BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Manyleb Swydd - Arweinydd yr Academi Amaeth

Rhaglen yr Academi Amaeth / Senior Agri Academy Programme 
Cychwyn a chyflwyniadau / Initiation & Introductions  Sioe Frenhinol Cymru / Royal Welsh Show 21 Gorffennaf 2026 / 21 July 2026 
Sesiwn 1 / Session 1 Iwerddon / Ireland  17-19 Fedi 2026 / 17-19 September 2026  
Sesiwn 2 / Session 2 Gwlad y Basg, Gogledd Sbaen / The Basque country, Northern Spain 5-9 Hydref 2026 / 5-9 October 2026 
Sesiwn 3 / Session 3 Ceredigion, Cymru  / Ceredigion, Wales9-11 Tachwedd 2026 / 9-11 November 2026 
Seremoni wobrwyo’r Academi Amaeth / Agri Academy Ceremony Y Ffair Aeaf, Llanelwedd / Winter Fair 30 Tachwedd 2026 / 30 November 2026 

 

Rhaglen Academi yr Ifanc / Junior Academy Programme 
Cychwyn a chyflwyniadau / Initiation & Introductions  Sioe Frenhinol Cymru / Royal Welsh Show 21 Gorffennaf 2026 / 21 July 2026 
Sesiwn 1 / Session 1 Gogledd Cymru / North Wales 11-13 Awst 2026 / 11-13 August 2026 
Sesiwn 2 / Session 2 Northumberland, Gogledd Lloegr / Northumberland, Northern England11-13 Medi 2026 / 11-13 September 2026 
Sesiwn 3 / Session 3 Gwlad yr Iâ / Iceland  25-29 Hydref 2026 / 25-29 October 2026 
Seremoni wobrwyo’r Academi Amaeth / Agri Academy Ceremony  Y Ffair Aeaf / Winter Fair 30 Tachwedd 2026 / 30 November 2026   

Manyleb Swydd

Prosiect: Cyswllt Ffermio 

Rhaglen: Academi Amaeth (Carfannau hŷn a/neu Iau)  

Adran: Rhaglenni Gwledig  

Math o Gytundeb: Hunangyflogedig (cytundeb sesiynol / tymor penodol)  

Lleoliad: Ar leoliad (darpariaeth breswyl, taith astudio dramor, rhywfaint o gymorth o bell)  

Rheolwr: Pennaeth Dysgu Gydol Oes, Cenedlaethau’r Dyfodol ac Olyniaeth 

Ffi: £3750 (a’r holl gostau teithio, llety a threuliau cymwys ar gyfer sesiynau preswyl yr Academi Amaeth) 
Sgiliau Dwyieithog: Dymunol iawn 

 

Cefndir

Yr Academi Amaeth yw rhaglen datblygiad personol blaenllaw Cyswllt Ffermio, a luniwyd i ysbrydoli a grymuso’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr, arloeswyr ac entrepreneuriaid gwledig yng Nghymru. Mae’r rhaglen yn rhoi pwyslais sylweddol ar ddatblygiad personol, arweinyddiaeth, gwytnwch, newid ymddygiad a dysgu gan gymheiriaid, a ddarperir ar ffurf cyrsiau preswyl dwys, teithiau astudio tramor a myfyrio strwythuredig.

Er mwyn atgyfnerthu’r ddarpariaeth a sicrhau’r effaith orau bosibl, mae model ddarparu’r Academi Amaeth yn rhannu gwaith cydlynu logisteg (Hwylusydd yr Academi Amaeth) oddi wrth ddatblygiad personol ac adeiladu tîm (Arweinydd yr Academi Amaeth). Mae’r rôl hon yn canolbwyntio ar ddatblygiad aelodau, gan eu galluogi i fagu hyder, dynameg tîm cadarnhaol a datblygu sgiliau.  

Mae’n cynnwys dwy garfan benodol -  

  1. Academi Amaeth Hŷn: Arwain newid. Ysgogi gwytnwch

Sesiynau preswyl dwys sy’n adeiladu cymeriad ar gyfer arloeswyr ac entrepreneuriaid gwledig gyda’r nod o gyflawni strategaeth lefel uchel a gwytnwch personol wrth wynebu newid.

