Anna Taylor
Ers sefydlu Chilly Cow dros 10 mlynedd yn ôl, rwyf wedi ei weld yn llwyddo o syniad, i frand Cymreig sydd wedi ei sefydlu’n dda. Mae’n bwysig gwerthfawrogi’r gwaith caled sy’n rhan o ddatblygu busnes, a gwnaeth ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn busnes yn ystod y daith roi profiad a gwybodaeth werthfawr i bob agwedd o’r busnes. Roedd hyn o fudd i mi i ddatblygu adrannau nad ydym bob amser yn eu hystyried fel perchnogion busnesau bach.
Mae Chilly Cow wedi wynebu nifer o heriau dros y deng mlynedd ddiwethaf, ond mae’r cadernid a adeiladwyd o ganlyniad, a’r sgiliau a’r hyder i addasu’r daith wedi bod yn allweddol, mae hi’n bwysig ystyried hyblygrwydd busnes bach.
Mae gennym brofiad mewn masnach Busnes i Fusnes a manwerthu, ond hefyd yn wynebu heriau oherwydd bod ein cynnyrch yn dymhorol, ond rydym yn derbyn hyn ac yn darganfod ffyrdd newydd ac arloesol i fynd i’r afael â’r heriau y mae hyn yn achosi yn ystod y misoedd llai prysur.
Gyda sgiliau mewn datblygu busnes, datblygu cynnyrch, brandio, gwerthiannau, pacio, costau a rhagor, gallaf ddarparu cymorth gwerthfawr a bod o gymorth mawr i adnabod anghenion; wrth ystyried gweithrediadau i ddatblygu’r busnes. Fel perchnogion busnes, mae hi’n gallu bod yn unig, ac rydym eisiau clust i wrando, i drafod materion, pryderon, neu broblemau. Mae chwilio am gymorth pan fydd ei angen yn allweddol.
Mae cadernid yn allweddol - mae rhwystrau a siomedigaethau yn siŵr o ddigwydd mewn busnes, yr hyn sy’n bwysig yw’r ffyrdd rydym yn delio â nhw, bod yn gryf, dal ati, a phenderfynu ar y camau nesaf sy’n magu ein hyder a meithrin cryfder.
Anna Taylor
-
EnwAnna Taylor
-
Enw'r busnesChilly Cow Ice Cream Ltd
-
RôlCyfarwyddwr
-
LleoliadSir Ddinbych