
Dechreuodd y daith flynyddoedd yn ôl, pan benderfynais hyfforddi cŵn fy hun dan yr enw "Pentir" yma ar y fferm. Mae cael y gallu i ddibynnu ar gŵn da wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’m gwaith beunyddiol. Ond yn fwy na dim, mae’r broses o’u hyfforddi – gweld y cŵn yn datblygu, dysgu, ac yn dod yn bartneriaid gwirioneddol – wedi bod yn brofiad hynod o werth chweil.
Gyda threigl amser, daeth ceisiadau i mi gan eraill – ffermwyr oedd am wella eu sgiliau gyda chŵn, neu’n dechrau ar eu taith gyda defaid a chŵn gwaith. O ganlyniad, rwyf wedi bod yn cynnal sesiynau mentora ar ran Cyswllt Ffermio ers 2023. Mae’n fraint cael cefnogi eraill i wneud y defnydd gorau posibl o’u cŵn, ac i weld y cynnydd yn eu gallu a’u hyder o wythnos i wythnos.
Er gwaethaf prysurdeb tymhorol y fferm – boed hynny’n gneifio ychydig o ddefaid i eraill neu’n gweithio ambell noson ar y lori laeth – rwyf yn ceisio cadw dydd Mercher yn ddiwrnod dysgu cŵn. Nid yn unig yw’r sesiynau mentora yn fodd i rannu gwybodaeth, ond hefyd yn ysgogiad i mi ac i Erin, sy’n fy helpu ar y fferm fel myfyriwr ar brofiad gwaith, i weithio ar ein cŵn ein hunain.
Pan ddaw’r cŵn ieuengaf yn barod i’w hyfforddi, rwyf yn eu cychwyn mewn corlan gron, gan ddefnyddio tair dafad ddof i osod sylfaen gadarn. Mae’n hollbwysig cadw’r defaid a’r ci o dan reolaeth o’r cychwyn cyntaf, i osgoi dryswch a meithrin dealltwriaeth rhwng y ddwy ochr.
Yn ddiweddar bu i Sioned gychwyn ei sesiynau mentora acw gyda ei chi Siani. Roedd cysylltiad arbennig rhyngom yn syth – roedd Siani yn ferch i Dunelle Choc sef ci sydd yma ar y fferm. Mae gen innau gi o’r torllwyth – Theo. Mae wedi bod yn bleser gweld datblygiad y ddau dros yr wythnosau diwethaf. Y bwriad gyda Theo yw dechrau ei ddysgu ac yna canfod cartref gwaith newydd iddo. Cadwch lygaid allan amdano yn arwerthiant Farmers Marts ar y we yn fuan!
Pan gyrhaeddodd Sioned a Siani am y tro cyntaf, roedd y ci yn wyllt ac yn neidio’n frwdfrydig i ganol y defaid. Ond ar ôl ychydig o sesiynau, fe wnaethom lwyddo i gadw Siani ar yr ochr draw i’r defaid, ac roedd y pethau'n dechrau gwneud synnwyr iddi. Penderfynodd Sioned fod y defaid a’r cyfleusterau ar y fferm adref yn ei dal hi’n ôl, felly fe wnaeth rywbeth gwych: creu man ymarfer ar ei fferm ei hun. Dewisodd dair ddafad llonydd, a dechreuodd ddefnyddio ffon blastig gyda bag papur ar y blaen i gyfeirio a dylanwadu ar Siani.
Wedi pythefnos, roedd Siani yn gallu mynd allan gyda’r ddiadell ar y fferm ac yn dechrau gwneud gwaith syml gyda mwy o ddefaid. Dwi'n grediniol mai drwy waith go iawn mae cŵn yn dysgu fwyaf. Dyna lle mae’r gwir ddatblygiad yn digwydd: ar y tir, gyda’r defaid, mewn sefyllfaoedd naturiol.
Yn y cyfamser, allan ar y fferm rydym yn brysur yn dod â defaid i mewn i ddewis ŵyn ar gyfer y farchnad. Mae’n dipyn o dasg, yn enwedig gan ein bod yn gorfod gwneud y gwaith heb Pentir Jen – y brif ast waith sydd acw, sydd ar hyn o bryd yn feichiog gyda chŵn bach gan Clwyd Bob. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i weld be ddaw o’r cyfuniad addawol yma!
Mae absenoldeb Jen wedi rhoi cyfle i mi ddod â Non, ast ifanc di brofiad, i mewn i’r gwaith. Roedd y tro cyntaf yn heriol – fel y mae o wastad – ond rwy’n credu’n gryf mai’r tro cyntaf yw’r anoddaf, ac unwaith y bydd hynny drosodd, mae'r gwaith yn dod yn haws gyda phob diwrnod. Erbyn hyn, rwyf i a Non yn deall ein gilydd reit dda, ac mae’n bleser go iawn gweithio gyda hi.
Un o’r agweddau mwyaf boddhaol o’r gwaith mentora yw’r cyfle i gyfarfod â phobl sy’n rhannu’r un diddordeb – pobl angerddol, ymroddgar, a pharod i ddysgu. Mae’n bleser gweld sut mae cysylltiadau’n ffurfio, profiadau’n cael eu rhannu, a sgiliau’n cryfhau gyda phob sesiwn.
Os ydych chi’n meddwl dechrau ar eich siwrnai gyda chŵn defaid, neu os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu’r berthynas waith rhyngoch chi a’ch ci, byddwn yn eich annog i roi cynnig ar sesiwn fentora. Nid oes gwell ffordd o ddysgu na thrwy wneud – a gwneud gyda chefnogaeth.
Diolch am ddarllen,
Glynne Jones
Ffermwr | Hyfforddwr Cŵn | Mentor gyda Cyswllt Ffermio