Oes gennych chi syniad da a all helpu eich busnes ac Amaethyddiaeth ehangach yng Nghymru i ddod yn fwy cynaliadwy?
Mae'r Cyllid Arbrofi yn gwireddu eich syniadau i fynd i’r afael â phroblemau neu gyfleoedd lleol penodol gyda’r nod o wella effeithlonrwydd a phroffidioldeb mewn busnesau amaethyddol wrth warchod yr amgylchedd yn unol â’r fframwaith Rheoli Tir yn Gynaliadwy.
Mae yna lawer o newidiadau ar y gorwel i amaethyddiaeth ac mae nawr yn amser gwych i archwilio syniad a allai fod o fudd i'ch fferm gan ganiatáu i chi fynd i'r afael â phroblemau 'go iawn' neu wirio a yw syniad ymchwil yn gweithio'n ymarferol ar eich fferm.
Sut i gymryd rhan
Mae’r cyfnod ymgeisio ar gau ar hyn o bryd – dewch yn ôl i wirio cyn bo hir.