BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Meistr Regen

MasterRegen

Beth ddylid ei ddisgwyl? 

Mae Meistr Regen yn weithdy ar lefel gychwynnol i ffermwyr yn trafod egwyddorion ffermio da byw adfywiol. Mae’n darparu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn trawsnewid i fusnes cynaliadwy o safbwynt amgylcheddol, ariannol a chymdeithasol. Mae’r gweithdy’n canolbwyntio ar systemau proffidiol sy’n cyflawni buddion ariannol ac amgylcheddol. Bydd cyfranogwyr yn edrych ar iechyd y pridd, rheoli arferion pori, geneteg da byw, a dyluniad busnesau fferm er mwyn creu system wydn, gyda mewnbynnau isel.

Ar gyfer pwy mae’r gweithdy hwn? 

Mae’r gweithdy hwn yn ddelfrydol ar gyfer ffermwyr da byw sy’n dymuno mabwysiadu egwyddorion adfywiol, gwella iechyd y pridd, lleihau costau mewnbwn, a chreu model busnes cynaliadwy a phroffidiol sy’n cyd-fynd â’u nodau personol.

Cynnwys

  • Dysgu sut i wella iechyd a ffrwythlondeb y pridd yn naturiol drwy reoli’r borfa a phlanhigion.
  • Datblygu menter da byw cynhyrchiant uchel, mewnbwn isel.
  • Deall sut i ddewis geneteg da byw sy’n cyd-fynd â systemau adfywiol.
  • Cyfrifo cyfraddau stocio priodol a chreu cyllidebau porthiant cost effeithiol.
  • Dylunio systemau pori a pholisïau bridio sy’n cyd-fynd gyda nodau ariannol ac amgylcheddol.
  • Adeiladu model busnes sy’n cefnogi proffidioldeb hirdymor a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Tiwtor

James Daniel - Precison Grazing Ltd 

Fel sylfaenydd cwmni Precision Grazing Ltd, mae James yn arbenigo mewn pori adfywiol a rheoli busnesau fferm. Gyda phrofiad helaeth o helpu ffermwyr da byw i bontio i systemau mewnbwn isel, allbwn uchel, mae’n arbenigo mewn isadeiledd pori, iechyd y pridd, a chynllunio ariannol. Mae James yn darparu strategaethau ymarferol sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau i helpu ffermwyr i adeiladu busnesau proffidiol a gwydn.

Agenda Enghreifftiol

Diwrnod 1 

12pm – Cyrraedd a chinio 

1pm – Tasgau theori ac ymarferol

5pm – Gorffen a chofrestru yn y llety

6pm – Swper gyda siaradwr gwadd/taith fferm ac arhosiad dros nos

Diwrnod 2

8:30am – Teithio i’r fferm 

9am – Sesiynau ymarferol 

12pm – Gorffen a theithio adref

Dyddiad a Lleoliad

Mae lleoliad y Dosbarth Meistr i’w gadarnhau. Unwaith bydd y cyfnod ymgeisio wedi cau, byddwn yn ceisio trefnu lleoliad mor ganolog â phosibl. 

Meistr Regen6-7 Gorffennaf 2026

 

Cliciwch ar y ddolen isod i lenwi’r ffurflen gais. 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.