   2. Academi Amaeth – Rhaglen yr Ifanc: Datblygu eich gyrfa

Yn benodol ar gyfer y garfan iau (16-21 mlwydd oed) i ddatblygu gyrfa broffesiynol hirdymor o fewn y sector bwyd amaeth a’r sector tir.

 

Diben y swydd

Mae Arweinydd yr Academi Amaeth yn gyfrifol am hyfforddi, mentora a chynorthwyo’r aelodau fel carfan ac fel unigolion, gan eu galluogi i:

  • Feithrin hunanymwybyddiaeth, hyder a’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol
  • Llywio newid ac ansicrwydd o fewn busnesau ffermio a gwledig
  • Trosi’r hyn a ddysgir yn gamau gweithredu personol a busnes ystyrlon

Nid yw’r rôl yn ymwneud â logisteg. Yn hytrach, mae’n darparu diogelwch seicolegol, cyfeillgarwch, cyfle i fyfyrio ynghyd â datblygiad personol strwythuredig, sy’n ategu gwaith Hwylusydd yr Academi Amaeth.

 

Prif gyfrifoldebau

  • Gweithredu fel Arweinydd Tîm ar gyfer y garfan Academi Amaeth, gan feithrin ymddiriedaeth, agwedd agored a chymorth.
  • Darparu hyfforddiant a mentora unigol i aelodau drwy gydol y rhaglen.
  • Cynorthwyo aelodau i ganfod nodau, heriau a phatrymau ymddygiad, ac i ddatblygu strategaethau ymarferol ar gyfer gwneud cynnydd.
  • Rhoi dulliau hyfforddi a dysgu gweithredol ar waith i ymestyn aelodau y tu hwnt i’r hyn sy’n gyfforddus gan hefyd gynnal cymorth priodol.
  • Hwyluso trafodaethau grŵp myfyriol, herio cymheiriaid a dysgu ar y cyd yn ystod sesiynau preswyl.
  • Creu amgylchedd diogel, cynhwysol lle mae aelodau’n teimlo’n hyderus i fynegi syniadau, pryderon ac uchelgeisiau.
  • Annog cydweithio, atebolrwydd a dysgu rhwng aelodau.
  • Gweithio’n agos gyda Hwylusydd yr Academi Amaeth i lunio cynnwys y rhaglen.
  • Darparu mewnbwn i ddyluniad y sesiynau lle y bo’n berthnasol.
  • Cefnogi dysgu cyn, yn ystod ac ar ôl teithiau astudio tramor, gan helpu aelodau i ddefnyddio’r mewnwelediadau yn eu cyd-destunau eu hunain yng Nghymru.
  • Cynnal safon uchel o broffesiynoldeb a chyfrinachedd.
  • Sicrhau bod y ddarpariaeth yn cyd-fynd gyda gwerthoedd, egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a safonau bioddiogelwch Cyswllt Ffermio.
  • Gweithredu fel eiriolwr cadarnhaol ar gyfer yr Academi Amaeth a’r rhaglen Cyswllt Ffermio ehangach.
  • Rhannu cyfrifoldebau gyrru lle y bo’n berthnasol (at ddibenion yswiriant, mae’n rhaid i ymgeiswyr fod dros 25 mlwydd oed ac yn meddu ar drwydded yrru ers o leiaf dwy flynedd)

 

Sgiliau a phrofiad

  • Profiad mewn hyfforddi, mentora, hwyluso neu ddatblygu rheolaeth.
  • Dealltwriaeth dda o ddatblygiad personol, newid ymddygiad a dysgu myfyriol.
  • Gallu magu perthynas ac ymddiriedaeth yn gyflym gydag unigolion a grwpiau.
  • Profiad o weithio gyda ffermwyr, busnesau gwledig neu sectorau’r tir yng Nghymru neu’r DU.
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf.
  • Gallu herio’n adeiladol a chynorthwyo aelodau drwy gyfnodau o newid.
  • Dealltwriaeth o’r sector amaeth yng Nghymru a’r cyd-destun polisi (e.e. Cyswllt Ffermio, cynaliadwyedd, gwytnwch busnes).
  • Profiad o weithio gyda phobl ifanc a/neu arweinwyr gwledig sy’n dod i’r amlwg.
  • Gallu gweithio’n ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg).
  • Parodrwydd i deithio ac aros dros nos ar gyfer sesiynau preswyl a theithiau astudio i wledydd tramor.
  • Gallu gweithio ar y cyd ag Arweinwyr eraill yr Academi Amaeth, hwyluswyr a staff canolog y rhaglen. 

