
Mae Cyswllt Ffermio bellach wedi ychwanegu 12 fferm newydd at y rhwydwaith hwn, gan gwmpasu sectorau megis cig coch, llaeth, coetir a garddwriaeth.
Bydd treialon a phrosiectau sy’n canolbwyntio ar arloesi a thechnolegau newydd yn cael eu cynnal ar y ffermydd hyn dros y flwyddyn nesaf.
Mae’r ffermydd hyn wedi’u lleoli ledled Cymru. Ymhlith y ffermwyr a recriwtiwyd mae Peter a Jacob Anthony sy’n ffermio ar Fferm Cwmrisca yn ardal Ton-du ger Pen-y-bont ar Ogwr. Maen nhw’n dymuno archwilio arferion ffermio adfywiol trwy ymchwilio sut i ddechrau defnyddio egwyddorion ffermio o’r fath wrth reoli’r gwartheg a’r defaid ar y fferm.
Fferm arall sydd wedi’i hychwanegu at rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio yw Pengelli Isaf ger Caernarfon, sy’n cael ei rhedeg gan Tudur Parry. Mae ynni a thrydan yn gost fawr i’r busnes fel unrhyw fusnes fferm laeth arall. Mae Tudur yn gobeithio archwilio dewisiadau amgen a chosteffeithiol, trwy gynnal astudiaeth ddichonoldeb ar gynhyrchu trydan adnewyddadwy, cyfrifo’r elw ar fuddsoddiad, a’r cyfnod ad-dalu i wrthbwyso costau llog banc.
Hoffai Caryl Hughes, sy’n ffermio ar fferm Tuhwntir Afon yn ardal Llanarmon yn Nyffryn Ceiriog, ganolbwyntio ar iechyd a pherfformiad defaid. Mae hi am ymchwilio i effeithiau gwahanol hydoddiannau (solutions) i faddonau traed ar gloffni defaid. Mae hefyd am gael gwybod pa effaith gaiff rhoi bolws i ŵyn hyrddod ar eu cynnydd mewn pwysau a pherfformiad cyffredinol, a hynny er mwyn lleihau nifer yr ŵyn gaiff eu gwerthu ar ôl pedwar mis wedi diddyfnu.
Mae fferm Pencedni yn ardal Glandŵr yn Sir Benfro hefyd wedi’i recriwtio i’r rhwydwaith. Tyddyn dan ofal Tom Clare a Jacqui Banks yw Pencedni, sy’n integreiddio coed i’w system seiliedig ar borfa, gan adlewyrchu diddordeb cynyddol y ddau ffermwr mewn ffermio adfywiol ac amaeth-goedwigaeth. Maen nhw’n dymuno datblygu ymhellach eu dealltwriaeth ecolegol a’r defnydd ymarferol o egwyddorion amaeth-goedwigaeth ar eu tyddyn.
Hoffai Laura Simpson o Barc y Dderwen yn ardal Llangolman yn Sir Benfro ymchwilio i wreiddio cnydau garddwriaethol lluosflwydd, gyda’r nod o chwilio am lwybrau amgen i arallgyfeirio’r busnes. Mae hi’n gobeithio monitro ac adrodd ar brosesau fel trin y tir, plannu, gwreiddio, chwynnu, a rheoli plâu trwy gydol y tymor. Bydd hefyd yn gaeafu gwelyau lluosflwydd ar gyfer cnwd iach y flwyddyn nesaf.
Yn ôl Siwan Howatson, Pennaeth Technegol Cyswllt Ffermio, “Rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r deuddeg fferm flaengar newydd hyn i rwydwaith Ein Ffermydd. Mae’r rhwydwaith yn cynnig platfform gwych ar gyfer arloesi ymarferol ar y fferm, wedi’i ysgogi gan y ffermwyr eu hunain. Mae’r ystod amrywiol o brosiectau – o arferion adfywiol ac ynni adnewyddadwy i iechyd anifeiliaid ac arallgyfeirio i arddwriaeth ac amaeth-goedwigaeth – yn wirioneddol adlewyrchu’r ymrwymiad yn sector amaeth Cymru i gofleidio technolegau newydd a dulliau cynaliadwy ar gyfer dyfodol gwydn a phroffidiol.”
Y ffermydd newydd eraill yw:
Aled Wyn Evans, Penllyn Farm, Tywyn, Meirionnydd (Cig Coch)
Leonard Griffith Swain, Ty’n Yr Onnen, Waunfawr, Gwynedd (Coetir)
Rhodri Jones, Pen y Parc, Llanerfyl, Sir Drefaldwyn (Llaeth)
Jonathan Lewis, Carneddau, Llanfair-ym-Muallt, Brycheiniog (Cig Coch)
Andrew Rees, Moor Farm, Rhos-lan, Sir Benfro (Llaeth)
Jonathan Evans, Berry Hill, Trefdraeth, Sir Benfro (Llaeth)
Michael James, Nant Yr Hebog, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin (Llaeth)