Mel Ovens
Proffil
Hyfforddwr busnes sy’n gyfarwydd â’r maes, gyda thros 20 mlynedd o brofiad mewn hyfforddiant arweinyddiaeth therapiwtig. Rwy’n gallu rhoi dulliau sy’n ystyriol o drawma ar waith yn fedrus gyda busnesau a deinameg tîm yn arbennig felly yn sector lles. Rwyf wedi sefydlu pedwar busnes llwyddiannus ac wedi mentora dros 100 o therapyddion i ddechrau eu practisiau preifat eu hunain. Gyda dealltwriaeth o ffordd o feddwl entrepreneuraidd, mae gen i’r sgiliau i drawsnewid heriau busnes yn gyfleoedd i dyfu. Mae hanes busnes profedig yn cynnwys rheoli prosiectau, datblygu rhaglenni ac arweiniad arbenigol mewn arweinyddiaeth o fewn Busnesau Bychain a Chanolig, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol ac amgylcheddau masnachwyr unigol. Dysgais fwyaf o wneud camgymeriadau a rhoi cynnig arall arni.
Sgiliau Allweddol
Meddwl Entrepreneuraidd: Sefydlais bedwar busnes a’u hehangu, gan gynnwys practis therapiwtig preifat a gwasanaethau therapi holistig.
Datblygu Busnes Strategol: Gallu profedig i asesu modelau busnes, adnabod cyfleoedd i dyfu, a rhoi strategaethau effeithiol ar waith er mwyn cynyddu refeniw a chadw cleientiaid.
Rheoli Prosiect a Datrys Problemau: Gallu darparu gweithdai, rhaglenni hyfforddiant a chynlluniau busnes yn llwyddiannus, gydag arbenigedd mewn arwain timau a rheoli prosiectau cymhleth er mwyn cwrdd â nodau gweithredol.
Arweinyddiaeth a Deinameg Tîm Arbenigwr mewn mentora a hyfforddi arweinwyr a thimau er mwyn gwella perfformiad, galluoedd i arwain a llesiant iechyd meddwl drwy ddulliau sy’n ystyriol o drawma.
Addysg ac Ardystiad
Wedi derbyn addysg hyd at lefel Meistr mewn gwaith Cymdeithasol, Therapi, Goruchwyliaeth Glinigol a Hyfforddiant
Aelod Cyswllt y Cyngor Mentora a Hyfforddi Ewropeaidd (EMCC0)
Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI) - Aelod Dan Hyfforddiant
Aelod o UKCP fel Seicotherapydd a Goruchwyliwr Cofrestredig
Aelod o GPTI fel Aelod Proffesiynol
Aelod o UKAGPS ac AAGT
1. Mae busnes yn cael ei wneud yn seiliedig ar berthynas, felly cofiwch am y person arall wrth gael trafodaethau.
2. Edrychwch ar ôl eich hun a gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y gefnogaeth gywir i gefnogi eraill.
3. Mae Syndrom y Ffugiwr yn broblem sy'n dod o fod yn arweinydd llwyddiannus, mae’n eich helpu i glywed eich beirniadaeth eich hun o’ch arferion ac adeiladu busnes gwell.
Mel Ovens
-
EnwMel Ovens
-
Enw'r busnesFirefleck Consulting and Therapy and Coaching Souk
-
RôlHyfforddwr a hyfforddwr arweinyddiaeth a Therapiwtig
-
LleoliadCaerdydd