffurfio â rheoliadau newydd yr UE (GDPR).

Ar ôl bod ar y rhaglen, fe wnaethom newidiadau mawr i’n gwefan gan adolygu’r strategaeth ddigidol yn gyfan gwbl

 Chick ymlaen, “Ar ôl bod ar y rhaglen, fe wnaethom newidiadau mawr i’n gwefan gan adolygu’r strategaeth ddigidol yn gyfan gwbl”. “Mae peiriannau chwilio yn awr yn llawer mwy tebygol o ddod o hyd i’n cynnwys, ac mae gennym hefyd drefniadau llawer iawn gwell i fonitro a thracio traffig i’r wefan. Fe wnaethom newid y ffordd yr oedden ni’n dadansoddi data gan Google Analytics a Search Console a chyflwyno meddalwedd monitro newydd gan Moz, sydd nid yn unig yn ein helpu i dracio sut mae ein gwefan yn perfformio, mae hefyd yn meincnodi yn erbyn ein cystadleuwyr.”

 

Mae gan oddeutu naw allan o bob deg o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru wefan ar hyn o bryd, er hynny, dengys ymchwil bod llawer yn methu’r cyfle i fanteisio i’r eithaf ar eu gwefan drwy ganolbwyntio’n unig ar ‘hyrwyddo’, gan anwybyddu sut mae eu cwsmeriaid yn gwneud penderfyniadau prynu ar-lein. Yn ôl Arolwg Aeddfedrwydd Digidol diweddaraf yr Uned Ymchwil i Economi Cymru, mae 13% yn llai o fusnesau yn defnyddio dulliau SEO a dadansoddi perfformiad gwefannau, gan awgrymu bod rhagor y gellir ei wneud i ddeall ymddygiad cwsmeriaid ar-lein – rhywbeth y mae GPT Environmental wedi rhoi sylw iddo ac mae’n talu ar ei ganfed.

GPT Environmental team in front of a stone wall.

Rydyn ni’n edrych ar sut gall defnyddio data a thechnoleg ddigidol ein helpu i wella pob rhan o’n busnes”

Mae strategaeth ddigidol GPT Environmental hefyd wedi llwyddo i wneud y cwmni yn fwy cystadleuol, ac wedi gwella ei drefniadau diogelwch data – ffactor pwysig wrth dendro am gontractau fframwaith mawr. Fe wnaeth ennill contract 3 blynedd yn ddiweddar â’r cwmni ynni blaenllaw Western Power, gyda’r dewis i ymestyn, ac mae’n awr yn edrych ar ffyrdd o ddefnyddio technoleg ddigidol er mwyn gwneud ei brosesau mewnol yn fwy effeithlon a syml.

“Rydym yn edrych ar sut gall defnyddio data a thechnoleg ddigidol ein helpu i wneud gwelliannau ar draws bob rhan o’n busnes,” ychwanegodd Chick. “Rydyn ni wrthi’n cyflwyno meddalwedd Construction Manager newydd ar draws ein tîm i’w helpu i ddelio â phrisio darnau gwaith unigol a’u bwydo’n uniongyrchol i’r cyfrifon, ac mae ein hymgynghorwyr yn defnyddio tabledi i gofnodi a chyflwyno data a gesglir ar ymweliadau safle yn ddigidol. Drwy newid y ffordd rydyn ni’n storio ein data mae diogelwch drwyddo draw wedi gwella ac mae hefyd yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio’n llwyr â GDPR.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen