Adrian T. Barsby
Gan adeiladu ar gyflawniadau a phrofiad o redeg grwpiau o westai preifat, ymgysylltu’n frwd gyda phartneriaethau cyhoeddus a phreifat mewn datblygiad economaidd rhanbarthol a rheoli cyrchfan, mae Adrian yn Ymgynghorydd Twristiaeth a Busnes sy’n ennyn parch tra ar yr un pryd yn mwynhau gyrfa lwyddiannus yn dysgu yn Ysgol Fusnes Metropolitan Manceinion yng nghyfadrannau Menter Strategaeth a Chynaliadwyedd, a Marchnata Busnes Rhyngwladol a Thwristiaeth. Mae wedi bod yn Hyfforddwr Busnes a Mentor gyda Busnes Cymru ers 2017.
Fel Rheolwr Gyfarwyddwr Barsby Associates Ltd, ers 2007 mae Adrian wedi mentora a chefnogi rhyw 300 o gwmnïau, sefydliadau ac unigolion ar hyd a lled y DU. Mae nifer ohonynt wedi mynd ymlaen i ennill anrhydeddau a gwobrau ar gyfer datblygu pobl, bodlonrwydd cwsmer a chynaliadwyedd. Mae ganddo brofiad o weithio gydag ystod eang o fentrau, ac mae wedi mentora / hyfforddi perchnogion Bythynnod Gwyliau, Parciau Carafannau a Pharciau Hamdden Moethus, Tafarndai, Bwytai, Atynfeydd, Pentrefi Gwyliau a Manwerthu, Hurio Hen Gerbydau, Gwestai wedi’u Brandio, Grwpiau Gwestai, Gwestai Moethus, cyrff twristiaeth rhanbarthol a chenedlaethol.
Drwy gysylltiadau dros bron i 30 mlynedd gyda La Fondation Pour La Formation la Hotel (a ariennir gan Ymddiriedolaeth y Savoy) mae Adrian wedi cynnal seminarau a thraddodi darlithoedd ar hyd a lled Dwyrain Ewrop gan gynorthwyo wrth feithrin dealltwriaeth, cydweithrediad a rhannu arferion gorau’n rhyngwladol rhwng Prifysgolion, Perchnogion Busnes ac Uwch Reolwyr.
Mae Adrian yn Bencampwr Llythrennedd Carbon ac Arweinydd Modiwl ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion, yn Fentor Busnes Cymru a Hyfforddwr Busnes, yn Ddirprwy Gadeirydd Cynghrair Twristiaeth, Cyfarwyddwr Masnach Twristiaeth Gogledd Cymru, Aelod o Bwyllgor Cymdeithas Twristiaeth Sir y Fflint, ac Ymddiriedolwr Ensemble Cymru.
Dim Prif Bwyntiau - Dim Isafbwyntiau!
Mae’r Prif Bwyntiau’n cael eu cynhyrchu drwy ddeall anghenion, dyheadau a dymuniadau eich cwsmer ac alinio eich cymwyseddau a galluoedd craidd yn fwy effeithiol na chystadleuwyr presennol a rhai’r dyfodol.Adrian T. Barsby
-
EnwAdrian T. Barsby
-
Enw'r busnesBarsby Associates Ltd
-
RôlRheolwr Gyfarwyddwr
-
LleoliadSir y Fflint