
Mae Michael Williams yn un o 15 ffermwr sy'n rhan o gynllun peilot TB Sir Benfro, sef menter gan Lywodraeth Cymru sy'n ceisio datblygu mesurau ychwanegol ar gyfer rheoli TB buchol, yn ychwanegol at y camau statudol sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd.
Wrth rannu ei gynnydd gyda ffermwyr eraill mewn digwyddiad Cyswllt Ffermio yn ddiweddar, dywedodd Mr Williams fod llawer y gall pob ffermwr ei wneud i amddiffyn eu buchesi rhag TB.
Mae wedi cyflwyno nifer o fesurau bioddiogelwch, gan gynnwys rhedeg buches gaeedig.
Mae'n godro 150 o wartheg ar system odro robotaidd ar fferm Fagwrfran East,
Cas-mael, ac roedd wedi prynu gwartheg o farchnadoedd da byw, ond daeth hyn gyda'r risg o fewnforio TB.
Roedden ni eisoes wedi rhoi'r gorau i brynu gwartheg cyn dod yn rhan o'r prosiect hwn ond ers hynny, rydym ni wedi dod yn fuches wirioneddol gaeedig, dydyn ni ddim hyd yn oed yn prynu tarw stoc,
Esboniodd Mr Williams.
Cafodd camerâu eu gosod i weld a oedd moch daear yn dod i gysylltiad â gwartheg yn yr iard a'r siediau ac â ffynonellau bwyd a dŵr.
Ni chanfuwyd yr un, ond roedd arwyddion corfforol amlwg o weithgarwch mewn caeau ac ar draciau gwartheg.
Ers hynny, mae un filltir a hanner o ffensys sy'n atal moch daear wedi cael eu codi ar hyd gwrych gyda nifer uchel o frochfeydd a charthfeydd, er mwyn gwahanu'r rhain oddi wrth y stoc.
Mae Mr Williams wedi cyflwyno mesurau eraill, hefyd:
Creu ardal stoc marw anghysbell
Roedd y man casglu stoc marw wedi’i leoli ar ran o'r fferm a orfododd gerbyd i groesi'r iard i gasglu carcasau.
Mae'r cyfleuster hwn bellach wedi'i leoli mewn ardal amgaeedig o adeilad sydd agosaf at y ffordd, a gellir ei selio'n llwyr oddi wrth fywyd gwyllt.
Codi ffensys trydan ar hyd y cladd india-corn
Er nad oes gan y fferm finiau bwyd anifeiliaid sy'n agored i fywyd gwyllt, mae ei gladd india-corn agored yn risg bosibl adeg bwydo allan.
Cododd Mr Williams ataliad syml, gan lenwi dau drwm cemegau llaeth 20 litr diangen gyda thywod, a gosod y rhain ar bob pen o wyneb y cladd a rhedeg gwifren polywire o un i'r llall, wedi’i gysylltu ag offer ynni solar.
Roedd hyn yn costio tua £20, wedi cymryd deng munud o'm hamser ac yn atal moch daear rhag ymyrryd â’r porthiant,
Meddai.
Cyfyngu nifer yr ymwelwyr
Nid yw ymweliadau heb eu cynllunio gan gynrychiolwyr gwerthu ac eraill bellach yn cael eu hannog.
Mae ymweliadau trwy apwyntiad yn unig ac mae arwydd wedi'i osod wrth fynedfa'r fferm yn rhoi gwybod am y polisi hwn.
Rhaid i gerbydau sy'n dod ar y fferm fod yn lân.
Draenio cafnau dŵr nad ydynt yn cael eu defnyddio
Mae cafnau dŵr yfed yn y cae nad ydynt yn cael eu defnyddio yn y gaeaf pan fo'r fuches a'r anifeiliaid ifanc yn cael eu cadw mewn siediau yn cael eu draenio ac yn aros yn wag nes y bydd yr anifeiliaid yn cael eu troi allan.
Caiff cafnau dŵr sy'n cael eu defnyddio eu glanhau bob wythnos.
Lleihau dibyniaeth ar gontractwyr fferm
Gwnaed buddsoddiad mewn offer gwasgaru slyri i gael gwared ar yr angen i logi contractwyr ar gyfer y swydd hon.
Cadw llwybrau troed siediau gwartheg yn lân
Mae amlder glanhau llwybrau porthiant yn y siediau gwartheg wedi cynyddu i leihau'r cyfnod y mae slyri yn cronni yn y lleoliadau hyn.
Mabwysiadu'r lefel uchaf o hylendid wrth loia
Mae matiau sy’n debyg i fatresi gwely ciwbicl wedi'u gosod mewn lloc geni pwrpasol i ganiatáu i'r llawr gael ei olchi a'i ddiheintio'n drylwyr rhwng pob achos o fwrw lloi.
