- Cyllideb ariannu:
- £3,000,000
- Ffenestr EOI ar agor:
- Ffenestr EOI yn cau:
Rhoddir cymorth i wahanu dŵr glaw a slyri oddi wrth ardaloedd fel ardaloedd bwydo da byw, ardaloedd casglu da byw, ardaloedd storio tail, storfeydd slyri a storfeydd silwair presennol.
Yr amcanion yw cynyddu lefelau buddsoddi ar y fferm, gwella perfformiad technegol, a chynyddu effeithlonrwydd cynhyrchu ac effeithlonrwydd adnoddau ar y fferm.
Mae Grantiau Bach – Gorchuddio Iardiau yn darparu buddsoddiadau cyfalaf ar gyfer offer y nodwyd ymlaen llaw a fydd yn darparu manteision clir a mesuradwy i fentrau fferm yng Nghymru. Mae'r eitemau cyfalaf wedi cael eu pennu, ynghyd â chost safonol ar gyfer pob eitem.
Rheolau a chanllawiau Grantiau Bach – Gorchuddio Iardiau (ffenestr 2)
Darllenwch y rheolau a'r canllawiau Tyfu ar gyfer yr Amgylchedd cyn cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb (EoI).
Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu hysbysebu drwy wefan Llywodraeth Cymru, GWLAD ar-lein a, lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.