BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Delyth Mair Jones

Ardal: Gorllewin Sir Gâr

Mae Delyth Mair Jones wedi’i phenodi’n swyddog datblygu ar gyfer Gorllewin Sir Gâr.

Cafodd Delyth ei magu ar fferm laeth, bîff a defaid y teulu yn Nhregaron, ac astudiodd amaethyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr. Ar ôl cael nifer o swyddi fel gweithiwr amaethyddol ac yn contractio, aeth i weithio ar fferm laeth Prifysgol Aberystwyth, cyn dychwelyd i gampws Gellir Aur Coleg Sir Gâr, lle cyfunodd rôl prif fugeiles ag astudiaethau rhan amser i ennill cymhwyster HND.

Cyn dod yn bartner a mam brysur i tri a jyglo teulu a gwaith, roedd Delyth yn aelod o CFfI Tregaron ac enillodd nifer o gystadlaethau barnu stoc. Roedd hi hefyd yn chwaraewr hoci brwdfrydig ac yn aelod o gôr lleol. Daeth ei brwdfrydedd ynghylch amaethyddiaeth yng Nghymru i’r amlwg pan oedd hi’n ifanc iawn – ‘dyma’r unig swydd yr wyf i wedi dymuno’i wneud’ – a bydd hi’n mwynhau gweithio gyda busnesau lleol i’w cyfeirio at wasanaethau Cyswllt Ffermio a’u cynorthwyo i ddatblygu a chyflawni’r perfformiad gorau yn holl feysydd eu gwaith.

“Rwyf wedi gweld o lygaid y ffynnon faint o gymorth mae fy nheulu fy hun wedi’i gael gan Cyswllt Ffermio, ac mae hynny wedi cynnig cipolwg da iawn i mi ar fuddion defnyddio’r holl ganllawiau, yr hyfforddiant a’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael.”

Contact information: 

Telephone number - 07772 694 112

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.