Darparu pwyntiau diheintio esgidiau
Mae cynwysyddion o hydoddiant diheintydd wedi'u lleoli o amgylch yr iard i ganiatáu I esgidiau gael eu diheintio rhwng cyswllt â gwahanol ddosbarthiadau o stoc.
Cynyddu’r cyfnodau rhwng gwasgaru slyri a chynaeafu silwair
Er bod Mr Williams yn gweithredu system silwair aml-doriad, mae wedi cynyddu cyfnodau torri o bedair wythnos i bump ac yn gwasgaru slyri ar yr adladd cyn gynted â phosibl, y diwrnod ar ôl i'r glaswellt gael ei gasglu o'r cae.
Mesurau eraill
Yn ogystal â chyflwyno mesurau bioddiogelwch, mae Mr Williams wedi bod yn difa anifeiliaid y nodwyd eu bod mewn perygl mawr o ddal neu ledaenu TB, a nodwyd ar restr 'sgôr risg' trwy ap a ddatblygwyd ar gyfer cynllun peilot TB Sir Benfro.
Mae unrhyw fuwch yn y ddau gategori risg uchaf – sef coch neu oren yn yr achos hwn – yn cael ei gwerthu fel buwch hesb.
Mae bod yn fwy rhagweithiol gyda difa, dewis pryd mae anifail yn gadael y fferm yn hytrach na bod mewn sefyllfa dan orfod o ganlyniad i brawf TB, yn opsiwn gwell mewn sawl ffordd,
Meddai Mr Williams.
Os yw anifail yn syrthio i fand 'melyn', sef yr isaf o'r tri chategori risg, ond yn risg serch hynny, caiff ei bridio i darw terfynol i sicrhau na fydd unrhyw anifeiliaid cyfnewid benywaidd yn mynd i mewn i'r fuches.
Yn 2024, gadawodd 35 o wartheg Mr Williams y fuches yn seiliedig ar ganlyniadau sgôr risg.
Ceir poen tymor byr wrth fynd i’r afael â’r clefyd gweddilliol, ond rwy'n hyderus y byddwn ni’n cael y budd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach,
Meddai.
Os gallwn ni fynd i lawr i sgôr risg o ddau neu dri y cant, byddwn yn cyrraedd sefyllfa lle byddwn yn feistr ar y clefyd yn hytrach na bod y clefyd yn feistr ar y fuches.
Mae'n credu bod y system hon yn gweithio.
Ym mis Rhagfyr 2024, roedd y sgôr risg yn 7% o’i gymharu ag 11% ym mis Ionawr 2024, felly mae hyn yn ddechrau, rydym ni'n credu bod difa yn gweithio.
Pwysleisiodd Mr Williams hefyd bwysigrwydd neilltuo amser i drafod peryglon bioddiogelwch a chlefydau gyda milfeddyg y fferm.
Peidiwch â gwneud hyn tra bo'r milfeddyg yn profi am TB neu ar y fferm am reswm arall; neilltuwch amser penodol i gael trafodaeth go iawn,
Cynghorodd.
Mae'n rhoi clod i’w filfeddyg, Rhiannon Lewis, o Gwaun Vets, am ei gefnogi drwy'r broses hon.
Rydym ni wedi gweithio gyda'n gilydd ar hyn,
Meddai.
PANEL
Cafodd y digwyddiad Cyswllt Ffermio ei gynnal gan Rhys Lougher ar fferm Tŷ Tanglwyst, fferm laeth ger y Pîl.
Mae buches 120 o wartheg Holstein pedigri Mr Lougher wedi bod yn rhydd o TB ers blynyddoedd lawer.
Mae ganddo hefyd lefelau uchel o fioddiogelwch ac mae'n elwa o’r ffaith bod ei fferm yn bell i raddau helaeth o wartheg ar ddaliadau eraill ac wedi'i gwarchod gan ffiniau caled gan gynnwys ffyrdd a chwareli calchfaen.
Dim ond semen â’r rhyw wedi’i bennu sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer bridio, ac nid oes unrhyw wartheg wedi cael eu prynu i mewn ers 40 mlynedd.
Mae gan Mr Lougher ei dancer slyri a'i beiriant chwalu tail ei hun i osgoi defnyddio contractwyr.
Rhan fawr o'n busnes yw gwerthu heffrod Holstein pedigri â statws iechyd uchel, sydd newydd loia, i ffermydd llaeth eraill; yr awydd i barhau i wneud hyn yw ein prif sbardun am fod eisiau cadw TB allan o'n fferm,
Meddai.