Craig Judd
Rwyf yn berchennog busnes sydd wedi hyfforddi mewn cyfrifyddiaeth, gyda 40 mlynedd o brofiad yn y diwydiannau modurol, prydlesu, bancio a chyllid.
Roedd dechrau gyda syniad cychwynnol wrth fwrdd y gegin i fusnes a reoleiddir gan FCA gyda throsiant o £12m a 22 o staff, yn waith caled wrth gwrs ac, ar adegau, yn unig. Byddwn wedi croesawu mentor i fy nghefnogi, arwain, cynghori a’m maethu ar hyd y ffordd!
Mae arwain timau gwerthiant a busnes yn gofyn am feddylfryd cadarnhaol ac ymdrech ddygn i lwyddo, a gallaf drosglwyddo hyn i'r rhan fwyaf o bobl yn effeithiol. Mae fy agwedd ddadansoddol yn rhoi’r eglurder i mi ddatrys problemau.
Rwy’n fodlon helpu unrhyw fusnes sy’n chwilio am arweiniad ymhob maes, gan gynnwys gwerthiant, cyfrifyddiaeth, rheoli costau, recriwtio, materion staff, marchnata, polisïau, gweithdrefnau neu hyd yn oed therapydd i danio gwytnwch neu drafod syniadau!
Byddwch yn wydn, peidiwch ag ofni methiant.
Craig Judd
-
EnwCraig Judd
-
Enw'r busnesAutobahn Finance & Zebra Vehicle Solutions
-
RôlRheolwr gyfarwyddwr
-
LleoliadPen-y-Bont