Ally Merchant
Mae fy nghefndir mewn Adnoddau Dynol ac arwain pobl yn strategol, gyda phrofiad allweddol yn gweithio gyda Busnesau newydd ac yn ehangu busnesau i ddylunio a gweithredu eu prosesau pobl. Cychwynnais fy ngyrfa gyda Marks and Spencer cyn symud i Bartneru Busnes AD yn Centrica. Yn fwyaf diweddar, rwyf wedi gweithio gyda busnesau ar draws gwahanol sectorau, gan gynnwys Cyllid, y Cyfryngau, Elusen a Gofod, a’m swydd ddiweddaraf yw Pennaeth Pobl yn Space Forge, busnes newydd technoleg uwch sy’n gweithredu yn fyd-eang, gyda phencadlys yng Nghaerdydd.
Rwyf yn naturiol chwilfrydig am fusnes ac arweinyddiaeth ac yn gallu gweithio’n gyflym i ddeall sut mae timau a busnesau gwahanol yn gweithio. Rwy’n gwrando mwy nag ydw i’n ei siarad, gan fy mod yn credu y gall pob un ohonom ddysgu rhywbeth gan eraill. Rwyf wedi bod yn fentor i Brif Weithredwyr a Sylfaenwyr yn fy rolau busnes a hefyd wedi cefnogi arweinwyr yn y byd Addysg yn fy rôl fel Cadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Llangan.
Gyda fy mhrofiad a’m hagwedd gadarnhaol at ddysgu, credaf y gallaf eich cynorthwyo i edrych ar eich busnes o onglau gwahanol a meithrin safbwyntiau newydd. Yn ogystal â’ch cefnogi a darparu cefnogaeth mewn amseroedd anodd, byddaf hefyd yn ffrind beirniadol ac yn eich helpu i nodi mannau dall o ran eich strategaeth fusnes, meddwl ac, yn bwysicaf oll, eich pobl.
Meddwl yn fawr, dechrau drwy wneud y pethau bychain.
Ally Merchant
-
EnwAlly Merchant
-
Enw'r busnesAlly Merchant HR Consultancy Ltd
-
RôlYmgynghorydd Pobl Strategol
-
LleoliadY Bont (Vale of Glamorgan)