BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Mentor

Katie-Rose Davies

Kate-Rose Davies
Lleoliad:
Bro Morgannwg
Sector:
Biff, Arallgyfeirio, Defaid
Specialism:
Gweinyddiaeth a Gwaith Papur, Iechyd a Lles Anifeiliaid, Meincnodi, Rheoli a chynllunio busnes, Gwerthu'n Uniongyrchol, Rheoli Tir Glas, Arloesi, Marchnata

Pam fyddai Katie-Rose yn fentor effeithiol

  • Mae Katie-Rose yn ffermwr sydd wedi ennill gwobrau, yn ddarlithydd coleg uchel ei pharch ac yn eiriolwr brwd dros ffermio law yn llaw â natur a’r amgylchedd. Mae’n helpu i siapio dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru ar y fferm ac yn y byd academaidd. Gan gyfuno profiad ffermio ymarferol gyda’i dawn am ysbrydoli ac addysgu eraill, mae’n dod â safbwynt newydd, blaengar i bob her gan hefyd gadw sylfaen gadarn yn y byd masnachol gwirioneddol. 
  • Mae Katie-Rose a’i gŵr yn rhedeg fferm fynydd 1,500 erw yng Nghwm Ogwr, gyda’r tir yn codi i 1,850 troedfedd uwchben lefel y môr. Mae’r busnes yn cynnwys oddeutu 750 o famogiaid Mynydd De Cymru a buches o 45 o wartheg bîff Stabiliser, sy’n cael eu rheoli ar system fewnbwn isel yn seiliedig ar laswellt, a luniwyd i sicrhau’r effeithlonrwydd gorau posibl a gwella cynaliadwyedd amgylcheddol. 
  • Yn 2019, penderfynodd y pâr ddisodli eu buches o Wartheg Duon Cymreig pedigri gyda gwartheg Stabiliser. Gan ddefnyddio genomeg a bywiogrwydd hybrid, maent wedi datblygu buches o wartheg ffrwythlon ac effeithlon sy’n gweddu’n dda gydag amodau heriol ar yr ucheldir. Mae’r brîd yn adnabyddus am rwyddineb lloia, nodweddion mamol ardderchog a llai o allyriadau carbon, ac mae’n dangos bod modd i gynhyrchiant da byw proffidiol a chyfrifoldeb amgylcheddol weithio law yn llaw. 
  • Mae arallgyfeirio hefyd wedi chwarae rôl allweddol wrth atgyfnerthu’r busnes. Sefydlodd Katie-Rose fenter bocsys cig Bwlch Mountain Lamb, gan greu ffrwd incwm gwerthfawr ar gyfer gwerthu’n uniongyrchol gan hefyd adeiladu perthnasoedd agosach gyda chwsmeriaid a hybu cig oen a chig eidion o ansawdd uchel. 
  • Mae arloesi’n sylfaen i bob agwedd ar y fferm. Yn 2025, llwyddodd Katie-Rose i sicrhau cyllid i gyflwyno technoleg coleri rhithwir ‘NoFence’, sy’n rheoli da byw gan ddefnyddio system leoli fyd-eang i wella effeithlonrwydd pori, gwella bioamrywiaeth, cefnogi iechyd y pridd ac atgyfnerthu safonau lles anifeiliaid ymhellach. Mae ei pharodrwydd i groesawu technoleg newydd gan hefyd fesur perfformiad busnes yn adlewyrchu ei chred bod gwelliant parhaus yn hanfodol ar gyfer busnesau ffermio gwydn. 

  • Mae hi wedi derbyn nifer o wobrau ffermio ac addysgu uchel eu parch, ac mae hi’n parhau i gyflawni nifer o rolau arweinyddiaeth dylanwadol o fewn y diwydiant amaeth yng Nghymru. Mae ei gallu i egluro syniadau cymhleth yn glir, annog hyder a chymell eraill yn ei gwneud yn fentor ymrwymedig ac effeithiol iawn a fydd yn cynnig arweiniad realistig a chefnogol.  

Busnes fferm presennol

  • Fferm fynydd 1,500 erw, yn codi i 1,850 troedfedd uwchben lefel y môr 
  • Buches o 45 o wartheg bîff Stabiliser  
  • 750 o famogiaid Mynydd De Cymru gyda diadell fechan o 100 o famogiaid Cheviot De Lloegr 
  • System bori eang ar y mynydd gyda gwndwn llysieuol i hybu bioamrywiaeth a gwytnwch. 
  • Menter bocsys cig Bwlch Mountain Lamb/Beef  

Cyflawniadau / profiad

  • 2025 – Gwobr Ffermwyr y Dyfodol Cymru  
  • 2025 – Gwobr Dai Davies am Effaith ar y Diwydiant  
  • 2025 – Llysgennad Arwain DGC 
  • 2025 – Ffermwr Bîff y Flwyddyn – Gwobrau Ffermio Prydain  
  • 2025 – Mynychu’r Arddwest Frenhinol ym Mhalas Buckingham (cyfraniad tuag at addysg ym myd amaeth) 
  • 2025 - ‘Ffermwr Benywaidd y Flwyddyn’ – Gwobrau Cenedlaethol Merched mewn Amaeth 2025 
  • 2025 – Cadeirydd NFU Morgannwg  
  • 2025 – Cynrychiolydd Bwrdd ALFf Morgannwg  
  • 2025 – presennol – Arweinydd Agrisgôp Cyswllt Ffermio  
  • 2024 – Darlithydd AB y Flwyddyn 2024 (Gwobrau Dysgu Proffesiynol Cymru) 
  • 2024 – Gwobr Dysgu Cenedlaethol Pearson (Arian)  
  • 2023 – Ffermwr Benywaidd y Flwyddyn NFU Cymru  

Cyngor da ar gyfer llwyddo mewn busnes

“Meincnodwch eich busnes, parhewch i fonitro perfformiad a defnyddiwch ddata dibynadwy i arwain penderfyniadau rheoli.” 

“Byddwch yn agored i syniadau a thechnolegau newydd a gwahanol ffyrdd o ffermio. Gall newidiadau bychain a gyflwynir am y rhesymau cywir wneud gwahaniaeth sylweddol o safbwynt proffidioldeb a chynaliadwyedd.” 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.