
Enw: Jessi Stephens
Cyfeiriad e-bost: jessi.stephens@agrisgop.cymru
Rhif ffôn symudol: 07447 463415
Lleoliad: Sir Fynwy, Gwent
Arbenigedd(au): Rheoli busnes, da byw bridiau prin, cigyddiaeth, marchnata
- Mae Jessi wedi adeiladu menter dda byw bridiau prin llwyddiannus ac amrywiol o'r cychwyn, gan roi profiad uniongyrchol iddi o'r cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu busnesau ffermio newydd a sefydledig. Fel partner ym menter dda byw gymysg ei theulu ym Mhorth Sgiwed, mae hi'n ymwneud â gwartheg bîff, moch, dofednod, defaid a micro-laethdy, gan gyfuno ffermio ymarferol â rheoli busnes, marchnata a datblygu mentrau.
- Gan ddod i fyd amaethyddiaeth o gefndir nad yw'n ffermio, mae Jessi yn deall pa mor werthfawr y gall cyngor dibynadwy, rhwydweithiau cryf a chymorth gan gymheiriaid fod wrth ddatblygu busnes. Ochr yn ochr â'i phrofiad ffermio ymarferol, mae hi wedi datblygu cyfleoedd marchnata newydd yn llwyddiannus, gan gynnwys creu cadwyn gyflenwi gydweithredol ar gyfer ham Sir Gaerfyrddin sy'n fuddiol i gynhyrchwyr lleol a chigydd Talgarth. Mae hi hefyd wedi dod â ffermwyr, busnesau a sefydliadau'r sector cyhoeddus ynghyd i edrych ar gyfleoedd i gynyddu'r defnydd o fwyd a gynhyrchir yn lleol.
- Yn hwylusydd a chyflwynydd profiadol, mae Jessi yn fedrus wrth ddod â phobl ynghyd i rannu syniadau, herio’r meddwl a nodi atebion ymarferol. Mae ei phrofiad o arwain yn ymestyn y tu hwnt i amaethyddiaeth, ar ôl cyflawni rolau uwch o fewn y proffesiwn cerddoriaeth yn flaenorol, lle bu’n arwain gweithdai, ymarferion a grwpiau mawr yn rheolaidd. Mae’r profiadau hyn wedi llunio arddull hwyluso gynhwysol sy’n annog cyfranogiad wrth gynnal ffocws clir ar gyflawni canlyniadau cadarnhaol.
- Mae Jessi yn credu bod Agrisgôp yn darparu'r amgylchedd delfrydol i ffermwyr a thyfwyr ddysgu oddi wrth ei gilydd, datblygu syniadau newydd a meithrin yr hyder i symud eu busnesau ymlaen.
"Fel newydd-ddyfodiaid i ffermio fy hun, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw cael pobl o'ch cwmpas sy'n barod i rannu eu profiadau a herio'ch meddwl mewn ffordd gefnogol. Mae Agrisgôp yn creu'r union amgylchedd hwnnw."
"Nid fy rôl i yw darparu'r holl atebion, ond helpu'r grŵp i ofyn y cwestiynau cywir, edrych ar gyfleoedd newydd a throi syniadau da yn gamau ymarferol."
Profiad, sgiliau, cymwysterau perthnasol
- Rhaglen Ffermwyr y Dyfodol – Prifysgol Harper Adams
- 2023 – Prifysgol Harper Adams
- 2011 – 2012 MMus (Arwain) – Prifysgol Caergrawnt 2011 – 2012
- 2007 – 2011 BA (Anrh) Cerddoriaeth (2:1) Prifysgol Leeds
- Lefel 2 Cadw Cyfrifon AAT
- NVQ Lefel 2 mewn Gwasanaeth i Gwsmeriaid