BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Rhaglen wledig

Grantiau Bach – Creu Coetir (ffenestr 6)

Mae Grantiau Bach - Creu Coetir yn gynllun sydd wedi'i anelu at ffermwyr a rheolwyr tir eraill i'w hannog i blannu coetiroedd bach ar dir sydd wedi'i wella'n amaethyddol neu dir isel ei werth amgylcheddol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Awst 2024
Diweddarwyd diwethaf:
5 Awst 2024
Ffenestr EOI ar agor:
Ffenestr EOI yn cau:

Mae arian ar gael ar gyfer plannu coed a chodi ffensys a gatiau i greu coedlannau cysgodi, ar hyd cyrsiau dŵr ac yng nghorneli caeau neu mewn caeau bach ar gyfer mannau cysgodi stoc, i hybu bioamrywiaeth ac i gynhyrchu tanwydd coed. Cynigir taliad hefyd i gynnal 12 mlynedd o waith Cynnal a Chadw a thaliad premiwm ar gyfer y gwaith plannu newydd. Mae'r broses ymgeisio yn sicrhau bod cynigion yn bodloni gofynion Safon Coedwigaeth y DU (UKFS) heb i chi orfod anfon cynllun creu coetir i CNC ar gyfer ei ddilysu. Mae cyllid ar gael ar gyfer plannu lleiniau rhwng 0.1ha ac 1.99ha o faint.

Darganfyddwch fwy o wybodaeth am y cynllun a sut i wneud cais yma: Grantiau Bach - Creu Coetir: 22 Gorffennaf 2024 i 30 Awst 2024 | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.