BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Rhaglen wledig

Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol (Ffenestr 2)

Cynllun grant cyfalaf yw'r Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol, sydd ar gael i ffermwyr ym mhob rhan o Gymru. Amcanion y cynllun yw:

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2023
Diweddarwyd diwethaf:
10 Tachwedd 2023
Cyllideb ariannu:
£1,000,000
Ffenestr EOI ar agor:
Ffenestr EOI yn cau:

  • helpu i sefydlu mentrau arallgyfeirio amaethyddol hyfyw newydd ar ffermydd
  • helpu i ddatblygu mentrau gwreiddiol neu arbenigol sy’n bod eisoes
  • gwneud amaethyddiaeth Cymru yn fwy cydnerth trwy ddatblygu ffrydiau incwm amrywiol
  • lleihau’r ddibyniaeth ar fentrau amaethyddol traddodiadol
  • ymateb i gyfleoedd mewn marchnadoedd newydd a datblygu marchnadoedd newydd.

Darllenwch ganllaw a llyfryn rheolau’r cynllun cyn cyflwyno cais.

Mae'r cynllun yn un dewisol. Bydd swm y grant a gynigir yn dibynnu ar amgylchiadau’r unigolyn, a bydd bob amser y swm lleiaf sydd ei angen i’r buddsoddiad allu mynd yn ei flaen.  Os caiff eich cais ei ddewis, rhaid ichi gwblhau a hawlio’r holl eitemau Gwaith Cyfalaf erbyn 31 Mawrth 2025.

Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol rheolau ac arweiniad

Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu hysbysebu drwy wefan Llywodraeth Cymru, GWLAD ar-lein a, lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.




Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.