BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Richard Tudor, Glanystwyth, Aberystwyth, Ceredigion – Defaid

Richard Tudor

Math o fferm: Defaid
Oriau gwaith:Oriau yn ystod y dydd – i'w drafod
Lleoliad:Glanystwyth, Y Gors, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 4AP 
Cyflog:Isafswm cyflog: cyflog gweithwyr amaethyddol cenedlaethol
Contract:6 wythnos – O ganol mis Chwefror tan ddechrau mis Ebrill
Dyddiad cychwyn:14 Chwefror
Llety:Nid oes llety ar gael gyda'r cyfle hwn

Rydym yn chwilio am 

Ymgeisydd sydd â diddordeb brwd yn y sector defaid sy'n barod i ddysgu, yn achub y blaen, ac yn gallu integreiddio'n barchus i'n tîm ŵyna. Mae ymrwymiad i safonau gwaith uchel a dilyn protocolau iechyd a diogelwch yn orfodol bob amser. 

 

Disgrifiad swydd  

Mae'r lleoliad gwaith hwn yn cynnig cyfle dysgu ymarferol o fewn ein busnes ffermio defaid sefydledig o safon uchel. Byddwch yn cael cwblhau hyfforddiant cynhwysfawr gan weithio ochr yn ochr â staff profiadol yn ystod y cyfnod ŵyna hollbwysig, gan sicrhau amgylchedd dysgu cefnogol.  

Cyfrifoldebau allweddol a chyfleoedd dysgu: 

  • Ŵyna 
  • Cyflawni swyddi arferol o fewn y siediau ŵyna a'r ardaloedd dan do 
  • Paratoi a symud y mamogiaid a'r ŵyn i'w symud o'r siediau allan i'r caeau 
  • Rheoli porthiant: Cynorthwyo gyda bwydo'r mamogiaid a'r ŵyn 
  • Iechyd y ddiadell: Gweithio'n agos gyda staff ar drefn ddyddiol sy'n hanfodol ar gyfer cynnal da byw iach ar draws pob grŵp oedran.  
  • Dyletswyddau fferm cyffredinol: Cynorthwyo’r tîm gyda gwahanol dasgau sy'n hanfodol ar gyfer gweithrediad dyddiol fferm brysur. 

Busnes fferm cyfredol 

  • Mae Glanystwyth yn fferm iseldir 420 erw 
  • Cedwir 1400 o famogiaid Aberfield x Highlander, gydag ŵyn yn cael eu cynhyrchu ar gyfer Waitrose. Mae pob mamog yn ŵyna dan do. 
  • Mae pob un yn cael cadw yn y sied ym mis Rhagfyr, pan gânt eu cneifio a'u sganio. 
  • Mae canrannau sganio nodweddiadol ar gyfartaledd rhwng 190-195%. 
  • Adeg ŵyna, cedwir yr ŵyn mewn corlannau bach unigol am 24-36 awr ar ôl eu geni, cyn cael eu symud i gorlannau mwy lle byddant yn cymysgu â mamogiaid eraill ac ŵyn ifanc. Cedwir rhwng 20-40 o famogiaid yn y corlannau mwy hyn ynghyd â'u hŵyn. Byddant yn aros yn y corlannau mwy am 3-4 diwrnod cyn iddynt fynd allan i'r caeau. 
  • Cynhyrchir tua 2,400 o ŵyn bob blwyddyn. 

Eich rheolwr 

Mae Richard yn frwd dros y diwydiant amaeth ac mae'n ffermwr defaid blaengar. Yn gyfathrebwr da, mae Richard yn hoffi helpu pobl i ddatblygu a gwella eu sgiliau. Mae'n ffermwr profiadol sy'n frwd dros ffermio a'i etifeddiaeth hirdymor fel diwydiant ac mae'n awyddus i annog pobl ifanc i ymuno â'r diwydiant. Disgwyliwch gael eich ysbrydoli a'ch annog gan ei wybodaeth, ei brofiad personol a'i frwdfrydedd.  

 

 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.