Bydd cyfarfod cyntaf y 24 ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gynnal mewn digwyddiad yn Sioe Frenhinol Cymru ddydd Mawrth 22 Gorffennaf.
Mae gan yr Academi Amaeth bellach dros 300 o gyn-aelodau ers iddi gael ei lansio gyntaf yn 2012.
Mae'n darparu rhaglen sy’n llawn gweithgareddau o hyfforddiant, mentora, cymorth ac arweiniad trwy dair sesiwn breswyl ddwys ac ymweliad astudio dramor, gyda dwy elfen benodol:
Academi Amaeth – ar gyfer unigolion dros 21 oed, sydd wedi’i hanelu at gefnogi ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ac arloeswyr blaengar y byd amaeth yng Nghymru.
Rhaglen yr Ifanc – wedi’i hanelu at gefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 21 oed sy’n gobeithio datblygu gyrfa neu sefydlu busnes yn y diwydiannau bwyd neu amaeth.
Yn ddiweddarach eleni, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yr Academi Amaeth yn teithio i Japan ar gyfer eu hastudiaeth dramor a bydd ymgeiswyr Rhaglen yr Ifanc yn ymweld â Norwy.
Ymhlith yr ymgeiswyr llwyddiannus eleni mae Siwan Roberts a fagwyd ar fferm bîff a defaid 350 erw ei theulu yng Nghanolbarth Cymru.
Mae Siwan yn helpu i reoli menter dwristiaeth sy'n tyfu ar y fferm sydd ar hyn o bryd yn cynnwys tri phod glampio gyda chynlluniau pellach i drosi tair ysgubor yn llety gwyliau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cyflwynodd y teulu wartheg Wagyu, i ddechrau ar gyfer eu defnydd eu hunain ond mae'r fenter bellach ar fin ehangu, gan gyflenwi cig eidion a fagwyd gartref i ymwelwyr hefyd.
Bydd ymweld â busnesau fferm eraill yn y DU ac yn enwedig cwrdd â chynhyrchwyr cig eidion Wagyu yn Japan, yn fy nghyflwyno i rwydweithiau newydd, yn fy ysbrydoli ac yn fy annog i ddatblygu ein menter Wagyu ein hunain.
Ymgeisydd arall a ddewiswyd eleni yw Ioan Humphreys, sy'n cael ei adnabod fel 'That Welsh Farmer’ar Instagram, sydd â dros 50,000 o ddilynwyr! Yn 32 oed, mae Ioan yn rhannu llawer o'r hyn y mae'n ei wneud yn ei fenter gymysg lewyrchus yng Ngharno, Powys, sy’n cynnwys rheoli 800 o famogiaid, 25 o wartheg bîff, ac yn fwy diweddar, dofednod.
Ar hyn o bryd mae Ioan yn buddsoddi mewn gosod panel solar 150kW i leihau costau a gwella cynaliadwyedd. Mae hefyd yn paratoi cais cynllunio ar gyfer siop fferm a chaffi ar y safle i arallgyfeirio'r busnes ymhellach.
Credai y bydd yr Academi Amaeth yn ei alluogi i gyflwyno syniadau newydd a golwg newydd ar y ffordd maen nhw'n rhedeg y busnes.
Mae Gwenllian Davies o Ben Llŷn, sydd wedi’i dewis ar gyfer Rhaglen yr Ifanc yn astudio Amaethyddiaeth Lefel 3 yn ei blwyddyn gyntaf yng Ngholeg Glynllifon ar hyn o bryd.
Wedi'i magu ar fferm laeth ei theulu, lle mae tua 340 o wartheg sy'n lloia yn yr hydref yn cael eu godro bob dydd, a thrwy leoliadau gwaith ar ffermydd llaeth eraill, mae hi wedi datblygu sgiliau ymarferol cryf a dealltwriaeth ddofn o ofal anifeiliaid a gweithrediadau fferm.
Mae Gwenllian, sy’n gyffrous am fod yn rhan o ddyfodol y diwydiant, yn awyddus i ddatblygu sgiliau newydd ac edrych ar gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol.
Hefyd wedi'i ddewis ar gyfer Rhaglen yr Ifanc mae Dafydd Davies sy'n byw ar fferm bîff a defaid yr ucheldir ger Llanwrtyd. Ar hyn o bryd mae'n astudio Peirianneg yn ymwneud â’r Tir Lefel 3 ar gampws Coleg Sir Gâr Gelli Aur, ei nod hirdymor yw cyfuno ffermio â gweithgareddau dylunio a pheirianneg.
Mae gen i ddiddordeb mewn arloesedd amaethyddol a byddwn wrth fy modd yn cael y cyfle i deithio dramor felly bydd ymweld â Norwy, sy'n enwog am ei systemau ffermio effeithlon, yn uchafbwynt i mi yn yr Academi Amaeth.
Dyma gyfle oes a ni allaf aros i gwrdd â ffrindiau newydd, cyfnewid syniadau a dysgu gan yr arbenigwyr rwy’n cwrdd â nhw!
Mae bywgraffiadau a lluniau o'r 24 ymgeisydd ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio