Mae ffermydd arddangos yn meddu ar feddwl agored ac maent yn awyddus i brofi syniadau newydd ac i wella perfformiad a chynaliadwyedd eu ffermydd trwy arbrofion ar y fferm. Rydym yn chwilio am ffermydd arddangos sydd ar wahanol gamau o ddatblygiad eu fferm, gan gynnwys y rhai sy’n rhan o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ogystal â’r rhai nad ydynt, i ymuno â’r rhwydwaith.
Yn dilyn y broses recriwtio, bydd ffermydd arddangos a ddewisir yn cael eu cynorthwyo i gynnal o leiaf dau arbrawf hirdymor wedi’u hariannu ar y fferm rhwng tymor yr haf 2026 i mis Mawrth 2029.
Rhaid i’r arbrofion ar y fferm gyd-fynd â’r fframwaith Rheoli Tir yn Gynaliadwy a byddant yn cael eu datblygu ar y cyd â chi'ch hun, eich Swyddog Sector Cyswllt Ffermio dynodedig ac arbenigwr yn y diwydiant.
Mae sectorau cymwys yn cynnwys llaeth, cig coch, moch, dofednod, tir âr, garddwriaeth a choetiroedd fferm.
Bu i gyn aelodau rhwydwaith Ein Ffermydd ddysgu pa systemau oedd yn gweithio'n dda a pha rai nad oeddent, trwy roi dulliau newydd neu wahanol ar waith i gyflawni eu nodau a chynyddu proffidioldeb a chynaliadwyedd y busnes a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Maent bellach mewn sefyllfa gystadleuol gryfach, mewn gwell sefyllfa i ymdopi â natur gyfnewidiol y farchnad, i ffynnu a llwyddo.
Fel fferm arddangos, byddwch yn gweithio gyda thîm o arbenigwyr yn y diwydiant i lywio newid cadarnhaol yn y meysydd sy'n bwysig i chi a'ch busnes.
Edrychwch ar lyfryn Rhwydwaith Ein Ffermydd 2022 - 2026 lle gallwch gael manylion am arbrofion blaenorol ar y fferm.
- Cymryd rhan ragweithiol mewn o leiaf dau arbrawf wedi’u hariannu ar y fferm dros gyfnod o dair blynedd.
- Ar y dechrau, gofynnir i chi gwblhau set o astudiaethau sylfaenol wedi'u hariannu'n llawn i helpu i nodi meysydd ffocws ar gyfer yr arbrofion ar y fferm i sicrhau bod y rhain yn mynd i'r afael â meysydd lle y gall eich busnes elwa fwyaf.
- Bydd gofyn i ffermydd agor eu drysau i ddysgu a rhannu arferion gorau a syniadau newydd yn seiliedig ar ganlyniadau arbrofion ar y fferm drwy un o’n digwyddiadau Ymweld ag Ein Ffermydd (digwyddiadau ar y fferm) ac Ein Ffermydd-Yn fyw (digwyddiadau digidol a chynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol).
- Disgwylir i ffermydd ddarparu dyfyniadau ar gyfer astudiaethau achos a straeon am eu harbrofion ar y fferm gyda chymorth eu Swyddog Sector Cyswllt Ffermio. Ni fydd disgwyl i ffermwyr ysgrifennu eu hastudiaethau achos na'u hadroddiadau eu hunain ond byddant yn cael rhoi cymeradwyaeth lawn ar unrhyw ddeunydd a gynhyrchir gan Cyswllt Ffermio.
- Efallai y bydd rhai ffermydd arddangos yn derbyn ceisiadau i grwpiau eraill ymweld â'r fferm megis grwpiau trafod a/neu grwpiau diwydiant.
Bydd ffermwyr sy'n rhan o'r rhwydwaith yn cael eu cefnogi gan Swyddogion Sector Cyswllt Ffermio, arbenigwyr sector-benodol, arbenigwyr yn y diwydiant a ffermwyr eraill o fewn y rhwydwaith.
Bydd cyllid hefyd ar gael i gwblhau astudiaethau sylfaenol ac arbrofion ar y fferm.
Bydd y wybodaeth a gesglir drwy'r astudiaethau sylfaenol hyn yn cynorthwyo ffermwyr sy’n rhan o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Bydd ceisiadau i fynegi diddordeb yn agor ar 16 Mawrth 2026.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 10am, ddydd Llun 18 Mai 2026.
Ffurflen ar gyfer mynegi diddordeb
Os hoffech drafod y cyfle, cysylltwch â Siwan.howatson@mentera.cymru / 07399 783 398