Rydym yn gwahodd prifysgolion, sefydliadau addysg uwch, sefydliadau ymchwil anfasnachol, cyfleusterau Ymchwil a Datblygu a grwpiau rhanddeiliaid amaethyddol i ymuno â'n rhwydwaith cynyddol o bartneriaid Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth. Cofrestrwch i ddod yn aelod heddiw a byddwch y cyntaf i glywed am y cyfleoedd diweddaraf o fewn Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio gan gynnwys cyfleoedd i gasglu data am fyfyrwyr a datblygu cyrsiau arbenigedd Cyfnewid Gwybodaeth.