- Lleoliad:
- Powys
- Sector:
- Defaid
- Specialism:
- Iechyd a Lles Anifeiliaid, Meincnodi, EID, Rheoli Tir Glas, Arloesi
Pam fyddai Chris yn fentor effeithiol
- Mae Chris Davies yn credu mai’r pethau mwyaf arloesol yw’r rhai hynny sy’n arwain at welliannau mesuradwy ar y fferm. Trwy gyfuno hwsmonaeth defaid ymarferol gyda pharodrwydd i roi cynnig ar syniadau newydd, mae wedi trawsnewid agweddau allweddol ar ei fusnes fferm teuluol ac mae bellach yn awyddus i helpu ffermwyr eraill i gyflawni canlyniadau tebyg.
- Mae Chris yn ffermio ochr yn ochr â’i dad ar fferm Awel y Grug, fferm ucheldir 320 erw ger Y Trallwng. Ar hyn o bryd, mae’n cadw diadell o 700 o famogiaid bridio, ac mae ganddo gynlluniau i ehangu’r ddiadell ymhellach. Fel nifer o fentrau defaid, mae’r busnes wedi wynebu costau mewnbwn cynyddol, yn enwedig ar gyfer prynu porthiant, ac roedd Chris eisiau canfod ffyrdd ymarferol i wella effeithlonrwydd gan hefyd leihau ôl troed amgylcheddol y fferm.
- Mae cymorth Cyswllt Ffermio wedi bod yn drobwynt. Fel rhan o’r rhwydwaith ‘Ein Ffermydd’, bu Chris yn gweithio gydag ymgynghorwyr arbenigol i dreialu system bori cylchdro a chyflwyno gwndwn meillion coch a gwyn cynhyrchiol, llawn protein i’r system bori. Mae’r canlyniadau wedi lleihau dibyniaeth y fferm ar ddwysfwyd a brynir i mewn yn sylweddol yn ystod y cyfnod ŵyna, gan hefyd gynnal lefelau perfformiad y ddiadell a gwella ansawdd porthiant a dyfir ar y fferm. Mae’r profiad wedi atgyfnerthu cred Chris fod cynllunio’n ofalus, mesur canlyniadau ac addasu syniadau lle mae’r dystiolaeth wedi’i phrofi’n gallu gwneud gwahaniaeth o safbwynt proffidioldeb a gwytnwch.
- Mae Chris wedi parhau i adeiladu ar y dull hwn ar draws y busnes. Mae’n defnyddio dull adnabod electronig (EID) a chadw cofnodion digidol i helpu i fonitro perfformiad y ddiadell, meincnodi canlyniadau a chefnogi penderfyniadau deallus. Mae hefyd yn llysgennad brwd dros Driniaeth Ddethol wedi’i Thargedu (TST) ar gyfer rheoli parasitiaid, gan ddefnyddio data perfformiad i leihau nifer yr achosion o roi drensh diangen gan hefyd gynnal lefelau iechyd anifeiliaid a helpu i drechu ymwrthedd i driniaethau gwrthficrobaidd.
- Mae effeithlonrwydd yn ymestyn y tu hwnt i reoli da byw. Mae Chris wedi dylunio cyfleusterau newydd i drin defaid yn ymarferol gan ddefnyddio hen sied ddefaid i wella llif da byw, lleihau gofynion llafur a gwneud un o gyfnodau prysuraf y flwyddyn yn haws i’w reoli. Mae ei ffocws bob amser ar ganfod atebion syml a chost effeithiol sy’n addas ar gyfer ffermio o ddydd i ddydd.
- Fel mentor Cyswllt Ffermio, mae Chris yn edrych ymlaen at rannu profiad ymarferol yn hytrach na damcaniaethau. Wedi iddo lwyddo i gyflwyno systemau pori newydd, technoleg a gwell arferion rheoli i’w fusnes ei hun, mae’n deall heriau a buddion newid. Ei nod yw rhoi’r hyder i ffermwyr eraill i werthuso syniadau newydd, gwneud penderfyniadau gwybodus a mabwysiadu systemau sy’n gwella cynhyrchiant, proffidioldeb a chynaliadwyedd hirdymor.
Cymwysterau, cyflawniadau a phrofiad
- Aelod o raglen ‘Ein Ffermydd’ Cyswllt Ffermio.
- Aelod o grŵp trafod defaid Cyswllt Ffermio.
- Profiad helaeth o ddefnyddio EID i fonitro perfformiad y ddiadell a chanlyniadau meincnodi.
- Profiad o ddefnyddio systemau AgriWeb, Tru-Test a Gallagher ar gyfer rheoli a chofnodi da byw.
- Arbenigedd ymarferol mewn pori cylchdro, sefydlu meillion coch a gwyn a rheoli glaswelltir.
- Profiad o ddylunio cyfleusterau trin defaid effeithlon, a defnyddio isadeiledd a siediau da byw presennol i wella effeithlonrwydd mewn modd cost effeithiol.
Cyngor da
"Mesurwch ganlyniadau gwirioneddol, nid eich rhagdybiaethau. Mae cofnodion da’n eich helpu i ddeall yr hyn sy’n arwain perfformiad mewn gwirionedd, a ble gallwch wella proffidioldeb."
"Dechreuwch gydag un newid, gwnewch hwnnw’n effeithiol a dysgwch o hynny. Gall gwelliannau bychain a gyflwynir yn hyderus sicrhau effaith barhaus ar eich busnes."