Ydych chi'n ffermwr sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn gwaith ymchwil? Gall Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio eich helpu i gysylltu ag academyddion a sefydliadau ymchwil sy'n chwilio am gyfranogiad fferm mewn arolygon, prosiectau, arbrofion ac astudiaethau sy'n cynnig manteision clir i'ch busnesau ffermio.
Gall cyfleoedd gynnwys ffermwyr sy'n chwilio am –
- Arbenigedd technegol
- Cyfleoedd i gydweithio ar waith ymchwil
- Cymorth gydag arloesi
- Cyfleoedd i ddatblygu prototeipiau technoleg
- Mynediad at dimau amlddisgyblaethol
Bydd pob cyfle a hyrwyddir drwy Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio yn cefnogi egwyddorion Rheoli Tir yn Gynaliadwy ac yn cyd-fynd â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.