Ardal: Llŷn ac Eryri
Owain Rhys Hughes yw Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio (dros dro) i Lŷn ac Eryri dros gyfnod mamolaeth Mali Dafydd.
Yn wreiddiol o Ynys Môn, mae Owain ymgartrefu gyda’i deulu ifanc yn Ninmael, ger Corwen ers blynyddoedd lawer ac yn berchennog fferm bîff yno. Mae Owain yn ffermio mewn partneriaeth gyda’i wraig ac yn cadw buchod magu, gyda’r rhan helaeth yn wartheg duon cymreig pur.
Mae Owain wedi gweithio o fewn y sector amaeth ers gadael Coleg Glynllifon ble gwblhaodd Diploma mewn Amaethyddiaeth. Roedd Owain yn aelod brwd o fudiad y Ffermwyr Ifanc a Chlwb Rygbi Llangefni pan roedd yn iau ac mae bellach yn gwirfoddoli fel hyfforddwr tîm dan 8 Gwylliaid Meirionnydd.
Yn ei swydd flaenorol, roedd yn profi TB i bractis milfeddygol Dolgellau ble roedd yn cynghori a chefnogi amaethwyr yn ddyddiol. Yn ei amser hamdden, mae’n aelod o Gôr Meibion Llangwm ac yn mwynhau treulio amser gyda’i deulu.