BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Marc Bowen

Ardal: Gogledd Ceredigion

Marc Bowen yw swyddog datblygu Cyswllt Ffermio ar gyfer Gogledd Ceredigion, sy’n cwmpasu’r ardal i’r gogledd o Aberaeron, gan gynnwys Llanrhystud, Llanon, Aberystwyth, Talybont, Bow Street a Thregaron.

Mae Marc, a enillodd radd ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn byw gartref ar fferm ddefaid y teulu yn Llanfihangel-ar-Arth, a bydd yn treulio unrhyw amser sbâr sydd ganddo ar y fferm, lle bydd yn cyfranogi ym mhob agwedd ar y busnes. Mae gan y fferm ddiadell o 650 o famogiaid Mynydd Cymreig a chroesiadau Texel, a chaiff mwyafrif yr ŵyn a’r ŵyn stôr eu pesgi ar y fferm neu eu gwerthu mewn marchnadoedd lleol. Yn ystod blynyddoedd diweddar, mae’r teulu hefyd wedi arallgyfeirio i faes ynni adnewyddadwy, yn sgil gosod tri llosgydd biomas 100kw a phaneli solar.

Mae Marc yn aelod o CFfI Pont-siân, ac mae ganddo rwydwaith eang o gysylltiadau yn ei ardal. Mae’n awyddus i annog ffermwyr i wneud defnydd o wasanaethau a phrosiectau Cyswllt Ffermio a all helpu i weddnewid effeithlonrwydd a chynhyrchiant busnesau yn y ffordd fwyaf effeithiol, yn enwedig o gofio fod y diwydiant yn wynebu cyfnod ansicr yn sgil Brexit.

Mae Marc hefyd yn rheoli tri grŵp sy’n trafod pynciau penodol, ym meysydd defaid, gwartheg sugno a llaeth. Dywed fod gwerth rhannu arferion gorau yn talu ar ei ganfed i bawb.

“Byddaf yn ymweld â marchnadoedd Tregaron ac Aberystwyth a marchnadoedd lleol eraill, ac rwy’n gobeithio y gwnaiff ffermwyr gysylltu â fi i ganfod sut y gall Cyswllt Ffermio eu cynorthwyo hwy a’u busnes fferm neu goedwigaeth i gyflawni ei botensial.”

“Mae holl wasanaethau Cyswllt Ffermio naill ai wedi’u cymorthdalu’n llawn neu eu hariannu hyd at 80% o’u costau, ac mae’n gwneud synnwyr i fusnesau ddefnyddio’r cymorth hwn i sicrhau eu bod yn gweithredu mor effeithlon ag y gallant ym mhob maes, ac i sicrhau nad ydynt yn methu cyfleoedd i ddysgu am ddulliau newydd neu fwy effeithlon o weithio.”

Contact information: 

Telephone number - 07985 379 887 
E-mail address - marc.bowen@mentera.cymru

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.