
Mae’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd wedi'i ddylunio i helpu cynhyrchwyr cynradd cynhyrchion amaethyddol yng Nghymru i ychwanegu gwerth at eu hallbynnau
Mae'r buddsoddiadau a wnaed drwy’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd a’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig – Bwyd yn cael eu hystyried yn ymyriadau blaenllaw gan Lywodraeth Cymru i gyflawni eu hamcanion polisi i gynhyrchu twf yn y sector, cynyddu cynaliadwyedd a diogelwch bwyd trwy adeiladu, a hybu asedau cyfalaf.
Roedd y cynllun eisoes wedi cyflawni pedwar o bum targed y Dangosyddion Perfformiad Allweddol a oedd yn canolbwyntio ar ganlyniadau'n ymwneud â chreu effeithiau economaidd cadarnhaol, fel datblygu cynnyrch a chreu swyddi
Dywedodd 41% o fuddiolwyr fod eu prosiectau wedi creu effeithiau amgylcheddol cadarnhaol gydag ymatebwyr fel arfer yn cyfeirio at effeithlonrwydd ynni yn eu prosesau newydd, cyflwyno ynni adnewyddadwy a newid i dechnolegau carbon is, a gwelliannau i'w prosesau ailgylchu a gwell rheolaeth gwastraff.
Mae’r gwerthusiad yn canfod bod ymyriadau’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd a’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig – Bwyd wedi cefnogi miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad yn y seilwaith prosesu, gan arwain at wella offer a chyfleusterau, a thrwy hynny alluogi busnesau i dyfu dros y cyfnod dan sylw.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Llywodraeth Cymru