BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Rheoli parasitiaid mewn defaid

Trosolwg

Mae pob fferm prosiect wedi cydnabod yr her o reoli llyngyr yn eu diadelloedd. Mae rhywogaethau llyngyr yn amrywio ar draws y tymhorau ac ym mhob fferm. Gall gwybod pa rywogaethau sy'n bresennol fod yn hynod ddefnyddiol wrth gynnal gwiriadau triniaeth. Mae rhai rhywogaethau'n achosi clefyd ac nid yw eraill ac nid yw canlyniad cyfrif wyau ysgarthol safonol (FEC) yn gallu pennu pa rywogaethau sy'n bresennol. 

Mae'r prosiect ar gyfer nodi rhywogaethau parasitiaid yn y sector defaid yn dod â grwpiau trafod o Aberhonddu, De Cymru a Sir Benfro ynghyd. Nod y prosiect yw gwella rheolaeth llyngyr wedi’i dargedu drwy gasglu samplau o ysgarthion o 15 dafad fesul fferm, cynnal cyfrif wyau ysgarthol a defnyddio technegau trin ysgarthion i nodi rhywogaethau llyngyr cyn ac ar ôl triniaeth anthelmintig. Bydd milfeddygon APHA yn cynnal dadansoddiad fel y gellir addasu effeithlonrwydd y driniaeth.  


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.