
Beth ddylid ei ddisgwyl?
Profiad dysgu’n seiliedig ar y dosbarth, wedi’i ddarparu ar fferm
Taith o amgylch y fferm i archwilio sut mae penderfyniadau ynghylch cynllunio cnydau’n dylanwadu ar gynhyrchiant, cylchdro, isadeiledd a rheoli’r fenter.
Ymarferion rhyngweithiol mewn grwpiau bach neu’n unigol wedi’u llunio i’ch cynorthwyo i roi cysyniadau allweddol ar waith yn eich busnes tyfu eich hun.
Cyfleoedd i drafod heriau a rhannu profiadau gyda thyfwyr eraill mewn amgylchedd dysgu cefnogol.
Ar gyfer pwy mae’r gweithdy?
Mae’r gweithdy’n addas ar gyfer tyfwyr profiadol a’r rhai hynny ar ddechrau’r broses o ddatblygu menter arddwriaeth
Mae’r dosbarth meistr hwn yn adeiladu ar themâu a archwiliwyd o fewn y Rhaglen Uwchraddio Garddwriaeth, gan gynnig mwy o ffocws ar gynllunio cnydau, trefnu cynhyrchiant, proffidioldeb a rheoli busnes. Mae cyfranogiad blaenorol yn y Rhaglen Uwchraddio’n fanteisiol ond nid yn orfodol, ac mae’r gweithdy ar gael i bob tyfwr a ffermwr sydd â diddordeb mewn datblygu neu ehangu ar fenter arddwriaeth.
- Tyfwyr garddwriaeth masnachol sy’n ceisio gwella effeithlonrwydd a phroffidioldeb eu cynlluniau cnydau.
- Tyfwyr newydd a thyfwyr sy’n datblygu sy’n chwilio am ddull strwythuredig i gynllunio cynhyrchiant a rheoli adnoddau.
- Ffermwyr sy’n ystyried arallgyfeirio i gynhyrchu cynnyrch garddwriaethol ac eisiau deall y gofynion cynllunio ar gyfer menter lwyddiannus.
- Cynhyrchwyr gerddi marchnad, llysiau, salad, perlysiau a chnydau cymysg sy’n dymuno gwneud y defnydd gorau o gylchdroadau ac amserlenni cynhyrchu.
Beth mae’r gweithdy yn ei gynnwys?
Diwrnod 1
- Deall agweddau sylfaenol cynllunio cnydau effeithiol ar gyfer mentrau garddwriaeth masnachol.
- Cynllunio cylchdroadau cnydau i gefnogi iechyd y pridd a lleihau pwysau o ganlyniad i blâu a chlefydau.
- Archwilio dulliau rheoli ffrwythlondeb y pridd a gofynion gwahanol gnydau o safbwynt maetholion.
- Cyfateb cnydau gyda’r tir, yr isadeiledd a’r llafur sydd ar gael, ac amcanion y busnes.
- Datblygu fframwaith ymarferol ar gyfer cynllunio cnydau y gellir ei addasu ar gyfer eich menter eich hun.
Diwrnod 2
- Asesu cyfleoedd marchnad a defnyddio galw i lywio dewisiadau cnydau a thargedau cynhyrchiant.
- Cynllunio cynhyrchiant o amgylch gofynion y cwsmer a sianeli gwerthiant.
- Asesu proffidioldeb cnydau a chostau cynhyrchu.
- Deall amserlenni cynhyrchu, plannu yn olynol a chynllunio ar gyfer cynaeafu.
- Gwerthuso costau cnydau, elw gros a phroffidioldeb i gynorthwyo gyda phenderfyniadau busnes.
- Datblygu dulliau ymarferol o reoli cnydau a chadw cofnodion.
- Defnyddio offer cynllunio cnydau i greu amserlenni hau, cynaeafu a chynhyrchu.
- Dod â chylchdroadau, rhagolygon gwerthiant a dewisiadau cnydau ynghyd i greu cynllun cnydau.
- Datblygu fframwaith ymarferol ar gyfer cynllunio cnydau y gellir ei addasu ar gyfer eich menter eich hun.
Tiwtoriaid 
Adam Payne yw un o gyd-sylfaenwyr cwmni Awen Organics, sef fferm lysiau organig 25 erw lwyddiannus yng Ngogledd Sir Benfro. Gyda dros ddegawd o brofiad mewn garddwriaeth fasnachol, cynllunio cnydau, gwerthu uniongyrchol a chynhyrchu ar gyfer cyfanwerthu, mae Adam yn cyfuno arbenigedd tyfu ymarferol gyda dealltwriaeth gadarn o’r egwyddorion busnes sy’n angenrheidiol er mwyn adeiladu menter arddwriaeth broffidiol a gwydn.
Agenda enghreifftiol
Diwrnod 1
9:30 – 10:00 Cyrraedd a chinio
10:00 -10:30 – Croeso a chyflwyniadau
10:30 -11:30 Sesiwn 1 Datblygu cylchdro cnydau cynaliadwy
11:30 -11:45 Egwyl
11:45 -12:15 Ymarfer, trafod ac adborth
12:15 -13:15 Taith fferm o amgylch cylchdroadau
13:15 – 14:00 Cinio
14:00 – 15:45 Sesiwn 3 Beth sydd ei angen ar eich cnydau o safbwynt ffrwythlondeb?
15:45 -16:00 Diwedd
Diwrnod 2
9:30 – 10:00 Cyrraedd
10-10:30 Chroeso a chyflwyniadau
10:30-11:30 Sesiwn 1 ‘Beth allwch chi ei werthu – am beth mae eich marchnad yn chwilio, a phryd?’
11:30 – 11:45 Egwyl
11:45 – 12:45 Sesiwn 2 – ‘Beth ddylech chi ei dyfu?’
12:45 – 13:30 Cinio
13:30 – 14:30 Taith fferm o amgylch y twneli gan archwilio sut rydym ni’n gwneud penderfyniadau ynghylch defnyddio gofod gwerthfawr dros y gaeaf
14:30 – 15:45 Sesiwn 3 ‘Dod â phopeth ynghyd’
15:45 – 16:00 Diwedd
Dyddiadau a lleoliadau
| Dyddiad | Lleoliad |
| 26 a 27 Tachwedd 2026 | Awen Organics, Fferm Eithin, Felindre Farchog, Crymych, SA41 3XW |