John O’Connor

Gyda 15 mlynedd o brofiad busnes, fy nod yw helpu eraill i oresgyn yr heriau a all godi i berchennog busnes.

Rwyf wedi elwa o gael mentor busnes da iawn ac mae gennyf brofiad uniongyrchol o’r effaith mae hyn yn ei chael ar unigolyn. Rwyf wedi bod yn ffodus gan fod fy mentor wedi dod yn ffrind da iawn ac yn rhywun y gallaf ymddiried ynddo. Mae gennym berthynas dda o hyd ac rydym yn cysylltu â’n gilydd yn rheolaidd.

Rwyf wedi datblygu busnes o’r cychwyn un hyd at werthiant llwyddiannus. Mae gennyf brofiad mewn cyfrifyddu, systemau a gweithdrefnau, cyflogaeth, gwasanaeth cwsmeriaid, ennill achrediadau, cynllunio olyniaeth, datrys problemau ac, yn bwysicaf oll - profiad o wybod sut deimlad yw bod mewn busnes ar eich pen eich hun.

Rwyf wedi profi’r nosweithiau hwyr, y nosweithiau di-gwsg, y terfynau amser tynn, y cyllid tynn a hefyd y pethau da sydd ynghlwm â rhedeg busnes llwyddiannus.

Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i deithio’n rhyngwladol gyda swydd flaenorol ac wedi delio â lefelau amrywiol o reoli i ddarparu’r cynnyrch a’r gwasanaeth cwsmeriaid a oedd yn ddisgwyliedig ohonof.

Rwy’n deall nad yw’r problemau sy’n wynebu perchnogion busnes yn gyfyngedig i lif arian gwael neu ddiffyg cwsmeriaeth newydd; gall problemau fod o natur emosiynol neu empathig, lle all clust i wrando helpu i leddfu’r baich.

Fy ngobaith yw cael effaith gadarnhaol o fewn y gymuned fusnes er mwyn helpu busnesau bach a chanolig i ffynnu a thyfu’n llwyddiannus.

Gair i Gall

Awgrym Ardderchog mewn Busnes: Mae Fframwaith Da yn arwain at ehangu’n dda.

John O’Connor
JOC
  • Enw
    John O’Connor
  • Lleoliad
    Gwynedd