Mae cymhorthfa yn gyfle i gael cyngor un-i-un gydag ymgynghorydd ar eu pwnc arbenigol. Bydd y gymhorthfa yn eich galluogi i gael cyngor ac arweiniad sy'n benodol i'ch busnes. Byddwch yn gallu trafod syniadau busnes neu faterion a allai fod gennych yn fyr cyn symud ymlaen at gymorth pellach sydd ar gael trwy wasanaethau eraill Cyswllt Ffermio pe dymunir.
Gellir cynnal cymorthfeydd un-i-un mewn sawl ffordd i gyd-fynd â’ch busnes, gweler isod y gwahanol ddulliau cyflwyno:
| Dull cyflwyno | Hyd | Cyllid |
| Cymhorthfa ddigidol dros y ffôn neu blatfform digidol e.e. Teams / Zoom | 1 awr | Wedi'i ariannu'n llawn |
| Cymorthfeydd ar y fferm – *gweler rhestr o bynciau ar gyfer cymhorthfa ar y fferm isod* | 2 awr | Wedi'i ariannu'n llawn |
| Cymorthfeydd drwy’r dydd – bydd y rhain yn cael eu trefnu gan Cyswllt Ffermio ar wahanol bynciau. | 1 awr | Wedi'i ariannu'n llawn |
| Cymorthfeydd digidol | *Cymorthfeydd ar y fferm* |
|
Gall y rhestr hon newid yn ystod cyfnod y prosiect. |
I wneud cais, cwblhewch y ffurflen mynegi diddordeb isod neu cysylltwch â'ch swyddog datblygu lleol am ragor o wybodaeth.