 

I wneud cais am Ysgoloriaeth y cyn-aelodau a swydd Arweinydd yr Academi Amaeth ar gyfer 2026, anfonwch fideo, dim mwy na 5 munud o hyd, yn egluro sut y byddech chi'n cyflawni gofynion y swydd.

Dylid anfon eich fideo a chopi o'ch CV at einir.davies@mentera.cymru. Gellir anfon fideos hefyd drwy WhatsApp at Einir Davies ar 07985155514. 

 

Pwy yw Hwylusydd yr Academi Amaeth? 

Mae Elin Jones wedi cael ei phenodi’n ddiweddar fel Hwylusydd yr Academi Amaeth, gan weithio gyda Mentera sy’n darparu rhaglen Cyswllt Ffermio.

Wedi’i lleoli yn Eryri, mae Elin yn cynnig cyfuniad cryf o brofiad ffermio ymarferol, darparu rhaglen sy’n canolbwyntio ar unigolion a sgiliau trefnu o safon uchel ar gyfer y rôl. Ochr yn ochr â’i gwaith proffesiynol, mae Elin yn ffermio gyda’i gŵr ar fferm bîff a defaid yn Eifionydd, gan gynnwys buches o wartheg Aberdeen Angus pedigri a diadell o ddefaid Cymreig croes. Mae hi’n ymwneud yn agos â’r agweddau ymarferol o reoli’r fferm o ddydd i ddydd ac ochr weinyddol y busnes, gan gynnwys cofnodion da byw, symudiadau a gwaith papur Taliadau Gwledig.

Cyn ymuno â Mentera, bu Elin yn gweithio fel Swyddog Cefnogi Clybiau ar ran Ffermwyr Ifanc Eryri, lle bu’n gyfrifol am gefnogi a datblygu gwaith y mudiad ledled y wlad. Yn y rôl hon, bu’n cydlynu ac yn darparu rhaglen eang o weithgareddau ar gyfer oddeutu 400 o aelodau 13-30 mlwydd oed, gan gynnwys digwyddiadau ar raddfa fawr megis y rali, cystadlaethau, diwrnodau gwaith maes a sioeau sir. Roedd hyn yn cynnwys logisteg gymhleth, cydlynu gwirfoddolwyr, pennu cyllideb, iechyd a diogelwch, diogelu a gweithio’n agos gydag ystod o bartneriaid amaethyddol a gwledig.

Mae gan Elin brofiad helaeth o drefnu gweithgareddau preswyl a theithiau, gan gynnwys teithiau aml-ddiwrnod, rheoli lleoliadau, trafnidiaeth, asesiadau risg ac amserlenni manwl. Mae hi’n adnabyddus am ei dull tawel ac ymarferol o ddatrys problemau gan olygu bod trefniadau logisteg yr Academi Amaeth mewn dwylo diogel.

O safbwynt academaidd, mae gan Elin radd BA (Anrhydedd) Dosbarth Cyntaf mewn Astudiaethau Plentyndod o Brifysgol Bangor, sy’n sylfaen i’w dealltwriaeth gref o ddatblygiad proffesiynol, dysgu, arweinyddiaeth a gweithio gyda phobl ifanc. Mae’n gwbl ddwyieithog, yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac mae wedi cwblhau hyfforddiant diogelu a chymorth cyntaf.

Fel Hwylusydd yr Academi Amaeth, bydd Elin yn gyfrifol am gydlynu a sicrhau trefniadau llyfn ar gyfer y rhaglen, gan weithio’n agos gydag Arweinydd yr Academi Amaeth i greu’r amgylchedd cywir i aelodau allu canolbwyntio ar ddysgu, datblygiad proffesiynol a chymorth gan gymheiriaid. Mae ei chyfuniad o fewnwelediad ym maes ffermio, sgiliau trefnu cryf a sgiliau pobl yn ei rhoi mewn sefyllfa dda i gefnogi profiad Academi Amaeth o ansawdd uchel.

Mae’r ddwy brif raglen yn parhau, ac mae strwythur craidd yr Academi Amaeth a’r fformat yn parhau'r un fath.


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.