BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Elen Williams

Ardal: Dynbych

Elen Williams yw swyddog datblygu Cyswllt Ffermio ar gyfer Sir Ddinbych.

Magwyd Elen ar fferm bîff a defaid ger Dinbych, sydd wedi bod yn y teulu ers tair cenhedlaeth. Mae Elen yn parhau i gynnig help llaw yn rheolaidd gyda’r fuches sugno Limousin, sy’n cael eu gwerthu fel anifeiliaid stôr, a’r ddiadell o famogiaid Texel croes a miwl sy’n cael eu pesgi gartref ar y fferm neu’n cael eu gwerthu yn y marchnadoedd lleol.

Ar ôl gadael yr ysgol, bu Elen yn mynychu Coleg Cambria, Llaneurgain, gan gwblhau Diploma Cenedlaethol mewn rheoli anifeiliaid.

Dros y deng mlynedd nesaf, bu’n gweithio llawn amser fel clerc i arwerthwr mewn marchnad da byw lleol cyn ymuno â Mentera i weithio i Cyswllt Ffermio.

“Mae cymaint o gefnogaeth ac arweiniad ar gael drwy Cyswllt Ffermio, ac mae’n bwysicach nac erioed erbyn hyn i sicrhau bod eich busnes yn perfformio ar ei orau drwy fanteisio ar yr holl wasanaethau a phrosiectau arbennig sydd ar gael.”

“Mae’r rhain yn amrywio o deithiau cyfnewid i wledydd tramor wedi’u hariannu’n llawn i samplu pridd, ac o gyngor yn ymwneud â chynllunio olyniaeth a diogelwch fferm i raglen ‘FarmData+’, adnodd meincnodi poblogaidd Cyswllt Ffermio.

“Nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath, ond rydw i’n mwynhau’r her o gyfeirio ffermwyr yn fy ardal i at becyn o wasanaethau a allai eu cynorthwyo i fodloni eu hamcanion personol ac amcanion y busnes.”

Mae Elen yn ymweld â marchnadoedd da byw Llanelwy a Rhuthun yn rheolaidd, ac mae’n gobeithio y bydd ffermwyr yn cysylltu â hi.

“Mae gwasanaethau Cyswllt Ffermio yn cael eu hariannu’n llawn neu hyd at 80% ac mae’n gwneud synnwyr i bob busnes ddefnyddio’r gefnogaeth er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio mor effeithlon â phosibl ar draws yr holl feysydd yn yr hinsawdd heriol sydd ohoni.”

Mae Elen yn rheoli grŵpiau trafod ar gyfer ffermwyr defaid, bîff a llaeth, ac mae’n dweud bod hynny’n cynnig cyfle perffaith i ffermwyr archwilio syniadau newydd a chwrdd â ffermwyr eraill o’r un meddylfryd.

Contact information: 

Telephone number - 07985 379904

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.